Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Adolygiad o Strange New World

How thinkers and activists redefined identity and sparked the Sexual revolution gan Carl R. Truman.

Llowciais y gyfrol hon mewn ychydig ddyddiau oherwydd ei bod wedi diwallu angen fu yn fy meddwl ers blynyddoedd ynglŷn â’r chwyldro rhywiol. Gyda choncwest LGBTQ+ a datblygiadau diweddar mewn hunan adnabyddiaeth (fi/hi/ef/chychwi/hwynthwy) a’r mudiad trawsrywiol yr oeddwn yn teimlo ychydig bach  yn y niwl. Un o’r rhesymau am hynny oedd nad oedd gennyf unrhyw ddealltwriaeth sut a pham mae hyn wedi digwydd. Nid oedd gennyf glorian addas i bwyso a mesur y ffeithiau.  Mae rhai datblygiadau yn y feddylfryd gyfoes ôl Gristnogol yn dir dieithr iawn i nifer ohonom. Am hynny cydiodd y teitl, Strange New World yn fy nychymyg. Ni allwn fel Cristnogion lyncu syniadaeth ac athroniaethau sy’n ymddangos yn y gymdeithas heb i ni gael cyfle gwirioneddol i ystyried, ymchwilio a thrafod eu harwyddocad ochr yn ochr a’r Beibl.

Felly, roedd darllen y gyfrol hon yn rhoi cyd-destun i mi o’r hyn sydd wedi digwydd gyda’r chwyldro rhywiol a rhyweddol a fod y syniadaeth esgorodd ar hyn yn mynd yn ôl llawer ymhellach na’r 1960au. Y mae 9 pennod yn y llyfr 204 tudalen ac o bennod 1 – 5 y mae’r awdur yn  cyflwyno syniadaeth gan athronwydd a meddylwyr sydd wedi arwain at y fan lle rydym nawr o ran hunanadnabyddiaeth a moesoldeb. Isod dyma roi crynodeb i chi o’r cynnwys.

Pennod 1

Yn y bennod hon y mae’n agor y maes y mae am ei drafod gan osod seiliau. Cyflwyna bwysigrwydd yr hunan i’r byd modern Gorllewinol. Diffinia beth oedd y chwyldro rhywiol yn y 60au a’r danchwa fu ar y safonau moesol  fu o fewn i gymdeithas ers canrifoedd. Dywed,

“At the heart of this book is a historical narrative that is concerned pirmarily with the ideas of a number o intellecrual figures, from Jean-Jacques rousseau and Mary Wollstoncraft throught to Germaine Greer and Yuval Lebin. And yet if my thesis is correct – that expressive individualism is the default setting for understanding our selves  in the twenty-first century – the ovious question to ask is: How did this come about, when so few people today have heard of, let alone read, the various thinkers that I discuss?” (Tud. 26)

Pennod 2

Yn yr ail bennod fe â at yr hyn a ystyria fel seiliau cychwynnol y syniadaeth sy’n cael ei derbyn yn bur gyffredinol erbyn hyn. O fewn i’r syniadaeth hon mae i deimladau mewnol ac argyhoeddiad seicolegol yr unigolyn awdurdod pellgyrhaeddol. Mae hanes datblygiad y syniadaeth hon yn hir a chymleth. Rhai cymeriadau allweddol yn y broses yw pobl fel Rene Descartes a Jean-Jaques Rousseau.

Pennod 3

Yn y drydedd bennod mae’n trafod y cam nesaf yn y syniadaeth sef fod pobl yn gwadu bod fod gwerth cynhenid  i’r natur ddynol nac unrhyw strwythr rhagosodeidig penodol i’n hymddygiad. Y mae moesoldeb, natur yr unigolyn a’i hunanynwybyddiaeth yn ffrwyth eu hamgylchiadau yn unig a dim arall. Yma, mae’n cyflwyno syniadaeth G. W. F. Hegel a Karl Marks. Roedd y ddau hyn yn dadlau mai amgylchiadau materol, yn enwedig dylanwadau economaidd sy’n ffurfio ein dealltwriaeth o reality. O ganlyniad y mae pob amlygiad crefyddol a chred mewn duw yn ymateb i’r amgylchiadau a’r hinsawdd economaidd yr ydym yn byw ynddynt. Yma hefyd y mae’n tynnu ein sylw at waith Friedrich Nietzche a’r modd y datblygodd  ef “ddiwinyddiaeth marwolaeth Duw,” a fu yn ddylanwadol am gyfnod yn y cylchoedd athrawiaethol. Pendraw y ddealltwriaeth hon, yw dod i’r casgliad nad oes y fath beth a moesoleb ragosodedig gan Dduw neu grefydd neu hyd yn oed wladwriaeth. Moesoldeb gyfoes yw’r hyn y mae’r mwyafrif yn credu sydd yn iawn ac felly y mae’n newid o oes i oes.

