Ers milenia roedd Duw wedi addo, trwy genedl yr Iddewon, waredwr i ddynoliaeth. Person fyddai’n dod a iachawdwriaeth a theyrnas Dduw yn ei grym i blith dynoliaeth. Dyma a ddigwyddodd yn yr Arglwydd Iesu. Paratôdd ffordd i gymodi pobl â Duw, pobl gyda’i gilydd gan ein galluogi i fyw a hyrwyddo Teyrnas Dduw sy’n llawn cariad, cyfiawnder a heddwch.

Pan atgyfododd yr Iesu roedd y gwaith achubol wedi ei gwblhau, trwy ei fywyd perffaith, ei farwolaeth ar y groes a’i atgyfodiad. Rhan nesaf cynllun Duw oedd cymhwyso yr hyn wnaed yn yr Iesu i fywydau pobl a’r greadigaeth. (Y Drindod ddwyfol, y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân yn cydweithio.) A dyma oedd rhan o waith yr Ysbryd Glân. Cymryd gwaith achubol Iesu, ei esiampl a’i ddysgeidiaeth a’u cymhwyso i fywydau pobl. Pan dywalltwyd yr Ysbryd ar ddydd y Pentecost gwnaeth yr Ysbryd y 4 peth canlynol, ymhlith eraill. Creodd gymuned o bobl oedd yn credu yn Iesu; cadarnhaodd ffydd y rhai a gredodd; rhoddodd ddoniau arbennig iddynt ac fe’i gwnaeth yn gymuned Crist ganolog, garedig ac enillgar oedd yn ymestyn allan gyda’r newyddion da.
Wrth gwrs am 3 blynedd cyn i’r Ysbryd Glân ddod mewn grym, roedd Iesu wedi rhoi hyfforddiant dwys i griw bychan o 12. Cynyddodd hynny i 72 ac yna i 120. Wedi’r Pentecost roedd miloedd yn dod i ffydd ac yn ddisgyblion i’r Iesu ac roedd yr Ysbryd yn eu helpu i ddeall ac ufuddhau i ddysgeidiaeth Iesu. Fel hyn roedd y Deyrnas a’r gymuned Gristnogol yn tyfu.
Mae’r Ysbryd ar waith heddiw yn cymhwyso gwaith Iesu gan ei wneud yn ddealladwy i bobl. Efallai mai un ffordd ymlaen inni heddiw yw hyfforddi nifer bychan o bobl fydd yn barod i fynd allan a rhannu’r Efengyl.
“Ymddangosodd iddynt dafodau fel o dân yn ymrannu ac yn eistedd un ar bob un ohonynt; a llanwyd hwy oll â’r Ysbryd Glân, a dechreusant lefaru â thafodau dieithr, fel yr oedd yr Ysbryd yn rhoi lleferydd iddynt.”
(Act 2:3-4)
GWEDDI’R PENTECOST
Tyrd, Ysbryd Glân, i’n c’lonnau ni
A dod d’oleuni nefol.
Tyrd megis Anadl Duw,
A’n bywiocáu.
Tyrd megis Tafodau Tân,
A’n puro’n llwyr.
Tyrd megis Dyfroedd Byw,
A’n diwallu.
Tyrd megis Gwynt Nerthol,
A’n cynhyrfu.
Tyrd megis Colomen Wen
Â’i hedd i ni.
Tyrd megis y Diddanydd Mwyn,
A’n cysuro.
Tyrd, Arglwydd, yn dy holl gyflawnder,
A llanw ni â’th ras. Amen.
(Allan O Mil a Mwy o Weddïau, Edwin C. LewisDaw’r cwpled cyntaf o emyn Lladin yn perthyn i’r 9ed ganrif: Veni, Creator Spiritus.)
