Pan yn blentyn roeddwn yn arfer mynd i gae chwarae Craig y Don, ym Mangor Uchaf ac ar y meri go rownd. Un o brif ddifyrion rhai o’r bechgyn hŷn oedd rhoi plant bychan arno ac yna ei droi mor gyflym â phosibl. Wrth iddynt wneud hynny’n gynt ac yn gynt roedd y plant druan yn cael eu gwthio i’r ochrau fel eu bod prin yn dal gafael gerfydd eu hewinedd. (Yn ôl y sôn yn lleol, taflwyd un dros Afon Menai ac fe’i canfyddwyd ar do Theatr Fach, Llangefni, canfyddwyd un arall yn hongian yn ddigon diddan ar oleudy Penmon yn canu “Ceidwad y Goleudy ydwyf fi.”) Roedd ambell un yn gweiddi yn eu dagrau, “stopiwch dwisho dod i ffwrdd.“ Ond dal i droi’r chwrligwgan yr oedd y bechgyn drwg gyda gwên foddhaus ar eu hwynebau.

Mae rhywbeth felly ynglŷn â bywyd weithiau. Pan mae gwleidyddiaeth yn sawru o lygredd a rhyfelodd ciaidd yn lladd y diniwed. Pan mae’n frwydr i dalu biliau a ffeindio gwaith ac mae’r cyfryngau hollbresennol yn eilunod sy’n llygru meddyliau hen ac ifanc fel nad oes lle bellach i Iesu. (Dy ddalen ar ffôn a’m cysurant) Mae pethau yn newid mor gyflym â chymaint o ansicrwydd a dryswch fel y byddai’n braf ambell dro gadael y cawlad. Mae rhai ohonom ar brydiau eisiau gweiddi, “stopiwch, dwishio dod i ffwrdd.”
A dyma ni, ar ôl Brexit, Cofid a chwyddiant enfawr yn sylweddoli eto nad yw ein harweinyddion yn ‘tebol i roi arweiniad call. Addawant baradwys a rhoddant Fedlam. Mae adnod yn rhywle yn sôn am y dall yn arwain y dall! (Gadewch iddynt; arweinwyr dall i ddeillion ydynt. Os bydd rhywun dall yn arwain rhywun dall, bydd y ddau yn syrthio i bydew.” (Mat 15:14) Maent yn sigledig, ansicr a phetrus ac y mae doethineb yn echrydus o brin.
Fe ddywedir fod Morswyn, S.J. Griffiths, wedi mynd am dro un dydd i Ynys Lawd, nid nepell o Gaergybi, ar arfordir Ynys Cybi, Ynys Môn, lle y gwelodd fôr stormus yn taro yn erbyn y creigiau ac yno y cafodd yr ysbrydoliaeth i sgwennu’r emyn.
Arglwydd Iesu, arwain f’enaid
at y graig sydd uwch na mi,
craig safadwy mewn tymhestloedd,
craig a ddeil yng ngrym y lli;
llechu wnaf yng nghraig yr oesoedd,
deued dilyw, deued tân,
a phan chwalo’r greadigaeth
craig yr oesoedd fydd fy nghân.
Er fod y byd gwleidyddol yn siglo, ein harweinyddion yn ansicr, ein cymdeithas yn oriog, y mae yna graig sy’n sefyll yn gadarn ynghanol y cwbl, y gallwn ymddiried ynddi, sef, Iesu Grist. “Y graig ni syfl (budge) ym merw’r llif.”
Safwch ar y Graig.
