Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Celu Gwirionedd.

Yn ddiweddar rwyf wedi bod yn darllen am hanes Rwmania. Y prif reswm am hynny yw bod fy mab wedi priodi merch o Rwmania. Sylweddolais yn fuan na wyddwn unrhyw beth am ei chenedl. Felly, dyma fwrw ati i wneud y cwrs Rwmaneg ar Dualingo ac yr wyf ar hyn o bryd yn darllen “History of Romania”. Agorwyd fy llygaid i’m hanwybodaeth. Ni wyddwn nemor ddim am ddiwylliant, hanes crefyddol na hanes gwleidyddol y cenhedloedd yn Nwyrain Ewrop. Yno, fel ym mhob man arall hyd y gwelaf i, y mae’r hanes trwy’r canrifoedd yn gythryblus a threisgar ac o bair gwrthdaro a thyndra’r gorffennol fe esgorwyd ar y cenhedloedd sydd yno yn bresennol. Datblygiad cymharol gyfoes yw hyn. Cyn hynny roedd yr ardal yn ferw gwyllt o dywysogaethau ac ymerodraethau, cynllwynio gwleidyddol ac ymladd am rym. Yn  Rwmania bu ymgiprys am oruchafiaeth rhwng Rhufain, yr Eglwys Gatholig Rufeinig, yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, Yr Otomaniaid, Hwngari, Rwsia a’r Habsburgiaid. Heb sôn am yr hanes mwy diweddar. Daeth Romania yn y diwedd i fodolaeth trwy uno tair tiriogaeth, Wallachia, Moldafia a Thransylfania.  Ond bu’n daith ddyrys.

Uniongrededd

Ym 1701, er  mwyn cael goruchafiaeth wleidyddol a sefydlogrwydd yn y tywysogaethau aml ethnig fe ddaeth Archesgob Catholig Rhufeinig Hwngari ac Esgob yr Eglwys Uniongred Rwmanaidd i gytundeb â’i gilydd. Fel rhan o’r cytundeb roedd yr Offeiriaid Uniongred Rwmanaidd i dderbyn y Pab yn Rhufain fel pen yr eglwys a bu cyfaddawdu ar rai materion diwinyddol pwysig. Golygodd hyn fod y diwylliant Gorllewinol yn llawer mwy dylanwadol yn Transylfania. Ond yr hyn sy’n syfrdanol yw bod yr arweinyddion Uniongred wedi gwrthododd dweud wrth y werin fod y cytundeb hwn wedi ei lunio oherwydd eu bod yn ofni gwrthryfel. Roedd Uniongrededd nid yn unig yn rhan o’u hetifeddiaeth ond hefyd yn elfen bwysig o’u hunaniaeth. O ganlyniad ni wyddai’r bobl gyffredin fod y Cytundeb yn bodoli oherwydd nad oedd neb yn fodlon dweud wrthynt. Dim ond ym 1744, bron i hanner canrif yn ddiweddarach, y clywodd y werin y gwir. Penderfynodd mynach Uniongred Serbiaidd o’r enw Visarion Sarai rannu’r gwirionedd am gyfaddawd mawr yr arweinyddion Uniongred gyda Rhufain. Bu ymateb y werin i’r newyddion yn chwyrn ac mewn rhai pentrefi bu ymosodiadau treisgar wrth iddynt fynnu bod yr awdurdodau yn dychwelyd at Uniongrededd Dwyreiniol.

Llwydwirionedd

Mor rhwydd yw twyllo pobl trwy beidio dweud y gwir, neu trwy beidio dweud yr holl wir wrthynt. Heddiw rydym yn byw mewn cyfnod dryslyd yn wleidyddol lle mae pobl eto yn cael eu twyllo gan wleidyddion poblyddol asgell dde sy’n honni fod ganddynt y gallu i weddnewid bywydau pobl ac i wella eu sefyllfaoedd ond iddynt gael eu hethol. Epil Trump a Farage yw’r rhain sy’n creu bychod dihangol o’r arall, yn fewnfudwyr, cenhedloedd dieithr a chreant elynion i’w casáu a’u hofni. Ond addewidion gwag a pheryglus yw eu rhethreg oherwydd yn y bôn nid oes unrhyw sylwedd na chynllun i’w honiadau hunanhyderus. A chyda’r holl gyfryngau sydd ar gael bellach i gyfathrebu y mae’n haws twyllo pobl trwy hau celwyddau a llwydwirioneddau. 

Rhaid i ni fel Cristnogion fod ar ein gwyliadwriaeth yn ddiwinyddol ac yn wleidyddol rhag i bobl, a ninnau yn eu plith, gael ein twyllo gan feddylfryd celwyddog, materol, hiliol a hunandybus, sy’n seiliedig ar ddichell y goludog breiniol. Mae hyn wedi digwydd drwy’r canrifoedd. Mae hyn yn digwydd nawr yn America ac yma yng ngwledydd Prydain trwy gyfoethogion llwgr a chwmnïau gwleidyddol fel Reform sydd am droi’r dŵr i’w melinau eu hunain.

10Ydw i’n mynd i anwybyddu’r trysorau a gawsoch drwy dwyll,

a’r mesur prin, sy’n felltith?

11Fyddai’n iawn i mi oddef y clorian sy’n dweud celwydd,

a’r bag o bwysau ysgafn?

12Mae’r cyfoethog yn treisio’r tlawd,

a’r bobl i gyd yn dweud celwydd –

twyll ydy eu hiaith gyntaf nhw! Micha 6: 10 12