Wele cawsom y Meseia……. meddai Dafydd Jones o Gaeo (1711-77) yn ei garol boblogaidd. Ond beth yw tarddiad y gair Meseia? Meshiach yw’r ynganiad Hebraeg a chyfieithiad ohono i’r Groeg yw Christos – Crist. Felly, ystyr Iesu Grist yw Iesu’r Meseia. Mor aml mae pobl yn credu mai cyfenw Iesu yw Crist, Mr. Crist! Ystyr gyfyng Meshiach yw “un wedi ei eneinio”. Eneinio yn yr Hen Destament oedd arllwys olew am ben rhywun er mwyn eu neilltuo i gyflawni swydd arbennig. Roedd eneinio yn cael ei ddefnyddio i neilltuo pobl i dair swydd sef, Archoffeiriad, Proffwyd a Brenin.

- Archoffeiriaid
Gorchmynnwyd Moses i eneinio ei frawd Aaron a’i feibion er mwyn eu cysegru i fod yn offeiriaid i Dduw.
“Yr wyt i’w gwisgo am Aaron dy frawd a’i feibion, a’u heneinio, eu hordeinio a’u cysegru, er mwyn iddynt fy ngwasanaethu fel offeiriaid.”
(Exo 28:33-41, hefyd 29: 7-9 a 30:25-30)
Gwaith yr archoffeiriad oedd bod yn gyfrwng rhwng Duw a’i bobl a hefyd i offrymu aberthau dros bechodau Israel yn y Tabernacl a’r Deml.
2. Proffwyd
Roedd y proffwydi hefyd yn cael eu heneinio er mwyn eu neilltuo i’w gwaith. Digwyddodd hyn i’r proffwyd Eliseus,
“Dywedodd yr ARGLWYDD wrtho, “Dos yn ôl i gyfeiriad anialwch Damascus, a phan gyrhaeddi, eneinia Hasael yn frenin ar Syria, a Jehu fab Nimsi yn frenin ar Israel, ac Eliseus fab Saffat o Abel-mehola yn broffwyd yn dy le.”
(1Brenhinoedd 19:15-16)
Gwaith y proffwydi oedd cyhoeddi gair Duw gan alw pobl Israel a’i harweinwyr i gyfrif wrth wneud hynny roedd rhai yn cyflawni gwyrthiau.
3. Brenin
Roedd brenhinoedd hefyd yn cael eu heneinio. Eneiniwyd Saul yn frenin gan Samuel,
“Cymerodd Samuel ffiol o olew a’i dywallt dros ei ben, a’i gusanu a dweud, “Onid yw’r ARGLWYDD yn d’eneinio’n dywysog ar ei bobl Israel, ac onid ti fydd yn rheoli pobl yr ARGLWYDD, ac yn eu gwaredu o law eu gelynion oddi amgylch?”
(1Sam. 10:1 hefyd 1Sam 16:10-13)
Gwaith brenin yw teyrnasu yn gyfiawn gan edrych ar ôl buddiannau ei deyrnas.

Y Meseia Iesu
Pan anwyd yr Iesu daeth fel Meseia Duw, yr un sydd wedi ei eneinio, wedi ei neilltuo i waith arbennig. Fe ystyrir hanes yr Iesu yn cael ei fedyddio yn afon yr Iorddonen gan Ioan Fedyddiwr a’r Ysbryd Glân yn disgyn arno, fel hanes ei eneinio. (Marc 1: 9 – 11) Ac fel y Meseia y mae Iesu’n cyfuno’r tair swydd, fel Archoffeiriad, Proffwyd a Brenin. Ar ddechrau ei weinidogaeth aeth Iesu i’r Synagog. Cymerodd sgrôl y Proffwyd Eseia gan ddarllen y geiriau hyn,
“Mae Ysbryd yr Arglwydd arna i,
oherwydd mae wedi fy eneinio i
i gyhoeddi newyddion da i bobl dlawd.
