Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


12 Y Ddeuddegfed Wythnos 1 19 – 25 Tachwedd

Os wyt am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu yma  gelli wneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com Hefyd gelli adael sylwadau cyhoeddus ar ddiwedd pob erthygl.

Gelli hefyd gael hysbys awtomatig o bob diweddariad ar Sabothal.blog trwy wasgu’r botwm cofrestru ar yr hafan a rhoi dy e-bost.

Hon Yw’r Olaf, olaf, olaf, olaf….. a la Endaf Emlyn!

Dyma’r erthygl wythnosol olaf y byddaf yn ei rhoi ar Sabothal.blog oherwydd bod y 3 mis Sabothol yn dirwyn i ben.

Diolch i aelodau Ebeneser, Caerdydd, am eich haelioni mawr tuag ataf yn fy rhyddhau ac am y cyfleon dwi wedi eu cael i ymweld, meddwl, darllen, sgwrsio ac i ystyried beth sy’ angen ei wneud yn y misoedd sy’n dod. Roeddwn wedi bwriadu gwneud llawer mwy ond daeth amgylchiadau pwysicach i’m rhan roedd yn rhaid inni fel teulu ddelio gyda hwy. Blaenoriaethu pethau yw un o heriau mawr bywyd i bawb ohonom. (Daw geiriau pwysig Eseia 55 i’r meddwl, “Dydy fy mwriadau i ddim yr un fath â’ch bwriadau chi, a dydy fy ffyrdd i ddim yr un fath â’ch ffyrdd chi -yr ARGLWYDD sy’n dweud hyn.” Eseia 55:8)

Gwerthfawrogaf yn fawr iawn y gwaith ychwanegol y mae Diaconiaid ac aelodau’r eglwys wedi ei ysgwyddo ar fy rhan. Rydych yn griw arbennig a braint yw cael bod yn rhan o’r teulu er mwyn gwasanaethu Iesu. Edrychaf  ymlaen at ail ymuno yn y gweithgareddau. (Rwyf eisoes wedi prynu trywsus cwta, cap pêl fâs, crocs (fflip fflops  ar gyfer yr haf) a byddaf yn dal y meic yn fy llaw trwy gydol y bregeth) : )

Darllenwyr

Diolch hefyd i bawb ohonoch sydd wedi darllen Sabothal.blog. Y mae wedi fy rhyfeddu faint o ddiddordeb sy’ wedi bod gyda 2,500 golwg ar erthyglau a dros 700 ymweliad mewn llai na 3 mis. Gwn fod ystadegau’n bethau twyllodrus ar y gorau ond mae’n amlwg bod diddordeb yn y math yma o beth.

Tybed pam fod cyn lleied o flogiau Cristnogol Cymraeg? A ydym wedi troi fel Cristnogion Cymraeg yn ddim byd mwy na defnyddwyr (consumers) sy’n llyncu’n fecanyddol safbwyntiau Cristnogion Eingl Americanaidd? Ble mae ein gwreiddioldeb? Ble mae’r trafod, y dadansoddi a’r ysbrydoli? Ble mae’r Cristnogion ifanc llawn egni? Ble mae’r ysfa greadigol i greu deunydd bywiog sy’n tystio i’r newyddion da am Iesu? Onid yw’r Ysbryd Glân yn gweithio ynom a thrwom heddiw yng Nghymru? Wrth gwrs ei fod. Dyma’r addewid i bawb o bob cenedl sy’n credu. Ydy Duw wedi rhoi yna ti awydd i wneud rhywbeth? Cysyllta os alla i helpu.

Rhaid inni ymysgwyd o’n llesgedd a deall bod gennym ni gyfraniad allweddol i’w wneud heddiw i ddyfodol Cristnogaeth yng Nghymru ac nid eistedd ar ein “pen dowt” yn disgwyl i eraill ein bwydo gyda llwy.

