Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Het Wen Ar Ei Ben

Cyrhaeddodd Dafydd Williams, (1779 – 1874) Troedrhiwdalar, ben ei daith yn Aberhonddu yn drybola ac yn wlyb dat ei groen. Roedd wedi teithio trwy ddannedd gwynt Mynydd Epynt a’i law mân llorweddol. Roedd ei draed yn ddiffrwth, ei drwyn yn goch a’i gefn yn llaith gan fod yr eirlaw wedi treiddio trwy haenau dyfnaf ei ddilladach. Ar ei ben roedd het ddu ond erbyn diwedd ei bererindod roedd honno yn aneffeithiol lipa gan y gwlybaniaeth. Byddai’n well pe bai wedi gwisgo gogor ar ei ben. Roedd DW wedi laru ar hyn oherwydd nid dyma’r tro cyntaf i’w benwisg fod yn ddiffygiol. Felly dranoeth fe aeth i’r siop leol i brynu het newydd sbon danlli. Gwelodd un oedd at ei ddant – neu o leiaf at ei goryn – het gref, wen ac urddasol. Gofynnodd y cwestiwn allweddol i’r siopwyr, sef, a  yw hon yn dal dŵr? Yr hyn a atebwyd yn gadarnhaol. Felly, fe’i prynodd yn y fan a’r lle gan ddweud, “Mi hoffais hi yn fawr, ac yr wyf yn gwisgo het wen byth oddiar hyny, a mwy na thebyg mai het wen wisgaf tra fyddaf byw mwyach.”  (Aralleiriad yw hwn o’r hanes a geir yn Cofiant Y Diweddar Barch. David Williams, Troedrhiwdalar gan Avan Griffiths, 1877.) O hynny ymlaen roedd DW yn enwog fel gweinidog tori cyt a wisgai het wen uwchraddol, fel y gwelir yn y llun.

Anhwylder

Yn yr un cofiant fe geir hanes arall amdano ym 1833 yn dioddef o or-guriad y galon, yr hyn a’i gofidiai’n fawr. Ni allai gysgu’r nos na phregethu ar y Sul ac yr oedd mewn iselder yn darogan ei farwolaeth annhymig ei hun. Ymgynghorodd â meddygon gorau’r fro a darllenodd lyfr meddygol enwog Dr. Buchanan gan hunan ddadansoddi ei fod yn dioddef o “hypochondriae spleen” neu hyd yn oed “scerbutic”, ond i ddim diben. (Tud. 70) Reodd yn cyrraedd pen ei denyn felly penderfynodd, gan ei fod yn byw gerllaw, ymweld â ffynnon Llanwrtyd. Dywedai, “ Yr oeddwn mor wan a brwynen, nis gallwn braidd symud.” Ond wedi ychydig ddyddiau o yfed o ddŵr y ffynnon, “torrodd gyfled a’m llaw o scurvy allan rhwng fy ysgwyddau ar fy nghefn; daliais i’w yfed am ychydig ddyddiau yn mhellach, a gadewais yn ddyn iach, ac ni theimlais byth oddiwrth y clefyd hwnnw eilwaith, yr hwn a ofnwn yn fwy na dyn a chleddyf.”  Fe gafodd iachâd o’i gyflwr truenus.

Yna, fe ychwanega Avan Griffiths y geiriau hyn. “Yna gyda hyawdledd mawr traethai ar rinweddau y ffynnon a’i gwellhaodd. Bu yn ymwelydd cyson â hi, a chynghorai i eraill wneud yr un modd.” Cafodd iachâd o’r ffynnon, siaradai am y ffynnon a gwahoddai eraill i ymweld â hi.

Dyma ddarlun o’r Cristion. Trwy’r Iesu fe gawn iachâd, ein braint yw sôn amdano wrth eraill yn gyson gan eu gwahodd i ddod at yr Arglwydd i gael gwellhad i’w anhwylderau.

Meddai Iesu, “ond pwy bynnag sy’n yfed o’r dŵr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth. Bydd y dŵr a roddaf iddo yn troi yn ffynnon o ddŵr o’i fewn, yn ffrydio i fywyd tragwyddol.” Ioan 4:14

O’r nef mi glywais newydd
      fe’m cododd ar fy nhraed
fod ffynnon wedi ei hagor
      i gleifion gael iachâd;
fy enaid, rhed yn ebrwydd,
      a phaid â llwfwrhau,
o’th flaen mae drws agored
      na ddichon neb ei gau.

Dafydd Wiliam 1721? – 94