Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Siarad Wast

Erbyn hyn rwyf wedi byw talp helaeth o fy mywyd i lawr yma yn y de. A bod yn fanwl gywir y mae hynny’n 30 mlynedd eleni. Nid wy’n credu, er i’r holl flynyddoedd wibio heibio, fy mod yn swnio fel un o frodorion y deheudir, a bellach, go brin y bydd fy acen yn newid. Ond rhaid i mi gyfaddef fy mod yn hoff iawn o rai geiriau deheuol ac hyd yn oed yn barod i’w mabwysiadu. Un o’r geiriau cyntaf a ddysgais yng nghegin yr hen Ebeneser, Heol Siarl, oedd y gair lletwad. Roeddem yn gweini cawl Gŵyl Ddewi a gofynnais i Megan Williams,”Ble mae’r llwy fawr?” atebodd hithau, “Nid llwy fawr yw honna ond, lletwad!” Nid oeddwn erioed wedi clywed y gair. Ond bellach, lletwad yw’r gair a ddefnyddiaf ar bob cyfle. Dau air arall rwy’n hoff ohonynt yw “jicôs” a “moelyd.” I’r rhai ohonoch sy’n anghyfarwydd â hwy, ystyr y cyntaf yw “dedwydd” ac ystyr yr ail yw “troi wyneb i waered”. (Mae ceir yn moelyd mewn damweiniau ar yr M4) Da di geiriau. Ond yr idiom ddeheuol sy’n dod ar frig fy rhestr ar ddiwedd 2024 a dechrau 2025 yw “siarad wast.”  Ei ystyr, hyd y gwelaf fi, yw rwdlan neu siarad lol disylwedd.

2024

Yn ystod y flwyddyn a aeth heibio y mae llawer o siarad wast wedi bod mewn llu o gyfeiriadau i’r fath raddau fel ein bod yn cael trafferth i wahaniaeth rhwng y gwir a’r gau. Y mae llawer o wleidyddion, arweinyddion, cyfathrebwyr, dylanwadwyr, haneswyr, arweinyddion crefyddol yn paldaruo yn ddiddiwedd. Gall hyn fod yn beryglus iawn. Bellach mae pob Dic Siân Dafydd yn dyrchafu eu hunain fel arbenigwr ar bopeth ac y mae Prifysgol Gŵgl yn caniatáu iddynt wneud hynny. Mae siarad wast yn ffasiynol ac yn rhan o sin gyfoes ein diwylliant byd-eang. Wrth gwrs y mae’r cyfryngau digidol a chymdeithasol yn rhoi llwyfannau dirifedi i bobl barablu a baldorddi a neb, dim hyd yn oed llywodraethau, gyda’r grym na’r awydd i roi caead ar eu piser. Pa ots os yw rhywun yn rhaffu celwyddau, onid mater o farn yw hynny yn y bôn? Y prif angenrheidiau i lwyddo yw arabedd, hunanhyder a delwedd drawiadol. Trwy hynny fe argyhoeddir llawer fod y bobl hyn yn dweud y gwir ac y dylid eu credu a’u dilyn. Duw a’n gwaredo! Maent yn ymdebygu i rai anrhegion Nadolig sy’n rhwysgfawr, lliwgar, addurnedig, rhubanedig a deniadol ond o’u hagor nid oes na sylwedd na gwerth ffeuen ynddynt.

Twyllo

Un o’r problemau mawr gyda siarad wast yw fod pobl yn cael eu twyllo a’u harwain ar gyfeiliorn yn feddyliol, ysbrydol, emosiynol ac egwyddorol. Mae cymaint o safbwyntiau ac argyhoeddiadau yn cael eu chwydu o’r cyfryngau fel nad yw pobl yn gallu eu dadansoddi na’u dirnad. O ganlyniad y mae rhai yn cael eu drysu yn llwyr ac yn ymateb yn garlamus, byrbwyll a difeddwl gan fynd gyda’r llif.

Gogleisiol

Nid rhywbeth newydd yw hyn oherwydd y mae wedi bod yn digwydd trwy’r milenia. Roedd yn digwydd yn yr eglwys yn nyddiau cynnar Cristnogaeth. Dyma pam fod Paul yn rhybuddio Timotheus ifanc fel hyn.

“Mae’r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn gallu goddef dysgeidiaeth dda. Byddan nhw’n dilyn eu chwantau eu hunain ac yn dewis pentwr o athrawon fydd ond yn dweud beth maen nhw eisiau ei glywed. (“oglais eu clustiau.” BCN) 4Byddan nhw’n gwrthod beth sy’n wir ac yn dilyn straeon celwyddog. 5Ond, Timotheus, paid cynhyrfu beth bynnag sy’n digwydd. Paid bod ag ofn dioddef. Dal ati i rannu’r newyddion da gyda phobl, a gwneud y gwaith mae Duw wedi’i roi i ti.” 2 Tim 4:3 beibl.net

Roedd rhai yn siarad wast o fewn i’r eglwys.

Fel Cristnogion yn 2025 y mae angen inni fod yn ddylanwad sefydlog a chall o fewn i’n heglwysi a’r diwylliant cyfoes yr ydym yn tystio iddo. Rhan o’n gwaith yw arwain pobl i weld beth sy’n wirionedd gwerth credu ynddo a’i ddilyn. Nid yw pob math o lol yn dderbyniol. Y mae’r gwirionedd sylfaenol hwnnw wedi ei ddatguddio yn Iesu, “y ffordd, y gwirionedd a’r bywyd.” Ac mae’r datguddiad hwn yn ein cymodi gyda Duw ac yn rhoi sylfaen gadarn i bobl ddelio gyda holl heriau bywyd cyfoes. O wrando ar y siarad wast cyfoes trwy hidlyddion yr Efengyl gallwn fod yn eglwysi effeithiol sy’n rhoi arweiniad i’n cenedl i ddirnad y gwirionedd. Fel y dywedodd Pantycelyn, “Iesu, Iesu, rwyt ti’n ddigon.”