Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Ymneilltuaeth Wrecsam – Bro’r Eisteddfod

Y mae hanes Ymneilltuaeth yn Wrecsam a Bro Maelor yn mynd ôl i gyfnod y Piwritaniaid. Dywedir mai pregethu grymus Walter Cradoc  – ym 1634 – 35 – ddylanwadodd ar y rhai hynny sefydlodd yr achos cyntaf yn Wrecsam maes o law ac un o’r cyfryw rai oedd Morgan Llwyd o Wynedd. Yn wir fe gafodd Llwyd dröedigaeth o dan bregethu grymus Cradoc. Yn ddiweddarach dilynodd ef i dde Cymru ac i Lanfaches lle y sefydlwyd yr eglwys Anghydffurfiol gyntaf ym 1639. Dychwelodd i Wrecsam ym 1647 ac ymgartrefu ym Mryn-y-ffynnon, gan ofalu am “eglwys gynnull” y dref. Bu’n gweithio ym 1650 fel cymeradwywr Deddf Taenu’r Efengyl yng Nghymru ac fe lafuriodd yn ddygn fel pregethwr teithiol.

Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth yn y Gymraeg a’r Saesneg, a rhoddodd nifer o Salmau ar gân yn ogystal â chyfansoddi emynau. Argraffodd nifer o bamffledi a llyfrau, ac yn eu plith yr oedd y clasur hwnnw Llyfr y Tri Aderyn. Dywedodd Derec Llwyd Morgan amdano,

 “O blith mawrion, o ran amrywiaeth y dylanwad a fu arno, o ran cyffro’i rawd, o ran ystyfnigrwydd ffrwythlon ei unigolyddiaeth, ac o ran ei arwyddocâd yn ei ddydd, Saunders Lewis yw’r unig un sy’n cymharu ag ef. Ac ym mrwydr yr oesau, ni hoffwn orfod dewis rhyngddynt.”

Bu farw ym 1659 a rhoddwyd ei weddillion i orffwys ym mynwent yr Anghydffurfwyr yn Rhos-ddu Wrecsam. Y mae cofgolofn iddo yno a ddadorchuddiwyd ym 1912.

Eglwys Annibynnol Wrecsam

Dechreuodd eglwys Annibynnol Gymraeg y dref ym 1820 o dan arweiniad gôf o’r enw Hugh Price a hynny mewn stafell oedd yn cael ei rhentu. Ar ôl cyfnod o 24ain blynedd yn yr ystafell llwyddwyd i gael tir yn Pentrefelin ac yno yr adeiladwyd y capel cyntaf ar gost o £200 ac fe’i agorwyd yn swyddogol ar Fedi’r cyntaf 1844. Ond lled ddilewyrch fu’r achos o dan weinidogaeth Price hyd ei farwolaeth. Bywiogodd pethau pan ddaeth Rowland Williams (Hwfa Môn) i weinidogaethu. Symudodd gŵr o’r enw Charles Griffiths o’r achos Saesneg yn King’s Mill gan ymuno â’r eglwys Gymraeg a bu ef yn hael iawn tuag at y gwaith. Trwy ei ymdrechion ef cafwyd tir i adeiladu capel Queen Street yr hwn a agorwyd 28 -29 Mawrth 1863 ar gost o £2,800 a hynny’n cynnwys tŷ capel. Enwyd y capel yn Ebeneser. Wrth i’r capel gael ei godi symudodd R. Williams i Fethesda, Gwynedd, a daeth Owen Evans, Llundain, i lenwi’r bwlch hyd 1867.Y flwyddyn ganlynol rhoddwyd galwad i John Morlais Jones i weinidogaethu ond ni bu ei arhosiad yn hir cyn iddo symud i Frynaman. Yn y flwyddyn 1871 daeth David Roberts, Caernarfon, i fod yn fugail ar yr eglwys.

Rowland Williams (Hwfa Môn)

Dyna fras olwg ar gychwyn yr eglwys Annibynnol yn Wrecsam. Mae llawer mwy o hanes y gellid ei adrodd. Bellach y mae eglwys Ebeneser wedi uno gydag Eglwys Bresbyteraidd Capel y Groes ac yn addoli fel un gynulleidfa.