Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Y Gwres – Pendref, Enfys Gobaith, Llanw

Nawr ac yn y man tros blynyddoedd rwyf wedi profi Y Gwres. Ei bresenoldeb, Ei ddylanwad, Ei oleuni, Ei gariad, Ei gymorth, Ei gerydd. Weithiau pan dwi ar fy mhen fy hun fe ddaw ataf a thro arall pan mewn torf o bobl y mae Ei bresenoldeb yn amlwg. Yn achlysurol fe ddaw Y Gwres gan fy llorio’n llwyr. Dro arall daw yn addfwyn fel tes gan gadarnhau fy mod yn ddiogel beth bynnag ddigwydd. Pan ddaw Y Gwres y mae’n toddi fy nghalon, yn gwneud fy meddwl yn glir ac yn tynnu fy sylw at y Fo.

Llun gan Adam Wilson ar Unsplash

Byth ers i mi gredu ynddo Fo  fe ddaw, weithia’n anorchfygol ac weithia’n dawel ac rwy’n reit siŵr erbyn hyn nad yw Y Gwres byth yn ymadael. Ond mae yma, y mae ynof, yn twymo fy enaid, yn atgyfnerthu fy ffydd, yn gwneud Y Gair yn fyw a dealladwy.  Mae’r amserau hynny y profais Ef erbyn hyn yn rhy niferus i’w rhestru ond dyma roi syniad i ti o rai o’r achlysuron hynny.

Pendref

Mewn oedfa gymun oedd hi yng nghapel Pendref, Bangor. Roedd y Parch. John Gwilym Jones wedi gweinyddu’r cymun a chyda’i lais addfwyn rhannodd gyda ni am aberth dragwyddol yr Arglwydd Iesu. Lediodd emyn William Williams, Pantycelyn,

“Dros bechadur buost farw, dros bechadur ar y pren

Y dioddefaist hoelion llymion nes it orfod crymu pen,

Dwed i mi a’i fi oedd hwnnw gofiodd gariad rhad mor fawr,

Marw dros un bron a suddo yn Gehenna boeth i lawr.”

Wrth i JGJ ein hannog i ystyried arwyddocâd y geiriau fe ddisgynnodd Y Gwres arnaf. Dangosodd Iesu’n glir i mi yn Ei berffeithrwydd. Cefais y teimlad nad geiriau Pantycelyn oedd y rhain ond geiriau oedd yn mynegi fy mhrofiad i. Nid dros rywun arall y bu  Iesu ar y groesbren arw ond trosof fi. Dioddefodd oherwydd fy anufudd-dod i a chael ei gosbi yn fy lle. Darfu’r nos ar f’enaid a gwawriodd Haul maddeuant Duw gyda sicrwydd ei gariad.

 Nid anghofiaf byth yr achlysur hwnnw pryd y daeth Y Gwres yn eiriasboeth.

Enfys Gobaith

Roedd y bagiau Lidl yn llawn tuniau bwyd, pasta a phapur lle 6, yn gruddfan yn gwynfanllyd, wrth inni fynd i mewn i’r ganolfan. Wrth agor y drws roedd wal o sŵn yn taro ein clustiau. Sgwrsio, gweiddi, chwerthin, trafod yn un cenllif amlieithog. Roedd pawb ar draws ei gilydd fel nyth mywion. Iraniaid, Indiaid, Iraciaid, pobl o Fangladesh ac Affganistan, Saeson a Chymru yn gymuned dros dro. Ymgeiswyr lloches oedd rhai, eraill yn ddi-gartref a chaeth i gyffuriau ac eraill drachefn yn byw bywydau digon di-daro. Rhuthrodd Tudur i’r storfa yn y cefn gyda llwyth o adnoddau hanfodol. Roedd pawb ar draws ei gilydd. Rhai yn gweini bwyd a phaneidiau, eraill yn edrych ar ddillad yn y siop ail law. Holwyd am gyngor budd-daliadau a llety ac yng nghanol yr anrhefn, yn foth i’r alanas roedd Liz yn llawn haelioni a gras tuag at yr anghenus. Ac yno roedd Y Gwres yn dwyn Ei ffrwyth cynnes i’r golwg trwy arwain Ei bobl i ofalu am y bregus yn eu plith. Ffrwyth yn llawn cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder a hunanddisgyblaeth. Trefn Duw yn anhrefn dyn.

Nid anghofiaf byth yr achlysur hwnnw pryd y daeth Y Gwres yn llawn dyngarwch.

