
Oddeutu 1653 fe argraffwyd y “Llythyr i’r Cymru Cariadus” gan Morgan Llwyd. Wrth ei ddarllen fe ddaw’r darllenydd yn fuan i weld ei fod yn pwysleisio dau beth. Yn gyntaf, roedd Llwyd yn ymwybodol iawn o’i Gymreictod o’r iaith Gymraeg ac yr oedd yn caru ei bobl yn ddirfawr. Yn ei lythyr y mae’n cyfarch ei gyd-gymry yn llawn teimlad. Yn ail, mae’n galw ar y Cymry i gredu yn Iesu Grist. Dyma’r mynegiant mwyaf o gariad y gallwn ei fynegi i’n pobl, ein dyhead iddynt gael eu cymodi â Duw. Mae’n ysgrifennu fel hyn,
“Ag och och och fod llaweroedd or Cymru…. yn gorwedd yn rhwymyn anwiredd yngwely Babel yn pori yngwerglodd y cythrael i borthi y cnawd, heb adnabod y Duw anweledig ai gwnaeth, nar Duw bendigedig ai prynnodd, nar Duw caredig sy’n gweiddi wrth ei drysau am gael dyfod i mewn iddynt i aros ynddynt.”
“Ond ô y Cambero (y cymro, ni wn i moth henw di er fy mod i (drwy oleuni Duw) yn canfod dy naturiaeth di) Nid yw’r un o’r rhain yn adnabod daioni, nag yn ddilyn Duwioldeb, nag yn ehedeg uwchlaw’r haul at breswyliwr Tragwyddoldeb, nag yn gweled drwy ffydd y graig ai cenhedlodd. Ond mae’r bobl yn ceisio’r byw ymysg y meirw, yn chwilio am yr haul ymhyllau’r ddaiar, ac yr wyti yn chwennychu y rhossyn, heb fynnu dyfod ir ardd iw gyrchu ond darfod ar dy draed wrth edrych dros y mûr.”
Wrth i ni ddathlu ein Cymreictod ar Fawrth y cyntaf dylem ofyn i Dduw roi ynom ni yr un ing ysbrydol oedd yng nghalon Morgan Llwyd dros ei genedl. Roedd yn caru ei genedl ac am weld ei gydwladwyr yn dod i gredu yn yr Arglwydd. Heddiw eto, yr hyn sydd wirioneddol ei angen yng Nghymru 2025 yw i genhedlaeth newydd ddod i ffydd yn Iesu Grist. Rydym yn genedl sydd ar goll hebddo. Dyma yw’r unig beth fydd yn newid ein sefyllfa ysbrydol drychinebus. “Bywha dy waith o fewn ein tir, arddeliad mawr fo ar y gwir.”
