Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Edwards y Pontwr*

Pontypridd

Un o nodweddion amlycaf y dref sy’n gartref i’r Eisteddfod Genedlaethol eleni (2024) yw’r bont dros yr afon Taf. Ond wyddoch chi fod cysylltiad rhwng y bont ac annibynwyr ac mai’r cysylltiad hwnnw yw’r pensaer a’i cynlluniodd?  Roedd y Parch. William Edwards (1719 – 1789), yn bensaer ac yn weinidog ar eglwys hanesyddol Y Groes-wen, Caerffili.  Urddwyd ef yn weinidog yno ym 1745 ac yno bu yn gwasanaethu hyd ei farwolaeth.

Adeiladodd nifer o bontydd yn ystod ei yrfa – ym Mhontardawe, Betws a Dolauhirion ymhlith eraill – ond yr enwocaf o’r cwbl yw’r un ym Mhontypridd a gwblhawyd ym 1756. (Yr enw gwreiddiol oedd Pont-y-tŷ-pridd.) Hon oedd y bedwaredd bont iddo adeiladu ar y lleoliad hwn, syrthiodd y 3 cyntaf oherwydd problemau daearegol a’r rhychwant llydan rhwng y ddwy lan. (Dyfal donc a dyr y garreg.) Roedd ganddo gytundeb i adeiladu pont yno am £500 fyddai’n aros ar ei thraed am o leiaf saith mlynedd. Costiodd y pedair pont gyfanswm o £1, 153 a olygai golled fawr i’r adeiladydd.

Dadorchuddiwyd cofeb iddo yng nghapel y Groeswen ym 1906 gyda’r geiriau “Adeiladydd mewn dau fyd,” arni.

*Gelwir ef yn Edwards y Pontwr gan John Roberts, Llanbrynmair, yn y byr gofiant a ysgrifennodd i Lewis Rees. Tudalen 30.