Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


11 Yr Unfed Wythnos ar Ddeg 1. 12 – 18 Tachwedd

Os ydych am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu yma  gellir gwneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com   Hefyd gellir gadael sylwadau cyhoeddus ar ddiwedd pob erthygl.

Gellir hefyd cael hysbys awtomatig o bob diweddariad ar Sabothal.blog trwy wasgu’r botwm cofrestru ar yr hafan a rhoi eich e-bost.

Angladd

Bu hon yn wythnos drist inni fel teulu oherwydd ddydd Gwener 17/11 fe gynhaliwyd angladd Elizabeth Poppy Pierce, mam, nain, mam yng nghyfraith a ffrind yn Amlosgfa Thornhill. Diolchwn i Arfon Jones am wasanaethu ac i Gwilym am draddodi teyrnged hyfryd i nain Llanrwst. Diolch hefyd i bawb a ddaeth i gydymdeimlo gyda ni fel teulu.

Ar yr un prynhawn cynhaliwyd angladd taid Alex Tudur a hynny yn Rwmania. Cydymdeimlwn gydag Alex, Dragos a Dana Sandru a’r teulu yn eu colled a’u hiraeth.

Dywedodd Iesu wrthi, “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd. Pwy bynnag sy’n credu ynof fi, er iddo farw, fe fydd byw; a phob un sy’n byw ac yn credu ynof fi, ni bydd marw byth. A wyt ti’n credu hyn?”
(Ioan 11:25-26)

Penarth Evangelical Church.

I Benarth yr euthum i addoli yr wythnos hon a hynny gydag eglwys efengylaidd Penarth. Y rheswm y euthum yno oedd oherwydd mai hon oedd oedfa gyntaf yr eglwys newydd. Gweledigaeth eglwys Highfields, Caerdydd, yw’r gynulleidfa ac fe ryddhawyd aelodau i ddod yma i gychwyn y gwaith. Dywedwyd bod 30 aelod wedi eu rhyddhau er mwyn iddynt gychwyn ar y gwaith. Tybiaf – gan fod Highfields yn eglwys gynnull – fod nifer o aelodau eisoes yn byw ym mharthau Penarth, Dinas Powys a Bro Morgannwg. Er mai Highfields blannodd hon ac eglwys The Bridge, Pontprennau yr oedd naws gwahanol i’r ddwy gynulleidfa. Teimlai hon eisoes fel cynulleidfa aeddfed. (Pan ydw i yn meddwl am eglwys newydd sbon, rwy’n meddwl am nifer o Gristnogion sy’n graidd ac o ysbryd cenhadol ac yna bod pobl o’r byd yn dod i ffydd ac yn ymuno gyda hwy. Ond rwy’n cael yr argraff yn gynyddol bod mwyafrif y rhai sy’n ymuno gyda chynulleidfaoedd newydd rwyf wedi ymweld â hwy eisoes yn proffesu ffydd. Cefais achlust (rumour) gan gyd-addolwr bod nifer wedi symud yno oherwydd anhapusrwydd o’r hyn oedd y digwydd mewn eglwys arall yn y gymdogaeth.)

Cynhelir yr oedfa ar y Sul yn adeilad newydd ysgol fonedd Westbourne School, Penarth. Unwaith eto, dim ond un oedfa Sul a gynhelir. Arwyddair yr ysgol yw Gesta Non Verba, a gyfieithir, fel, Gweithredoedd nid geiriau. (I mi roedd hyn braidd yn ddoniol.) Roedd y neuadd yn hyfryd gyda’r holl adnoddau cyfoes angenrheidiol i gynnal oedfa. Croesawyd fi yn gyfeillgar wrth y drws. Dyma’r oedfa gyntaf – yn ystod y cyfnod Sabothol – y rhoddwyd Beibl i mi wrth gyrraedd. Roedd naws gynnes yma gyda mwy o bobl hŷn – oddeutu yr un oed a fi!!! – nac yn yr eglwysi newydd eraill yr wyf wedi bod ynddynt. Rhwng 50 – 60 oedd yn bresennol gyda nifer o deuluoedd ifanc, plant a ieuenctid. Aeth y plant allan o’r oedfa wedi rhyw 20 munud i’w gweithgareddau.

Croesawyd ni yno gan un o’r henuriaid ac fy wnaed y cyhoeddiadau am weithgareddau a digwyddiadau’r wythnos. Darllenwyd o Salm 92 ac offrymwyd gweddi agoriadol a gweddi Sul y Cofio. Arweiniwyd ni mewn addoliad gan ŵr ar y guitar, canwr a pherson yn taro cajon yn frwdfrydig. Yr oedd y caneuon/emynau yn fwy traddodiadol eu naws ac er na wyddwn yr un ohonynt roeddent yn rhwydd eu canu. Yr hyn am synnodd oedd fod pawb oedd yno yn gwybod yr emynau.  Roedd hynny yn gwneud i mi dybio bod y rhan fwyaf oedd yn bresennol yn Gristnogion.   Darllenwyd o Actau 19 adnodau 1-20 lle y cawn hanes ymweliad Paul ag Effesus. Gwnaed casgliad. Eithriad yw hyn yn yr eglwysi yr wyf wedi eu mynychu yn y 3 mis diwethaf.