Mae wedi fy anfon i gyhoeddi fod y rhai sy’n gaeth i gael rhyddid,
a phobl sy’n ddall i gael eu golwg yn ôl,
a’r rhai sy’n cael eu cam-drin i ddianc o afael y gormeswr…”
– Luc 4:18
Fel Archoffeiriad
Y mae Iesu’r Eneiniog wedi rhoi ei hun yn aberth perffaith er mwyn cymodi Duw a phobl. Pan fu farw ar y groes cymerodd ein pechodau ni arno ei hun a chael ei gosbi yn ein lle. Rhan o waith yr Archoffeiriad oedd mynd i mewn i’r cysegr sancteiddiolaf (y stafell fwya’ sbesial yn y Deml) i aberthu aberth cymod rhwng pobl a Duw. Dim ond un waith y flwyddyn yr oedd yr Archoffeiriad yn cael mynd i mewn.
“Dyna’r math o Archoffeiriad sydd ei angen arnon ni – un sydd wedi cysegru ei hun yn llwyr, heb bechu o gwbl na gwneud dim o’i le, ac sydd bellach wedi’i osod ar wahân i ni bechaduriaid. Mae e yn y lle mwya anrhydeddus sydd yn y nefoedd. Yn wahanol i bob archoffeiriad arall, does dim rhaid i hwn gyflwyno’r un aberthau ddydd ar ôl dydd. Roedd rhaid i’r archoffeiriaid eraill gyflwyno aberth dros eu pechodau eu hunain yn gyntaf ac yna dros bechodau’r bobl. Ond aberthodd Iesu ei hun dros ein pechodau ni un waith ac am byth.”
– Hebreaid 7:26 – 27
Fel Proffwyd
Y mae Iesu’r Eneiniog yn cyhoeddi neges am gariad rhyfeddol Duw tuag at ddynoliaeth ac yn galw pobl i edifeirwch a ffydd. Y mae’n sefyll o blaid y bregus ac yn llym iawn wrth y rhai hynny sy’n anghyfiawn a gormesol. Yn wir Iesu yw neges Duw i ddynolryw.
“Yn y gorffennol pell roedd Duw wedi siarad gyda’n hynafiaid ni drwy’r proffwydi. Gwnaeth hyn bob yn dipyn ac mewn gwahanol ffyrdd. Ond bellach, yn y cyfnod olaf hwn, mae wedi siarad â ni drwy ei Fab.
– Hebreaid 1:2
“Y Gair oedd yn bod ar y dechrau cyntaf.
Roedd y Gair gyda Duw,
a Duw oedd y Gair.”
– Ioan 1:1
Fel Brenin
Y mae Iesu’r Eneiniog, yn llywodraethu dros y cwbl. Y mae’n dod a theyrnas Duw i’r byd sy’n llawn cyfiawnder, cariad a gras, teyrnas sy’n iachau ac adnewyddu. Y mae’n cynnal a nerthu ei bobl ac yn eu galluogi i oresgyn eu gelynion a phan ddaw yn ôl Ef fydd y Barnwr cyfiawn.
“Felly dyma’r angel yn dweud wrthi, “Paid bod ofn, Mair.
Mae Duw wedi dewis dy fendithio di’n fawr.
Rwyt ti’n mynd i fod yn feichiog, a byddi di’n cael mab.
Iesu ydy’r enw rwyt i’w roi iddo.
Bydd yn ddyn pwysig iawn,
a bydd yn cael ei alw’n Fab y Duw Goruchaf.
Bydd yr Arglwydd Dduw yn ei osod i eistedd ar orsedd y Brenin Dafydd,
a bydd yn teyrnasu dros bobl Jacob am byth.
Fydd ei deyrnasiad byth yn dod i ben!”
– Luc 1:30 – 33
Yn nhymor dathlwn mai Iesu yw’r Meseia, eneiniog Duw, yr Archoffeiriad, y Proffwyd a’r Brenin.
#DadiDuw

