Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Gweddïwch yn Ddi-baid

Wrth weld a chlywed y trychinebau sydd yn digwydd led-led y byd sylweddolwn yr angen sydd i weithredu ac i weddio dros gyfiawnder a harmoni rhwng cenhedloedd a’i gilydd a charfannau sy’n gwrthdaro o fewn ein cymdeithas. Ym aml teimlwn yn gwbl ddi-ymadferth i’r anhrefn a’r a wewlwn ond un peth y gallwn ei wneud yw gweddio. Mae’r Beibl yn ein hannog i weddio yn gyson mewn ffydd fod Duw wrth y llyw. Ar hyn o bryd y mae nifer o elusennau Cristnogol yn ein gwahodd i weddio yn benodol dros sefyllfaoedd.

Cymorth Cristnogol

Ar eu gwefan y mae gan Cymorth Cristnogol ddyddiadur gweddi sy’n cynnwys awgrymiadau eiriol ar gyfer pob dydd o’r mis. Gellir hefyd derbyn e-bost gweddi cyson yn ein hannog ymhellach i gyflwyno’r dioddefwyr a’r tlawd ger bron gorsedd gras. Heddiw (21 Awst) mae’r dyddiadur yn tynnu ein sylw at Afghanistan ac am y datblygiadau fu ers i’r Taliban ail-afael yn yr awenau yn 2021. Pwysleisiant y modd y mae hawliau a rhyddid menywod fwy neu lai wedi eu diddymu yno. Nid oes hawl ganddynt i gael swydd nac addysg. Cyfeiriant at brosiect ITL, Silc a Saffron sy’n cael ei weithredu yn ardal Herat er mwyn cynorthwyo menywod.

Open Doors

Y mae elusen Open Doors yn ein hannog i gofio yn ein gweddïau am y Cristnogion sy’n cael eu herlid yn Jaranwala, Pacistan. Y llynedd bu ymosodiadau creulon gan eithafwyr crefyddol ar y gymuned Gristnogol. Dinistriwyd 19 o eglwysi ac 89 o gartrefi oedd yn eiddo i Gristnogion. Hefyd y mae angen gweddïau dros:

  1. Bangladesh – lle mae ansefydlogrwydd cymdeithasol a gwleidyddol.
  2. India – lle mae cyfreithiau yn erbyn tröedigaethau a newid ffydd mwy llym yn cael eu gweithredu yn Uttar Pradesh.

Tearfund

Mae elusen Tearfund yn tynnu ein sylw at y sefyllfa yn y Dwyrain Canol ac am yr angen dybryd sydd yno. Bellach mae 2 filiwn o bobl wedi ei dadleoli ac yn wynebu newyn a diffyg maeth. Gellir cael llawer mwy o fanylion ac awgrymiadau sut i weithredu ar y wefan. Y mae Esgobaeth Anglicanaidd Jerwsalem sy’n cynnwys Gasa a’r Llain Orllewinol yn gofyn i ni weddïo:

  1. Ar i’r trais ddod i ben nawr ac y bydd yr Arglwydd yn amddiffyn y rhai hynny sydd mewn perygl.
  2. Y bydd yr Arglwydd yn nerthu’r gweithwyr a’r gwirfoddolwyr sy’n cyflenwi gwasanaethau hanfodol i’r rhai anghenus.
  3. Am gysur i’r rhai hynny sydd wedi colli anwyliaid yn y gwrthdaro.

Gweddïwch yn ddi-baid