Eglwys Ffynnon Llandysul

Ar Sul 19 Tachwedd fe es draw i Landysul i Eglwys Y Ffynnon sy’n addoli mewn adeilad clyd a phwrpasol. Y rheswm yr es i yno oedd oherwydd hon yw’r un o ychydig bach iawn o eglwysi newydd Gymraeg sydd wedi eu plannu – hyd y gwn i – yn ddiweddar. Os wyt ti yn gwybod am rai eraill, cysyllta hefo fi. (Enw addas ar yr adeilad lle cynhelir yr oedfa yw’r “Hen Feithrinfa”. Onid meithrinfa yw pob eglwys i fod yn plannu, bwydo a meithrin Cristnogion mewn ffydd?)

Yn wahanol i’r eglwysi eraill bûm ynddynt yn ystod y tri mis diwethaf, roeddwn yn adnabod rhai o’r bobl oedd yno. Cefais groeso cynnes a sgwrs cyn yr oedfa gyda Sara a Ryland. Croesawyd ni yn gynnes fel cynulleidfa o ryw 35-40, gan Rhys. Roedd y rhan fwyaf oedd yn bresennol yn iau na fi (61) a nifer dda o blant a phobl ifanc. Ar gyfer y di-gymraeg a’r dysgwyr roedd cyfieithu ar y pryd ac roedd geiriau’r caneuon hefyd yn ddwyieithog. (Dwi ddim wedi gweld cyfieithu ar y pryd yn unrhyw un o’r Eglwysi cyfrwng Saesneg er bod nifer o bobl o genhedloedd eraill yn bresennol. Y disgwyliad “ymerodrol” mwn, yw bod PAWB yn deall SAESNEG neu angen dysgu.)

Y mawlweinydd oedd Rhys Hughes ar yr allweddell a gynorthwywyd gan Steff Morris ar y guitar. Roedd elfennau mwy carismataidd i’r mawl fel porthi a dyrchafu dwylo yn ystod yr addoliad nac sy yn y mwyafrif llethol o oedfaon Cymraeg. Braf yw gweld cynulleidfa yn ymateb ar lafar i’r arweinydd a’r pregethwr yn hytrach nac eistedd fel delwau. Roedd yr holl dechnoleg angenrheidiol yno i hwyluso’r gweithgareddau. Arweiniwyd ni i ganu tair cân ar y dechrau gan Rhys sy’n amlwg yn gerddor o fri a chyda dawn i arwain cynulleidfa i fyfyrio ar Dduw a’i gariad rhyfeddol. Rhwng y caneuon byddai’n dyfynnu adnodau ac yn gweddïo. Roeddwn yn gwybod pob un ond un o’r caneuon y tro hwn, felly nid oedd rhaid gwneud y <a href=”http://Redwood. Cafwyd cyhoeddiadau’r wythnos ac yr oedd nifer o weithgareddau ar y gweill yn cynnwys noson ddysgu sut i genhadu ymhlith pobl ifanc gyda Siân Ifan. Aeth y plant allan i’w gweithgareddau. Hoffwn nodi dau beth yn arbennig yn yr oedfa hon.

Cymraeg

Yn gyntaf. Roedd hon yn oedfa Gymraeg. Dyma’r tro cyntaf i mi addoli trwy gyfrwng y Gymraeg ers misoedd ac mae’n rhaid i mi ddweud ei fod yn brofiad gwych. Fe’m magwyd ar fron yr eglwys, fe’m dysgwyd am Iesu, fe ddeuthum i ffydd, fe weddïais a darllenais fy Meibl, fe wnes radd ddiwinyddol, priodais, fe’m galwyd i’r weinidogaeth, megais deulu a dwi wedi bod yn weinidog i’r Arglwydd Iesu ers 37 o flynyddoedd a hynny i gyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Er hynny, mae wedi bod yn brofiad buddiol i mi gamu allan o’r swigen Gristnogol Gymraeg am 3 mis a phrofi sypiau grawnwin gwahanol.

