Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Dedwyddwch

Adolygiad o The Power of Christian Contentment – Finding deeper, richer Christ-centered joy, (Baker Books, 2019), Andrew M. Davies.

Mae A. M. Davies yn weinidog yn First Baptist Church, Durham Gogledd Carolina, yn Athro Hanes yr Eglwys yn y Southern Baptist Theological Seminary ac yn  gadeirydd pwyllgor llywodraethiant The Gospel Coalition.  Mae wedi ysgrifennu nifer o erthyglau i wefan poblogaidd y TGC a siarad mewn sesiynau yn nghynhadledd blynyddol y TGC. Y mae hefyd yn awdur y llyfrau Revitalize a An Infinite Journey.

Y mae hon yn gyfrol sylweddol ar gyfer Cristnogion sy’n ein hannog i ganfod dedwyddwch yn Iesu Grist. Mewn gwirionedd nid oes dedwyddwch llawn i’w gael mewn unrhyw beth nac unrhyw un arall. Y mae wedi ei rhannu yn bedair rhan sef 1. The Secret of Contentment. 2. How to find Contentment. 3. The Value of Contentment. 4. Keeping Content. Yn y gyfrol mae’r awdur yn pwyso yn drwm ar waith y Piwritan Jeremiah Burroughs a’i lyfr “The Rare Jewel of Christian Contentment” gan ei ddyfynnu yn aml.

Y trysorau mwyaf feddaf….

Mae’n agor yn hyfryd yn yr adran gyntaf gyda phennod yn dwyn y teitl “A Rare Jewel in a Discontented World.” Yma mae Davis yn pwysleisio mai Iesu yw’r trysor mwyaf y mae Duw wedi ei roi inni fel dynoliaeth. Daw geiriau Pantycelyn i’r meddwl, “gwacter annherfynol ydyw meddu daear da na dyn, colled ennill popeth arall oni enillir ti dy hun.” Rhydd ddau esiampl o ddedwyddwch o’r sef Iesu a’r Apostol Paul. Dyfynna C.S. Lewis, “He who has God and everything else has no more than he who has God alone” ac fe ychwanega, “The implications of this way of thinking are staggering. If we embrace that we have within our relationship with Christ everything we need for peace and joy at every single moment of our brief span here on earth, imagine how free we should be, in all our relationships, from self-serving clinginess or desperation.”

Andrew M. Davis

Rhagluniaeth fawr y nef…

Yn yr ail adran y mae’n trafod sut i gael gafael ar y dedwyddwch Cristnogol yn y bywyd hwn. Yma mae’r pwyslais ar ganfod dedwyddwch yn nhrefn rhagluniaethol Duw. Yn wir yn y bennod sy’n dwyn y teitl “Contentment and Providence” y mae’n diffinio rhagluniaeth gan ddatgan fod Duw yn llywodraethu’n fanwl tros bopeth. E.e.,

“The rise and fall of every nation is clearly part of God’s wise and world-encompassing plan. “From one man he has made every nationality to live over the whole earth and has determined their appointed times and the boundaries of where they live.” (Act. 17: 26) That is mind-blowing when we ponder it, especially when we consider that the rise and fall of human empires always involved the most evil motives in the hearts of the conquerors. God holds each conqueror accountable for their actions, but uses their empires in his own inscrutable plan. God decided how long the Roman Empire would last and who would conquer it in the end. God decided where the Sioux, Pawnee, and Mohicans would roam in North America and when their boundaries would be curtailed by the European nations that would follow and settle down.”  (tud. 55)

Hoffwn gael trafodaeth wareiddiedig gyda chriw o bobl o wahanol safbwyntiau sy’n dallt y dalltings ynglŷn â hyn. Rwy’n deall beth mae Davis yn ei gyflwyno, ond eto mae cwestiynau mawr yn codi ynglŷn â chyfiawnder, hawliau dynol a hawl yr unigolyn i ymyrryd pan wêl bethau drwg yn digwydd yn y byd.

Gwelwn hefyd sut y mae Iesu yn dysgu dedwyddwch trwy ei eiriau a’i esiampl. (tud.81) Y mae Ef yn gosod Duw yn y canol ac yn ufuddhau i’w ewyllys yn llwyr. I’r Cristion daw dedwyddwch tragwyddol trwy Ei aberth iawnol ar y groes, ei atgyfodiad a’r ffaith wefreiddiol ei fod wedi ei gymodi gyda Duw. (tud. 87)

Diafol, cnawd a byd

Yn y drydedd adran y mae yn ein dysgu am werth dedwyddwch. Meddai,

“Burroughs gave a remarkable insight concerning the submission of Christian contentment and how it glorifies God: “In active obedience, we worship God by doing what pleases God, but by passive obedience we worship God by being pleased with what God does.” (tud. 101)  

Mae yn ein harfogi i fyw bywyd cyffredin pob dydd gan wrthweithio ein natur gwynfanllyd ni ein hunain (tud. 108), y dioddefaint a’r anawsterau a wynebwn yn ogystal â pheryglon cyfoeth a ffyniant materol. Mae adran ragorol yma sy’n delio gyda’r ffaith ein bod cwyno gymaint. (tud. 108 – 127 – The Evils and Excuses of a Complaining Heart.)

O Sancteiddia f’enaid….

Yna, yn yr adran olaf fe rydd gyngor i’r Cristion sut i gadw yn ddedwydd yn ystod ei fywyd. Daw hyn trwy inni sefyll yn gadarn yn erbyn gwaith yr un drwg, (tud. 172) a hynny trwy weithio’n gyson a chydwybodol ar ein sancteiddrwydd personol. (Wrth gwrs yr Ysbryd Glân sydd yn ein sancteiddio – yn ein gwneud yn debycach i Iesu, ond cywaith ydyw.)  Byw bywydau glân yn foesol, sefyll yn erbyn temtasiynau a bod yn debyg i Iesu mewn meddwl gair a gweithred. Ar ben hyn rhaid bod yn llawn sêl dros waith teyrnas Dduw.

Fel y gwelwch, nid llyfr ysgafn yw hwn, ond os ydych am gael eich herio a chael eich arwain i feddwl yn ddyfnach am Gristnogaeth a’r modd y mae’n cynnig dedwyddwch inni, mae’n werth ei ddarllen.