Pennod 4 – 6

Gellir crynhoi’r bedwaredd bennod sy’n ymwneud â hunaniaeth  a rhywioldeb gyda’r dyfyniad isod.

“The simple answer is that sexual desire has emerged in the last one hundred years as a primary category for understanding our identity. In biblical times or in ancient Greece, sex was regarded as something that human beings did; today it is considered to be something vital to who human bings are. Hence, we now have the whole notion of sexual identity and the ever-expanding letters that make up the LGBTQ+ alliance.”

Ar ôl trafod meddylwyr, athronwyr a syniadaeth yn y 4 pennod cyntaf yn y pennodau sy’n dilyn y mae’n newid trywydd ac yn ystyried dylanwadau eraill sydd ar waith. Mae’r bumed bennod yn allweddol. Yma, dadleua fod cymdeithas yn ystod y ganrif ddiwethaf wedi newid o fod yn un sefydlog i fod yn un “blastig.” Defnyddia’r gair “plastig” er mwyn cyfleu’r syniad fod pobl bellach yn gallu penderfynu pwy a beth ydynt heb unrhyw ddylanwadau allanol e.e., teulu, cymuned neu eglwys. Y prif ffactorau cymdeithasol sydd wedi cyfrannu at hyn yw technoleg, sydd yn cynnwys meddygaeth, dulliau atal genhedlu,  trafnidiaeth, cyfrifiadureg, cyfryngau cymdeithasol a cherddoriaeth. Mae technoleg yn caniatau i berson fod yn unrhyw beth a fynn, mewn unrhyw leoliad gan gysylltu gyda phobl debyg iddo ef/ hi ei hun. Golyga hyn fod technoleg yn tanseilio yr hyn a ystyrid yn awdurdod traddodiadol fel gwladwriaeth, cenedligrwydd, teulu ac eglwys. Mae hon yn bennodd eithriadol o ddifyr a dadlennol.

Pennodau 7 – 9

Ym mhennod 7 ac 8 y mae trafod pellach ar y Chwyldro Rhywiol a LGBTQ+ a’r mudiad Trawsrywiol. Mae’r byd wedi mynd yn le dyrrus i fyw ynddo,

“The old chestnut of “love the sinner, hate the sin” simply does not work in a world where the sin is the identity of the sinner and the two cannot be seperated even at a conceptual level. In a time when the normative notion of selfhood is psychological, then to hate the sin is to hate the sinner. Christians who fail to nore this shift are going to find themselves very confused by the incomprehension of, and indeed the easy offence taken by the world around them.”

Wrth gloi, yn y 9fed bennod y mae’n tafoli’r hyn mae wedi ei gyflwyno yn y llyfr  trwy roi awgrymiadau sut y gall Cristnogion ymateb i’r hyn sy’n digwydd o fewn i’r gymdeithas heddiw a hynny gyda chariad ac amynedd.

Ychydig am yr Awdur

Y mae Carl R. Trueman (Ganwyd 18 Mawrth, 1967) yn ddiwinydd a hanesydd Crisntogol. Roedd yn Athro Diwinyddiaeth Hanesyddol a Hanes yr Eglwys yn y Westminster Theological Seminary, where he held the Paul Woolley Chair of Church History. Yn 2018 gadawodd Trueman Westminster er mwyn mynd yn Athro yng Nghyfadran Astudiaethau Beiblaidd a Chrefyddol yn y Grove City College Pennsylvania, UDA, lle bu’n ddeiliad Cadair Hanes yr Eglwys Paul Wooley. Mae’n awdur toreithiog a theitlau rhai o’i lyfrau yw John Owen: Reformed Catholic, Renaissance Man,The Creedal Imperative, Fools Rush in Where Monkeys Fear to Tread: Taking Aim at Everyone, and Republocrat: Confessions of a Liberal Conservative a The Rise and Triumph of the Modern Self: Cultural Amnesia, Expressive Individualism, and the Road to Sexual Revolution.