Eto, mae addoli Duw trwy gyfrwng y Gymraeg yn brofiad mwy bendithiol, dealladwy, teimladwy ac ystyrlon i mi. Dyma a brofais wrth addoli yn y Ffynnon ac yfed o ddyfroedd y bywyd. Cadarnhawyd eto yr alwad sydd arnaf i weithio ymhlith Cymry Cymraeg yn benodol. Addoliad cyfoes oedd hwn ac er mwyn cyrraedd Cymry Cymraeg na wyddant ddim am Gristnogaeth na’n traddodiad Ymneilltuol, rhaid newid ein diwylliant – nid newid yr Efengyl – a symud ymlaen yn enillgar. Heb hynny amherthnasol fydd ein tystiolaeth a rhyw Sain Ffagan o beth fydd ein cyfarfodydd. (Nid wyf yn difrïo Sain Ffagan ond yn ei defnyddio i wneud pwynt.) Nid yw hynny’n gyfystyr a chefnu ar ein treftadaeth Gristnogol. Fe ddiogelwn y cyfoeth hwnnw yn ogystal â diwygio ein dulliau.

Menyw

Yn ail, menyw oedd y pregethwr sef Heulwen o 21st Century Church, Llanelli. Dyma’r tro cyntaf i mi wrando ar ferch yn pregethu yn yr eglwysi y bûm ynddynt yn ddiweddar. Nid wyf yn credu y byddai caniatâd i ferched bregethu yn rhai ohonynt. Dwi’n anghytuno gyda’r safbwynt hwn yn llwyr ac yn Ebeneser rydym yn annog, hyrwyddo a chroesawu merched i agor gair Duw mewn oedfaon a hynny oherwydd ein dealltwriaeth o’r gair hwnnw. (Er mwyn gweld safbwynt iach am hyn, sy’n Feibl ganolog, hoffwn eich annog i ddarllen llyfryn Arfon Jones ar y mater hwn sef “Y Beibl……. ar ferched.” Yma mae Arfon yn delio gyda’r adrannau hynny o’r Beibl sydd yn ôl rhai yn gwahardd merched rhag pregethu. (Gellir prynu copi ar wefan Y Cyngor Ysgolion Sul.)

Heb os hon oedd y bregeth fwyaf eneiniedig (anointed) a glywais yn ystod y cyfnod Sabothol. Roedd y cyflwyniad yn llawn tân argyhoeddiad. “Traed gwlyb” oedd y teitl arni ac fe aeth Heulwen a ni i hanes yr Iddewon yn croesi afon yr Iorddonen yn Josua pennod 3.

“Dw i eisiau i ti ddweud wrth yr offeiriaid sy’n cario Arch yr Ymrwymiad, ‘Pan ddewch chi at lan afon Iorddonen, cerddwch i mewn i’r dŵr a sefyll yno.’” Josua 8: 8

    Siaradodd o dan dri phen sef, 1. Camu mas yn sanctaidd. Rhaid i ni fod yn sanctaidd wrth ddod at Dduw sy’n sanctaidd. Digwydd hyn trwy ras Duw yn Iesu yn ein golchi’n lân a gwaith yr Ysbryd yn ein calonnau 2. Camu mas i’r llif. Mentro mewn ffydd. Nid yw llif cryf afon yr Iorddonen yn stopio tan mae traed pobl Israel wlyb yn y dŵr. Josua 3:14 3. Camu mas gyda Duw. Roedd presenoldeb Duw yn mynd o flaen ei bobl yn Arch y Cyfamod. Roedd y bregeth yn llawn anogaeth ac ysbrydoliaeth i fentro mewn ffydd. Roedd hefyd yn llawn darluniau perthnasol oedd yn ein cynorthwyo i ddeall yr hanes yn well. (Mewn un man safodd Heulwen mewn bwced mawr o ddŵr.) Hoffwn annog unrhyw fenyw sy’n teimlo galwad i bregethu i wneud hynny gyda chymeradwyaeth ei heglwys ac o dan arweiniad ei chyd-aelodau.  (Gyda llaw ‘roedd hi yn dal meic yn ei llaw trwy gydol y bregeth!!!)

    Wedi’r oedfa roedd bwydydd blasus a phaned wedi eu paratoi a chyfle i bawb fwyta a chymdeithasu gyda’i gilydd.

    Diolch i Ffynnon Llandysul am y fraint o gael ymuno gyda chi a phob bendith yn y gwaith i’r dyfodol.