Er mawr gywilydd ni ddeallais beth oedd enw’r pregethwr/ gweinidog yn iawn ond credaf mai ei gyfenw oedd William neu Wilheim. Americanwr ydoedd o Oklahoma a fu yn genhadwr am gyfnod yn Rwsia. Pregethodd ar Effesiaid 1: 1 a 2. Sef,

1Paul, apostol Crist Iesu trwy ewyllys Duw, at y saint sydd yn Effesus, yn ffyddlon yng Nghrist Iesu. 2Gras a thangnefedd i chwi oddi wrth Dduw ein Tad a’r Arglwydd Iesu Grist.

Rhoddodd gefndir hanesyddol a diwylliannol Effesus ac yna esboniodd y cyfarchiad sy’n agor y llythyr at yr Effesiaid. Esboniodd arwyddocad y teitl apostol ac fe ganolbywntiodd ar y geiriau gras a thangnefedd.

Ar ddiwedd yr oedfa bedyddiwyd 2 oedolyn a chyn iddynt gael eu trochi clywsom eu tystiolaeth am waith Duw yn eu calonnau. Peth hynod o fuddiol yw clywed tystiolaeth cyd-gristnogion a beth sydd wedi digwydd yn eu pererindod ysbrydol.

Diolch i eglwys efengylaidd Penarth am y croeso

(Wrth fynychu eglwysi Saesneg eu cyfrwng mae’r cwestiwn bob amser ar fy meddwl, “pa mor ymwybodol yw’r eglwysi hyn eu bod yng Nghymru?” Oherwydd wrth wrando ar yr hyn ddywedir mewn oedfaon gallwn fod mewn unrhyw dref yn yr  UK. Cyfyd hyn gwestiwn pellach o sut y mae Cymry di-gymraeg yn mynegi eu Cymreictod mewn addoliad? Neu a yw hyn yn rhywbeth cwbl amherthnasol? Ynteu a ydym ni yn rhy ymwybodol o’n Cymreictod? Fel Cristion Cymraeg ei iaith mae fy myd-olwg ychydig yn wahanol.)

Sgwrs yr wythnos gyda Ryan Forey

Cefais sgwrs ddifyr gyda’r Parch. Ryan Forey, ficer eglwys Citizen Church, Woodville Road, Caerdydd. Mae’r hyn sydd wedi digwydd yno mewn cyfnod eithriadol o fyr yn bur syfrdanol.

Cyfarfyddais gyda RF ar amser cinio dydd Mercher yn adeilad eglwys Sant Teilo, sydd oddi ar Heol y Crwys. Gan fod RF yn hwyr eisteddwn yn y caffi awyr agored sydd ar fuarth bychan yr eglwys. Yr hyn a wnaeth argraff arnaf oedd y bywyd a’r egni oedd yno. Roedd llawer o fynd a dod. Myfyrwyr yn prynu coffi o’r stondin a sgwrsio am hyn, llall ac arall. (Gyda llaw, mae ganddynt swyddog cyflogedig sy’n gyfrifol am y coffi sef Dan. Gwnaeth baned o de i mi!) Yng nghorff yr eglwys roedd sesiwn Spear sy’n weithgarwch penodol ar gyfer y di-waith. Rhoddant hyfforddiant sut i lenwi ffurflenni cais ac ymgeisio am swyddi. Maent hefyd yn cynnal oedfaon yng Ngharchar Caerdydd a’r Parc ac ar fin cychwyn Cyrsiau Alffa yno.

Os oes y fath beth ag eglwys “broffesiynol” o ran gweinyddiad, hon yw hi. Mae popeth yn ei le wedi ei drefn, ei gynllunio a’i weithredu yn fanwl gyda’r bwriad o ennill pobl i ffydd ac i dyfu yn ysbrydol. Maent wedi meddwl a chynllunio yn drylwyr ac felly mae popeth yn ei le yn gweithio fel oriadur (watch) o’r dechrau. Agorwch y drws ac y mae hyder yn llifo allan ohoni. Wrth edrych ar y tîm arwain ar eu gwefan y mae’n amlwg fod ganddynt ddigon o arian i gyflogi nifer fawr o bobl ifanc a thîm profiadol yn gefn iddynt.

