Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Eglwys-bach ym Mhontypridd

Y Spurgeon bach

Os ewch chi heibio’r bont fyd-enwog ym Mhontypridd ar y ffordd i Ynysybwl fe welwch ar y dde feddygfa – a fu unwaith yn gapel Wesleyaidd – gyda’r enw Eglwysbach ar ei dalcen mewn llythrennau bras. Pentref yn Nyffryn Conwy yw Eglwysbach, felly sut ar wyneb y ddaear fod yr enw ar y capel? Wel, capel coffa ydyw a adeiladwyd er cof am un o weinidogion enwocaf y Wesleaid yma yng Nghymru, sef John Evans. Dyma grynodeb o’i hanes.

Cefndir

Roedd John Evans (1840-97) yn un o arwyr gwerin Cymru ac nid peth anghyffredin oedd gweld llun ohono’n crogi yng nghartref i Wesleaid twymgalon. Ganwyd ef yn Tŷ Du, Eglwys-bach, Dyffryn Conwy, ond yna symudodd y teulu o’r fan honno i’r Goleugell. Gweithiodd am beth amser ar y fferm gyda’i dad cyn rhoi ei fryd ar y weinidogaeth. Cychwynnodd ar y gwaith o bregethu yn gymharol ifanc – tua dau ar bymtheg oed – ac yn ei farn ei hun go druenus oedd yr ymgais hwnnw. Roedd mor siomedig fel y daeth i’r casgliad nad oedd Duw yn ei alw i bregethu, ond mynnai’r adnod “Gwae fi os na phregethaf yr Efengyl” blagio’i feddwl. Rai wythnosau’n ddiweddarach, wedi gweddïo dwys, pregethodd eto ac roedd y bregeth honno mor rymus fel bod dau wedi’u cyflwyno’u hunain i’r Arglwydd ar ddiwedd yr oedfa. Yn ystod ei ieuenctid yr oedd yn adnabyddus fel “bachgen bregethwr” a byddai torfeydd yn ymgynnull i wrando arno’n pregethu, gyda mwy yn fynych y tu allan i’r capel nag oedd y tu mewn.

Blodeuo

Rhoddwyd y glasenw “Spurgeon bach” i John Evans oherwydd ei debygrwydd i’r pregethwr byd-enwog, C.H. Spurgeon, Llundain. Y rhyfeddod yw mai ychydig iawn o addysg elfennol a gafodd, a hynny yn yr Ysgol Genedlaethol leol, ond gweithiodd yn galed trwy gydol ei oes i’w ddiwyllio’i hun. Ysgrifennodd un tro, “Gan nad beth fyddo athrylith naturiol dyn, i feddwl neu i siarad, rhaid iddo lafurio yn ei efrydfa yn ddiarbed a pharhaus, onide clindarddach drain dan grochan fydd ei waith i gyd.” Yn ystod y ddau dro y bu yn Llundain yn gweinidogaethu gyda’r Cymry a’r Saeson, mynnodd gael digon o amser i ddilyn cyrsiau yng Ngholeg y Brenin gan ennill tystysgrifau mewn Athroniaeth, Llenyddiaeth Saesneg, Hanes a Daearyddiaeth.

Awdur

Cyhoeddodd nifer o gyfrolau yn ystod ei oes, gan gynnwys Pulpud City Road, Pregethau a Darlithiau, a’i gyfrol ar ei arwr mawr, John Wesley. Gan mai gweinidog “Wesla” ydoedd, a’r enwad wedi pennu fod ei gweinidogion i newid eglwys bob tair blynedd, fe grwydrodd cryn lawer. Bu’n weinidog yn Amlwch, yr Wyddgrug, Lerpwl dair gwaith, Bethesda, Llundain ddwy waith, Bangor, Croesoswallt a Phontypridd.

Efengylydd

Yr oedd yn bregethwr o fri a thyrrai’r werin i wrando arno yn agor y gair mewn cymanfaoedd pregethu. Yr oedd hefyd yn ddiwygiwr, ac mewn rhai mannau lle y bu’n gweinidogaethu cychwynnodd diwygiadau ysbrydol dwys, fel ym Mangor ym 1887. Ym 1893 symudodd i fyw i Bontypridd i gychwyn Cenhadaeth Deheudir Cymru y Wesleaid. Yn ystod ei gyfnod yno bu damwain difrifol yn un o’r glofeydd a bu J Evans yn helpu i gario’r cyrff o’r pwll. Bu farw’n ddisymwth yn 57 oed. Ar 23 Hydref 1897 aeth i gyfarfod pregethu yn Shaw Street, Lerpwl, gan letya’r noson honno gyda theulu o’r eglwys, a bu farw yn ystod y nos. Adeiladwyd capel er cof amdano ym Mhontypridd nid nepell o’r bont enwog â’r enw Eglwys-bach mewn llythrennau bras ar ei dalcen. Bu’n briod ddwywaith, yn gyntaf â Charlotte Pritchard o Lerpwl, ac yna â Clara Richardson o Ealing.

Mae’r cofiant a ysgrifennwyd iddo gan John Price Roberts a Thomas Hughes yn eithriadol o ddarllenadwy ac ymhlith cofiannau difyrraf y cyfnod. Y mae nid yn unig yn gyfnod o fywyd a gwaith y gwrthrych, ond hefyd yn ddarlun o arferion a hynodion yr oes.