Bu farw John Wyclif c.1330–1384, seren fore’r Diwygiad Protestannaidd ym mis Rhagfyr 1384.
2 Bu farw Michael Daniel Jones 1822–98, gweinidog (A), pregethwr, Prifathro Coleg Annibynnol y Bala, ac un o ysgogwyr y Wladfa ym Mhatagonia a chladdwyd ei weddillion ym mynwent yr Hen Gapel, Llanuwchllyn.

Michael D. Jones. Llun:Wicipedia
2 Ganwyd Mary Mitchell Slessor 1848–1915, cenhades Calabar yn Nigeria, yn Gilcomston, ardal o Aberdeen.
4 Ganwyd Thomas Carlyle 1795–1881, awdur a hanesydd ym mhentref Ecclefechan yn Swydd Dumfries, yr Alban.
2 Ganwyd Charles Thomas Studd 1860–1931 cricedwr a chenhadwr yn Spratton, Swydd Northampton.
5 Ganwyd William Barclay 1907–1978, ysgolhaig Testament Newydd a darlledwr yn Wick, Caithness, Yr Alban.
6 Ganwyd Robert Williams, ‘Robert ap Gwilym Ddu’, 1766–1850, bardd ac emynydd yn Betws Fawr, plwyf Llanystumdwy.
“Mae’r gwaed a redodd ar y groes
o oes i oes i’w gofio;
rhy fyr yw tragwyddoldeb llawn
i ddweud yn iawn amdano.”
Robert ap Gwilym Ddu
8 Ganwyd Morgan John Rhys, ‘Morgan ab Ioan Rhus’, 1760–1804, gweinidog (B), awdur, ac ymgyrchydd yn erbyn caethwasiaeth ar fferm Graddfa, ger Llanbradach, plwyf Llanfabon, sir Forgannwg. Bu farw 7 Rhagfyr 1804 gan adael gweddw a phump o blant a chladdwyd ei weddillion yn Somerset, Pennsylvania. Wedi dwy flynedd symudwyd ei weddillion i fedd y teulu yn Philadelphia, Unol Daleithiau America.
8 Bu farw T. Glyn Thomas, 1905–73, gweinidog Annibynwyr a phregethwr poblogaidd.
10 Bu farw Howell Elvet Lewis, ‘Elfed’, 1860–1953, gweinidog (A) bardd ac emynydd ym Mhenarth
“I dawel lwybrau gweddi,
O Arglwydd, arwain fi,
rhag imi gael fy nhwyllo
gan ddim daearol fri:
mae munud yn dy gwmni
yn newid gwerth y byd,
yn agos iawn i’th feddwl
O cadw fi o hyd.”
Elfed
11 Bu farw Bridget Bevan, ‘Madam Bevan’, 1698–1779, noddwraig ysgolion cylchynol Gruffydd Jones, Llanddowror, a chladdwyd ei gweddillion yn eglwys Llanddowror ar 17 Rhagfyr.
“Ti chwanegiast at dy goron
Berlau gwell y dydd a ddaw
Nag a gloddir gan yr Indiaid
Fyth yng ngwlad Golcinda draw.”
Cyfeiriad at waith Bridget Bevan gan William Williams, Pantycelyn.