Wedi i RF ddod aethom i swyddfa y tu allan yn y cefnau a gofynnais iddo i adrodd hanes cychwyn Citizen Church.  Deuai RF yn wreiddiol o Watford, Llundain. Nid oedd ei deulu yn Gristnogion ac ni fynychodd unrhyw weithgarwch Cristnogol hyd nes oedd yn 17 oed. Pryd hynny dechreuodd fynychu gweithgareddau Soulsurivour. (Yn ddiweddar bu Mike Pilavachi, un o arweinyddion Soulsurvivour o dan amheuaeth oherwydd ymddygiad anaddas.)

Un haf fe aeth i ŵyl Soulsurvivor a dod i ffydd yn Iesu Grist. O ganlyniad i hynny fe newidiodd trywydd ei fywyd yn llwyr. Dechreuodd ymwneud â gweithgareddau cenhadol Cristnogol, aeth i’r coleg gan raddio mewn Anthropoleg. Aeth am gyfnod i Goleg Anglicanaidd Wycliffe Hall yn Rhydychen gan symud wedyn i Brighton. O’r fan honno symudodd i Southampton gan weithio yn eglwys Anglicanaidd St. Mary’s. (Eglwys sydd â chysylltiad gyda Holy Trinity Brompton.)  

Ar wahoddiad Esgob Llandaf ar y pryd, sef y Parch. June Osborne, fe ddaeth 15 o Gristnogion ifanc o’r eglwys yn Southampton i gychwyn gwaith newydd yng Nghaerdydd, yn 2020, a hynny o dan arweiniad RF. (Lansiwyd deiseb oedd yn gwrthwynebu hyn a arwyddwyd gan dros 2,000 o bobl) Y mae arian mawr wedi ei fuddsoddi yn y gwaith hwn gan yr Eglwys yng Nghymru a gwaith cyffelyb Hope yn Wrecsam Credaf fod bron i £2 filiwn wedi ei rannu rhwng y ddau brosiect. (Rhaid canmol yr Eglwys yng Nghymru am neilltuo £100 miliwn yn benodol at waith cenhadol. Gwych iawn.)

Pan holais RF am y sefyllfa ariannol. Dywedodd eu bod wedi gorfod benthyg £500,000 er mwyn adnewyddu adeilad yr eglwys a’i fod yn disgwyl i bob aelod ddaw atynt i ddegymu. (Fe ysgrifennaf bwt am hyn mewn erthygl ar wahân.) Dywedodd ei bod yn costio yn ariannol i ddilyn Iesu ac y dylem ddisgwyl i Gristnogion roi yn hael at Ei waith.

Dair blynedd yn ddiweddarach dywedodd RF wrthyf bod 700 o aelodau yn yr eglwys ac nid yw hynny’n cynnwys y 100 o fyfyrwyr sy’n mynychu’n gyson. Brensiach y bratiau! Penffrwydrol. Edrychwch ar y wefan ac fe welwch bod 25 o bobl yn rhan o’r tîm arwain. Tybiaf bod nifer o rhain yn gyflogedig ac fe gyflawnant swyddi fel Ficer Cynorthwyol, Cynorthwyydd Gweithredol, Pennaeth Cyfathrebu a Gofal Bugeiliol, Gweinyddydd, Gweinidog Addoliad, Gweinidog Ieuenctid, Swyddog Cyfiawnder (ac wrth gwrs Dan, Rheolwr Coffi Citizen)  a.y.b.  

Gofynnais iddo gyfeirio at y gweithgareddau sydd ganddynt i dyfu’r eglwys ac roedd y nifer y tu hwn i’r hyn y gallaf eu rhestru yma o dimau pêl-droed, gwaith plant a theuluoedd i astudiaethau Beiblaidd. Fe ddefnyddiant Y Cwrs Alffa fel cyfrwng cenhadol ac y mae o leiaf 66 o bobl wedi dod i ffydd yn Iesu yn ystod y 3 blynedd. Y maent nawr wedi cychwyn gwaith newydd cyffelyb ym Mhontypridd a Senghennydd

Mantra mynych Ryan yw “rhaid torri’r stereotype o beth yw eglwys.” Dywedodd hyn wrthyf fwy nac unwaith.

Gofynnais iddo. “Ym mha ffordd y mae cychwyn gwaith newydd yma yng Nghymru wedi gwneud gwahaniaeth i’w weinidogaeth.” Atebodd nad oedd yn gwneud unrhyw wahaniaeth ei fod yng Nghymru.

Diolch i’r Arglwydd am y gwaith rhyfeddol sy’n digwydd trwy Citizen Church. Safaf yn gegrwth (agog) wrth ryfeddu at eu llwyddiant.

Os oes y fath beth a chenfigen sanctaidd – go brin bod – ond rwyf i yn dioddef ohono.

Diolch i Ryan am roi amser o’r neilltu am sgwrs o’i amserlen brysur.