Efengyl Mathew, yn unig sy’n cyfeirio at yr hanes hwn. Daeth brenhinoedd o’r dwyrain i chwilio am frenin newydd. Wrth ddilyn seren aethant i balas Brenin Jwda, sef Herod a’i holi, “Ble mae brenin yr Iddewon?” Tipyn o “faux pas”, d’oes bosib! Dychmygwch y sefyllfa. Ant i balas brenin – yr un sydd ar yr orsedd – gan ofyn iddo, “Ble mae’r brenin newydd?” Mae fel petai rhywun yn mynd i mewn i Balas Buckingham a gofyn i Carlo’r 3ydd – brenin Lloegr – “Ble mae’r brenin?” Sut fyddai ef yn ymateb?

Llun gan Pro Church Media ar Unsplash
Ond mae Herod yn gyfrwys ac yn chwimwth ei feddwl. Wedi clywed y cwestiwn y mae’n ymgreinio’n gyfoglyd gan ddweud, “Ewch i Fethlehem a phan fyddwch wedi dod o hyd i’r brenin dewch yn ôl yma i ddweud ble mae, er mwyn i mi fynd yno i’w addoli.” Wrth sgwrs ei fwriad oedd mynd yno i’w ladd. Pan sylweddolodd Herod ei fod wedi ei dwyllo gan y Brenhinoedd fe gollodd ei limpyn yn llwyr. Gorchmynnodd ladd pob plentyn gwryw o dan ddwy oed ym Methlehem.
Pam fod Herod yn gwneud hyn? Er mwyn amddiffyn ei goron a’i awdurdod ef ei hun. Roedd yn barod i gyflawni’r erchyllterau gwaethaf er mwyn diogelu ei fuddiannau ei hunan. Yr un yw natur llawer o arweinyddion a gwleidyddion heddiw, fe wnânt unrhyw beth er mwyn gwarchod eu hawdurdod a’u cyfoeth eu hunain ac yn sgil hynny fe welwn anghyfiawnder, rhyfeloedd a dioddefaint. Hoffwn dynnu dy sylw at ddau beth sy’n dod i fy meddwl.
Herod gwleidyddol
Mae cymeriadau fel Herod o’n cwmpas o hyd. Arweinyddion gwledydd ar hyd a lled y byd sy’n barod i wneud unrhyw beth er mwyn cynnal eu hawdurdod ac ymgyfoethogi. Rydym wedi gweld hyn yn ddiweddar ymhlith rhai o wleidyddion gwledydd Prydain. Maent yn ymddwyn yn llygredig gan droi pob dŵr i’w melinau eu hunain a rhoi cytundebau i ffrindiau a theulu sy’n dod ac arian mawr iddynt. Ar yr un pryd y maent yn gwneud toriadau llym i wasanaethau hanfodol cyhoeddus ac yn gwrthod codi cyflogau gweithwyr cyffredin. Y mae llawer o’r gweithwyr hyn ar eu cythlwng y Nadolig hwn ac yn gorfod streicio er mwyn cael cyflog teg. Thal hyn ddim, y mae eu hymddygiad fel arweinyddion yn Herodanaidd, yn gwbl anghyfiawn.

Llun gan Rafael Rex Felisilda ar Unsplash
Herod Personol
Gall ymateb Herod i Iesu fod yn ddarlun o bawb ohonom. Yn Rhufeiniaid 5 mae Paul yn sôn mai cyflwr naturiol y galon ddynol yw gelyniaeth tuag at Dduw. Ysgrifenna, “Oherwydd os cymodwyd ni â Duw trwy farwolaeth ei Fab pan oeddem yn elynion, y mae’n sicrach fyth, ar ôl ein cymodi, y cawn ein hachub trwy ei fywyd.” (Rhuf. 5:10)
Mae’r cyflwr dynol yn reddfol y dweud, “Fi yw Brenin fy mywyd. Does neb yn cael dweud wrtha i beth y dylwn ei wneud.” Gallwn roi’r argraff ein bod mor barod i gydweithio, ond mae’r reddf hon yn ddwfn ynom, hyd yn oed os ydym yn ei gwadu. Mae’n sicr ynof i. Dywed y Beibl fod y drygioni yn y byd yn tarddu o’n hunanoldeb a’n hunan gyfiawnder ni ein hunain. (pechod) Ynom y mae Herod bychan ar waith. Nid ydym am wasanaethu Duw na phobl eraill ac rydym am edrych ar ôl ein hunain a’n buddiannau yn gyntaf. A phan mae’r Brenin Iesu yn dod gan ddweud ei fod eisiau teyrnasu yn llwyr ar ein bywyd a’n calonnau, da ni yn amharod iawn i blygu glin ac ildio iddo.
Efallai ein bod yn awyddus i gael y manteision o ddilyn Iesu fel cadwedigaeth, cariad, help, nerth, maddeuant a llawenydd – ond mae hynny’n wahanol i fod eisiau Duw ei hun a Iesu yn Frenin arnom.
Rhaid gofyn pwy mewn gwirionedd yw’r Brenin sy’n eistedd ar orsedd dy galon di y Nadolig hwn?