Llanw

Roedd torf o rai cannoedd wedi ymgynnull ar gyfer oedfa o fawl yn Neuadd Goffa Cricieth fel rhan o Ŵyl Llanw. Y mawlweinydd ar y noson honno oedd yr amryddawn a’r eneiniedig  Siân Wyn Rees. Siân oedd ar yr allweddell wrth i ni ganu, “Mi glywaf dyner lais.” Ond cydiodd Siân yn ddeheuig yn y gytgan, “Arglwydd, dyma fi, ar dy alwad di…” Tro ar ôl tro arweiniodd ni i ail-ganu’r geiriau nes eu bod yn atseinio trwy Eifionydd. Pwysodd arnom i’w cymryd o ddifri ac i ystyried yr hyn yr oeddem yn ei ddweud wrth yr Arglwydd. Ac yno, roedd Y Gwres, yn cydio yn y galon ac yn meithrin ymdeimlad dwfn o ymgysegriad i waith Iesu Grist. Cyfle i ildio ein hunain i Dduw gan bledio arno ein cymryd ni a’n defnyddio fel offerynnau parod yn ei law, i wneud gwaith Ei Deyrnas. “Arglwydd, dyma fi” oedd ein cri. Dagrau oedd y profiad y noson honno. Dagrau o gydnabod hawl Duw ar ein bywydau. Dagrau o gyfamod, ein bod ni o eigion ein heneidiau yno ar ei alwad Ef ac ar ei alwad tra byddwn ar y ddaear. Dagrau ein bod wedi ein prynu yn eiddo iddo trwy waed ei Annwyl Fab.  “Arglwydd, dyma fi…. canna f’enaid yn y gwaed a gaed ar Galfari.”

Nid anghofiwn byth yr achlysur hwnnw pryd y daeth Y Gwres a llosgi yn ein calonnau.

Dywedodd Iesu,  

“Os ydych yn fy ngharu i, fe gadwch fy ngorchmynion i. Ac fe ofynnaf finnau i’m Tad, ac fe rydd ef i chwi Eiriolwr arall i fod gyda chwi am byth, Ysbryd y Gwirionedd. Ni all y byd ei dderbyn ef, am nad yw’r byd yn ei weld nac yn ei adnabod ef; yr ydych chwi yn ei adnabod, oherwydd gyda chwi y mae’n aros ac ynoch chwi y bydd.

(Ioan 14:15-17)

“In the evening I went very unwillingly to a society in Aldersgate Street, where one was reading Luther’s preface to the Epistle to the Romans. About a quarter before nine, while he was describing the change which God works in the heart through faith in Christ, I felt my heart strangely warmed. I felt I did trust in Christ, Christ alone, for salvation; and an assurance was given me that He had taken away my sins, even mine, and saved me from the law of sin and death.” John Wesley

YSBRYD GLÂN – y mae y pethau canlynol i’w hystyried a’u dangos mewn perthynas iddo: –

I. Ei fod yn Dduw.

II. Ei fod yn Berson gwahanol oddiwrth y TAD a’r MAB.

III. Ei fod yn deilliaw oddiwrth y TAD a’r MAB.”

Geiriadur Ysgrythyrol Thomas Charles o’r Bala

O.N.

Gŵyl Ddewi

Ar ddydd Gŵyl Ddewi, Mawrth y cyntaf, yr oedd cwrdd gweddi wedi ei drefnu yng nghapel Ebeneser. Dim ond Arfon a finnau ymddangosodd ar yr achlysur hwnnw. Yno, yr oedda ni, yn y capel mawr gwag, gyda siffrwd y ddinas y tu allan. Yr Hollalluog a’r ddau ohonom yn disgwyl pererinion eraill i ymuno. Ni ddaeth neb. Yn hytrach na gadael, gan fod cyn-lleied ohonom, ddaru ni benderfynu gweddïo ar ein gliniau yn ffrynt y capel. Gweddi o eiriol dros Gymru ein gwlad, dros ei phobl a’i heglwysi a’u cyflwr ysbrydol. Gweddïo ar i’r Arglwydd drugarhau. Gweddïo am adnewyddiad ysbrydol a bendith yr Ysbryd Glân. Gweddïo ar i’n teuluoedd a’n plant a’n hieuenctid ddod i ffydd fyw. Wrth inni benlinio ger bron gorsedd gras, clywsom sŵn uwchben, sisial prysur colomen yn hedfan y tu mewn i’r capel. Hedfanodd o gornel dywyll gan lanio yn ddigon diddos yng ngoleuni ffenestr liw. Ac yn eiliadau ein syndod yr oedd Y Gwres yn ymbelydru yn danbaid yn ein argyhoeddi mai yno yr oeddem i fod. Roedd ein gweddi dros ein cenedl yn ddilys wrth i ni ofyn y cwbl yn enw Iesu Grist.  

Nid anghofiaf byth yr achlysur hwnnw pryd y daeth Y Gwres yn wenfflam.