
Yn llyfr Genesis fe gawn hanes dramatig ymadawiad cenedl Israel o’r Aifft a hynny trwy ymyriad goruwchnaturiol Duw yn eu hanes. (Exodus 12) Roeddent yn gaeth, yn orthrymedig a diobaith. Eto, roedd gan Dduw ddyfodol gwahanol ar gyfer ei bobl ac yn rhydd y daethant. Mae hwn yn ddigwyddiad sydd wedi gadael ei ôl yn drwm ar ddynoliaeth o hunanymwybyddiaeth yr Iddewon, i ganeuon y caethweision, y mudiad hawliau dynol, emynau Pantycelyn a Steve Eves yn canu “Ymlaen mae Canan.”
Ond yn bennaf oll mae ei ddylanwad i’w weld ar Gristnogaeth oherwydd ei fod yn ddigwyddiad oedd yn gysgod o’r hyn oedd i ddigwydd yn Iesu. Dyma pam fod Ioan Fedyddiwr wedi dweud am yr Iesu, “Dyma Oen Duw, sy’n cymryd ymaith bechod y byd!” (Ioan 1:29) Yr hyn ddigwyddodd yn yr Aifft oedd (Exodus 9) fod Duw wedi gofyn i bob teulu Iddewig i gymryd oen gwryw heb nam arno, ei ladd a rhoi ei waed ar ffrâm drws eu tai. Byddai gwaed yr oen yn arbed bywyd y cyntaf-anedig ond byddai cyntaf-anedig yr Eifftiaid yn marw. Mae’n hanes anodd, creulon a thrist ond o ganlyniad fe ryddhawyd yr Iddewon o’u caethiwed yn yr Aifft. Yn sgil hyn er mwyn iddynt gofio am drugaredd Duw yn eu rhyddhau, roedd yr Iddewon yn aberthu oen yn flynyddol ac yn cynnal pryd syml o’r enw seder. Dyma’r pryd y bwytaodd Iesu a’r disgyblion ar nos Iau cablyd ac ar ddydd Gwener y Groglith roedd oen y Pasg yn cael ei aberthu am 3.00 yn y Deml yn Jerwsalem
Iesu’r Oen
Dyma pam fod yr Oen a’r gwaed yn rhan allweddol o hanes y Pasg yn y ffydd Gristnogol. Trwy waed yr oen fe gafwyd rhyddid a maddeuant pechodau. Cysgod oedd hyn yn hanes Israel o’r hyn oedd i ddigwyddodd yn yr Iesu. Iesu yw Oen tragwyddol Duw a bu farw ar y groes er mwyn ein rhyddhau o gaethiwed pechod a’n glanhau fel bod Duw yn ein derbyn. Meddai Pedr,
Gwyddoch nad â phethau llygradwy, arian neu aur, y prynwyd ichwi ryddid oddi wrth yr ymarweddiad ofer a etifeddwyd gennych, ond â gwaed gwerthfawr Un oedd fel oen di-fai a di-nam, sef Crist. (1Pe 1:18-19)
Ac fel hyn y mae DAFYDD JONES, (1711-77) yn dathlu yn ei emyn,
Hwn yw’r Oen, ar ben Calfaria
aeth i’r lladdfa yn ein lle,
swm ein dyled fawr a dalodd
ac fe groesodd filiau’r ne’;
trwy ei waed, inni caed
bythol heddwch a rhyddhad.
Atgyfodiad
Nid y groes a’r farwolaeth yw diwedd hanes y Pasg ond bedd gwag ac atgyfodiad, ac mae hyn mor bwysig. Pe na bai Iesu wedi atyfodi ni fyddai gobaith inni. Ni fyddai maddeuant na perthynas gyda Duw na bywyd tragwyddol. Pechod yw’r rheswm ein bod yn marw. Felly pe bai Iesu wedi aros yn y bedd fe olygai hynny o leiaf ddau beth. 1. Nad oedd ei farwolaeth ar y groes wedi delio gyda phechod. 2. Bod Iesu yn bechadur a chanlyniad hynny ydy marwolaeth. Ond oherwydd ei fod wedi atgyfodi fe’n cymodir ni â Duw, fe gawn faddeuant i’n pechodau a bywyd tragwyddol. Fel y canodd Gwilym ab Elis 1752 – 1810 mor orfoleddus,
Ni allodd angau du
ddal Iesu’n gaeth
ddim hwy na’r trydydd dydd
– yn rhydd y daeth;
ni ddelir un o’i blant
er mynd i bant y bedd,
fe’u gwelir ger ei fron
yn llon eu gwedd.
Canwn ninnau gydag ef yn llawn llawenydd yn yr iachawdwriaeth fawr.
O ia, yr unig beth sydd rhaid inni ei wneud yw credu yn Iesu, edifarhau ac ymddiried ynddo weddill ein hoes. Wyt ti yn credu ynddo? Beth am wneud hynny nawr?
Fy enaid, cred, yn unig cred
Yn Iesu mawr ei Hun;
Mae pob cyflawnder ynddo Ef
Er maint yw eisiau dyn.
Er ofni marw trwy fy oes,
Mi bwysaf ar ei air;
Yr hwn a gredo ynddo Ef,
Er marw, fe’i bywheir.
Thomas William.