12 Ganwyd Phillip Thomas Byard (Tubby) Clayton1885-1972 offeiriad a sylfaenydd Toc H yn Maryborough, Queensland, Awstralia.
13 Bu farw Henry Cooke 1788–1868 gweinidog yn Eglwys Bresbyteraidd Iwerddon a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Balmoral, Belfast. Cyhoeddwyd nifer fawr o’i bregethau a’i areithiau ond dywedid eu bod yn methu a chyfleu ei ddawn a’i arabedd fel siaradwr medrus.
14 Ganwyd Frances Ridley Havergal 1836–1879 bardd ac emynydd, yn rheithordy Astley, Swydd Caerwrangon.
‘Cymer, Arglwydd, f’einioes i
i’w chysegru oll i ti;
cymer fy munudau i fod
fyth yn llifo er dy glod.’
FRANCES R HAVERGAL 1836-79
cyf. JOHN MORRIS-JONES: 1864-1929
14 Ganed Henry Thomas Jacob, ‘Jacobs Abergwaun’, 1864–1957, gweinidog (A), darlithydd, llenor a bardd yn Nhreorci, Cwm Rhondda, Morgannwg.
“O na ddôi’r nefol wynt
i chwythu eto,
fel bu’n y dyddiau gynt
drwy’n gwlad yn rhuthro
nes siglo muriau’r tŷ
a phlygu dynion cryf;
O deued oddi fry –
mae’n bryd i’w deimlo.”
H.T. Jacobs
14 Ganwyd Griffith John, Tsieina, 1831–1912, cenhadwr, yng Nglandŵr, Abertawe.
15 Ganwyd Edward (Jones) Stephen, ‘Tanymarian’, 1822–85, gweinidog (A), diwygiwr cerddorol, darlithydd a bardd. Ni wyddom ddyddiad ei eni ond cofnodir ei fedydd yn llyfr eglwys Mihangel Sant, Ffestiniog, ar 15 Rhagfyr 1822.
16 Ganwyd Amy Beatrice Carmichael 1867–1951 sefydlydd Cymdeithas Dohnavur ym Millisle, Swydd Down, Gogledd Iwerddon.
16 Bu farw George M. Ll. Davies, 1880-1949, heddychwr a chymodwr yn Ysbyty Dinbych a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Dolwyddelan.
16 Ganed Owen Thomas, 1812-91, gweinidog (MC), pregethwr ac awdur yng Nghaergybi. Cyfrannai yn gyson at y cyfnodolion e.e., Y Geiniogwerth, Y Traethodydd a’r Gwyddoniadur. Ysgrifennodd gofiant i Henry Rees ac i John Jones, Tal-y-sarn, ac fe ystyrir yr olaf bellach yn un o glasuron yr 19eg ganrif.
16 Ganwyd George Whitefield 1714–1770 arweinydd y Methodistiaid Calfinaidd yn The Bell Inn, Southgate Street, Caerloyw, yr ieuengaf o saith o blant i’r tafarnwr Thomas Whitefield a’i wraig Elizabeth.
18 Ganwyd Charles Wesley 1707–1788 sylfaenydd Methodistiaeth ac emynydd yn Rheithordy Epworth, Swydd Lincoln, yn unfed plentyn ar bymtheg i Samuel a Susanna Wesley.
20 Ganwyd Martyn Lloyd-Jones, 1899–1981, meddyg, pregethwr, esboniwr Beiblaidd ac awdur yn Donald Street, y Rhath, Caerdydd.
21 Ganwyd Thomas Becket c.1120-1170 Archesgob Caergaint a merthyr Cristnogol yn ardal Cheapside yn Llundain, lle’r oedd ei dad Gilbert a’i fam Matilda yn dirfeddianwyr. Lladdwyd ef wrth yr allor yng Nghadeirlan Caergaint trwy ergyd galed i’w ben gyda chleddyf ar 29 Rhagfyr 1170 a chladdwyd ei gorff yn ddiseremoni yng Nghapel y Drindod yn y Gadeirlan.
21 Bu farw John Newton 1725–1807 gweinidog a masnachwr caethweision. Claddwyd ei weddillion ym mynwent St Mary Woolnoth yn y City, Llundain. Symudwyd y gweddillion ym 1893 i Olney, Swydd Buckingham.
“Amazing grace! (how sweet the sound)
That sav’d a wretch like me!
I once was lost, but now am found,
Was blind, but now I see.”
John Newton
24 Bu farw Walter Cradoc, ?1610–59, pregethwr, diwinydd a Phiwritan a chladdwyd ei weddillion yng nghangell eglwys Llangwm, Mynwy.
24 Bu farw David James Jones, ‘Gwenallt’, 1899–1968, bardd, beirniad, ysgolhaig a heddychwr yn Aberystwyth.
“Gwae inni wybod y geiriau heb adnabod y Gair,
A gwerthu ein henaid am dofi a chonffeti ffair,
Dilyn ar ôl pob tabwrdd a dawnsio ar ôl pob ffliwt
A boddi hymn yr Eiriolaeth â rhigwm yr Absoliwt.”
O ‘Ar Gyfeiliorn’, Gwenallt
27 Bu farw Edward Jones, Maes-y-plwm, 1761–1836, bardd, emynydd ac athro ysgol yng Nghilcain a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llanrhaeadr.
“Mae’n llond y nefoedd, llond y byd,
llond uffern hefyd yw;
llond tragwyddoldeb maith ei hun,
diderfyn ydyw Duw;
mae’n llond y gwagle yn ddi-goll,
mae oll yn oll, a’i allu’n un,
anfeidrol, annherfynol Fod
a’i hanfod ynddo’i hun.”
Edward Jones
27 Ganwyd John Roberts, Ieuan Gwyllt, 1822–77, cerddor, golygydd a gweinidog (MC), yn Tanrhiwfelen ger Aberystwyth, tŷ bychan uwchben Pwllcenawon, hen gartref Lewis Edwards y Bala.

25 Bu farw Miss Gee, Dinbych, Cristion ac athrawes
25 Ganwyd Christmas Evans, 1766 – 1838. Ystyried ef yn un o bregethwyr mwyaf effeithiol y Bedyddwyr yn ail haner y 18fed ganrif ac yn un o dri chedyrn y pulpud yng Nghymru. Y ddau arall oedd John Elias a William Williams o’r Wern.
28 Ganwyd David John Lewis, ‘Lewis Tymbl’, 1879–1947, gweinidog (A), pregethwr a darlithydd yn y Mynydd-bach, tyddyn ger pentref Hermon ym mhlwyf Llanfyrnach, Penfro,
Yr Arglwydd Iesu yn marw i brynu.
Yr Arglwydd Iesu yn prynu i buro.
Yr Arglwydd Iesu yn puro i gadw.
Yr Arglwydd Iesu yn cadw i ddefnyddio.
(Pennau un o bregethau D.J. Lewis)
29 Bu farw William Thomas Davies, ‘Pennar’, 1911–96, prifathro, ysgolhaig, bardd a chyfrinydd.
‘Chwefror 1 (Mawrth): Ar un ystyr efengylaidd iawn, ni all neb fod
ar goll yn y Duwdod. Yr ydym ar goll hebddo. Ynddo Ef yr ydym
yn ein Cartref.’
Allan o Cudd fy Meiau, Pennar
30 Ganed William Nantlais Williams, 1874–1959, gweinidog (MC), emynydd, golygydd a bardd yn Llawr-cwrt, Gwyddgrug, ger Pencader, Caerfyrddin.
“Suai’r gwynt, suai’r gwynt
wrth fyned heibio i’r drws;
a Mair ar ei gwely gwair
wyliai ei baban tlws:
syllai yn ddwys yn ei wyneb llon,
gwasgai Waredwr y byd at ei bron,
canai ddiddanol gân.”
W. Nantlais Williams
