Pam fod yr atgyfodiad yn bwysig. Dyma 4 peth.
Yn y 15fed bennod o’i Lythyr Cyntaf at y Corinthiaid y mae Paul yn ysgrifennu am yr atgyfodiad yn benodol ac yn yr adnodau agoriadol fe bwysleisia mai newyddion da yw’r Efengyl Gristnogol sydd yn achub pobl o golledigaeth. Fel y gwyddoch ystyr y gair Groeg “euangelion” a gyfieithir efengyl yn y Gymraeg yw newyddion da. Fe ysgrifenna Paul ymhellach,
3Y prif beth wnes i ei rannu gyda chi oedd beth dderbyniais i, sef: bod y Meseia wedi marw dros ein pechodau ni, fel mae’r ysgrifau sanctaidd yn dweud. 4Yna ei fod wedi’i gladdu, a’i fod wedi’i godi yn ôl yn fyw ddeuddydd wedyn, fel mae’r ysgrifau’n dweud.
Yma y mae’n nodi sylfaeni’r newyddion da sef bod Iesu wedi marw dros ein pechodau, fel y dywedodd y proffwydi, ac wedi ei godi yn ôl yn fyw. Ystyriwn 4 peth pwysig am yr atgyfodiad.

- Y peth cyntaf yw fod yr atgyfodiad yn ddigwyddiad hanesyddol. Nid ffrwyth dychymyg ydyw na chwedl tylwyth teg. Ni ellir gosod hanes atgyfodiad yr Iesu ochr yn ochr a’r Pair Dadenni, y cyfeirir ati yn ail gainc y Mabinogion sef Branwen ferch llŷr.
Cred rhai mai ffrwyth dychymyg yw’r atgyfodiad. Tybiant mai’r hyn oedd ysgrifenwyr yr Efengylau am ei wneud oedd ceisio calonogi pobl yn dilyn marwolaeth Iesu trwy ychwanegu rhyw stori bach neis. Ond digwyddiad hanesyddol yw’r atgyfodiad a dyma beth mae Paul yn ei bwysleisio ar ddechau 1 Cor. 15, trwy gyfeirio at lygaid dystion. Ysgrifennodd,
“Wedyn bod Pedr wedi’i weld, a’r deuddeg disgybl. 6Ar ôl hynny, cafodd ei weld ar yr un pryd gan dros bum cant o’n brodyr a’n chwiorydd ni sy’n credu! Mae’r rhan fwya ohonyn nhw’n dal yn fyw heddiw, er bod rhai sydd bellach wedi marw. 7Yna gwelodd Iago fe, a’i gynrychiolwyr eraill i gyd. 8Ac yn olaf, ces i ei weld – ie, fi, yr ‘erthyl’ o apostol.
Roedd nifer fawr o dystion welodd Iesu ar ôl iddo atgyfodi.
- Yn ail, mae atgyfodiad Iesu’n brawf bod yr hyn a wnaeth Iesu trwy ei fywyd perffaith a’i farwolaeth ar y groes yn ddilys, digonol ac effeithiol. Yr hyn mae’r Beibl yn ein ddysgu yw mai canlyniad ein hanufudd-dod i Dduw yw marwolaeth. Cyn y cwymp yn Genesis nid oedd marwolaeth, na dirywiad, na phydredd, na drygioni, na phechod nac anghyfiawnder. Mae ein hanufudd-dod wedi ein rhwygo oddi wrth Dduw ac wedi rhwygo’r greadigaeth. Fel y dywedir yn Rhufeiniaid.
“Marwolaeth ydy’r cyflog mae pechod yn ei dalu, ond mae Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia. – Rhufeiniaid 6:23
Felly er mwyn adfer pethau i fod fel y bwriadwyd iddynt fod roedd rhaid delio gyda phechod. Dyma wnaeth Iesu ar y groes. Er ei fod ef yn berffaith fe gymerodd holl ddrygioni’r byd ar ei ysgwyddau ei hun a chael ei gosbi yn ein lle ni. Ond oherwydd ei fod yn berffaith nid oedd gan farwolaeth hawl arno ac felly fe gafodd ei gyfodi. Roedd ei waith yn effeithiol.
- Yn drydydd, mae atgyfodiad Iesu yn golygu bod marwolaeth wedi ei goncro am byth a bod yr Iesu’n rhannu ei fuddugoliaeth gyda ni. Ef yw’r blaenffrwyth, y cyntaf sydd wedi atgyfodi ac fe fydd eraill yn ei ddilyn. Dyma arwyddocad 1 Corinthiaid 15: 20 – 22
20Ond, y gwir ydy bod y Meseia wedi’i godi yn ôl yn fyw! Mae e fel y ffrwyth cyntaf i ymddangos adeg y cynhaeaf – fe ydy’r cyntaf o lawer sy’n mynd i gael eu codi.
Mae’r Iesu yn rhannu ei fuddugoliaeth gyda phob un sy’n credu ynddo. Dyma gychwyn y bywyd newydd, dyma gychwyn y greadigaeth newydd.
- Ac yn olaf, roedd atgyfodiad Iesu yn gorfforol. Mae hwn yn bwynt amlwg ond eithriadol bwysig. Nid atgyfodi fel ysbryd wnaeth Iesu, fel petai ei enaid wedi ei ryddhau o gaethiwed materoliaeth ond atgyfodi yn gorfforol. Roedd ei gorff yn wahanol, yn sicr, oherwydd nid oedd pobl yn ei adnabod yn syth. Eto corff materol ydoedd oedd yn bwyta ac yfed. “Corff ysbrydol” yw’r term y mae Paul yn ei ddefnyddio. (1 Cor. 15:43) Golyga hyn nad rhywbeth drwg yw’r materol, na’r greadigaeth na’r corff dynol ond rhywbeth da a grewyd gan Dduw. Ac fe’u crewyd er mwyn iddynt fod yn barhaol. Ac o ganlyniad rydym fel Cristnogion yn edrych ymlaen yn hyderus i’r dyfodol oherwydd bydd y greadigaeth, rhyw ddydd, yn cael ei hadnewyddu i fod yr hyn y bwriadwyd iddi fod.
22Dŷn ni’n gwybod fod y greadigaeth gyfan yn griddfan fel gwraig sydd mewn poen wrth eni plentyn. 23Ac nid dim ond y greadigaeth sy’n griddfan, ond ni hefyd sy’n Gristnogion, ac wedi derbyn yr Ysbryd Glân fel rhagflas o beth sydd i ddod. Dŷn ni hefyd yn griddfan o’n mewn wrth ddisgwyl i’r diwrnod ddod pan fydd Duw yn ein mabwysiadu ni ac y bydd ein corff yn cael ei ollwng yn rhydd.” Rhufeiniaid 8
Dyma 4 rheswm pam fod yr atgyfodiad yn hanfodol. Llawenhawn fod Iesu Grist wedi cael ei gyfodi a fod gennym obaith tragwyddol.
