Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Adolygiad

Even The Sparrow

Even The Sparrow, A Pilgrim’s Guide to Prayer, Trust and Following the Leader gan Jill Weber. (2019, Muddy Pearl, Caeredin)

Roedd hwn yn llyfr eithriadol o ddarllenadwy. Mae gan yr awdur ddawn ysgrifennu hynod grefftus a disgrifiadol heb fod yn or flodeuog. Ni synnwn pe bai maes o law yn ysgrifennu nofelau, yn sicr mae ganddi’r ddawn i wneud hynny.  Er mai cyfres o fyfyrdodau Cristnogol sydd yma y mae hon yn gyfrol wahanol i’r cyfryw. Ynddi ceir 40ain o benodau byrion gyda gwahoddiad ar derfyn pob un i gymhwyso’r hyn a gyflwynir i’n bywydau fel Cristnogion. Mae pob pennod yn rhoi cipolwg o ddigwyddiad neu gyfnod yn ei bywyd. Y mae rhai ohonynt yn swreal, rhai yn eithriadol o ddoniol, eraill yn ddwys a difrifol. Y mae’n sôn am gael ei cham-drin gan ei gŵr cyntaf ac o ganlyniad fe dreuliodd hi a’i merch gyfnod mewn lloches i fenywod. Ond hyd yn oed yn y caledi y mae’n profi addfwynder cariad Duw yn Iesu.

Anhrefn Bwyd

Nid yw Weber yn cymryd ei hun ormod o ddifrif ac fe ymddengys yn berson hwyliog er iddi wynebu cyfnodau anodd. Wrth iddi sgwennu y mae’n cyfleu’r ymdeimlad o bresenoldeb Duw gyda hi ac ymwybyddiaeth o alwad yr Arglwydd ar ei bywyd. Byddai dweud bod y gyfrol yn blith drafflith braidd yn annheg ond fe gyflwynir y syniad o anhrefn ac o fywyd Cristion yn mynd gyda lli amgylchiadau. Nid yw’r myfyrdodau’n systematic ac yn cyflwyno pwytiau diwinyddol penodol, gadewir yr hanesion yn benagored gan roi lle i ni fyfyrio ar yr hyn a brofodd ac a welodd.

Gweddi

Canolbwynt ei bywyd fel Cristion yw gweddi. Bu’n gweithio am  flynyddoedd i fudiad “House of Prayer” yn Ontario ac yna yn yr Unol Daleithiau. Mudiad anenwadol yw HOP sy’n annog gweddi ymhlith Cristnogion. Y mae ganddynt ganolfanau mewn nifer o wledydd sy’n gwasanaethu’r anghenus  a chymunedau difreintiedig. Mae ganddi ddiddordeb mewn amrywiaeth o draddodiadau Cristnogol yn cynnwys y mynachaidd a’r litwrgiaidd ac y mae hyn wedi dylanwadu yn fawr arni.

Hedyn Mwstard

Ym mhennod 33 sydd â’r teitl “ABBESS” y mae’n sôn am ymweld â Herrnhut, yn Yr Almaen. Yno yn y 18fed ganrif yr oedd Nikolaus Ludwig Von Zinzendorf yn byw a ddaeth yn arweinydd y Morafiaid. Ym 1716 ac yntau yn 16eg oed cyfamododd gyda rhai o’i ffrindiau i ddilyn bywydau duwiol. Yn nes ymlaen cynhyrchwyd modrwyau ganddynt er mwyn eu hatgoffa o’u haddewid. Y tu mewn i’r modrwyau ysgythrwyd y geiriau, “nid oes neb y byw iddynt eu hunain.” (Rhuf. 17:7) Trwy hyn sefydlwyd Urdd yr Hedyn Mwstard. Yr addewidion wnaeth Zinzerdorf a’i ffrindiau oedd, “bod yn ffyddlon i Grist, yn garedig tuag at eraill gan fynd a’r newyddion da i’r holl genhedloedd.” Bedair canrif yn ddiweddarach fe atgyfododd “24/7 Prayer” a “YWAM” Urdd yr Hedyn Mwstard ym mis Chwefror 2005 yn Holy Trinity, Clapham, Llundain.

Hoffwn gymeradwyo’r gyfrol fel un gwerth ei darllen.

Am yr Awdur

Sefydlodd Jill Weber a’i gŵr Kirk The House of Prayer yn Greater Ontario yng Nghanada a gwasanaethodd yno fel Abades am 17eg mlynedd. Symudasant o Ganada yn 2018 ac aeth Jill i fod yn bennaeth yr House of Prayer yn Abaty Waverley. Hefyd y mae’n gwasanaethu ar dîm rhyngwladol 24-7 Prayer, ac yn Gynullydd Byd-eang Urdd yr Hedyn Mwstard. Mae hi’n gyfarwyddwr ysbrydol, yn athrawes ac yn awdur ac, ynghyd â’i gŵr, mae’n mynychu Eglwys Emaus Road lle mae hi yn Gyfarwyddwr Gweddi a Ffurfiant Ysbrydol. Mae hefyd yn awdur: Free; Belonging and Becoming; Practicing the Way of Jesus and The NineFold Path of Jesus