Yn ddiweddar darllenais nofel antur The Silver Serpent gan Scott Mariani. Pob hyn a hyn dwi’n hoffi darllen rhywbeth cwbl wahanol i’r hyn dwi’n eu darllen yn arferol er mwyn gwybod beth sy’n digwydd yn yr hen fyd ma. A beth yw teithi meddwl awduron secwlar. Gallwn yn rhwydd fynd i swigod cyffyrddus o fodolaeth lle nad ydym yn gorfod wynebu na delio gyda safbwyntiau gwahanol i’n rhai ni ein hunain. Nofel gyffrous yw hon am gyn filwr o’r enw Ben Hope arferai fod yn aelod o’r SAS. Mae’n gallu ymladd, saethu, lladd, datrys, cuddio cystal â neb. Mae Ben yn arbenigo ar ganfod a rhyddhau gwystlon sy wedi eu dal gan ddihirod. Mae pobl yn cysylltu gydag ef ac yn talu arian mawr er mwyn manteisio ar ei sgiliau unigryw. Felly, y mae’n mynd ar hyd a lled y byd yn helpu pobl mewn argyfyngau.

Yn y Silver Serpent y mae Ben yn mynd i weithio yn Awstralia gan fod pobl yno wedi eu herwgipio gan ddrwgweithredwyr sydd am elwa. Yno yn mae’n wynebu pob math o beryglon ac anturiaethau. Yn y diwedd wrth gwrs y mae’n cyflawnir gwaith ac yn syrthio mewn cariad.
Yn ddiddorol, yn ogystal â’r prif thema y mae is-thema sy wedi ei blethu yn ddeheuig trwy’r nofel ac y mae hon yn ymwneud â Brodorion Cyntaf Awstralia. Mae Ben yn cysylltu gyda rhai o’r brodorion cynhenid hyn sydd maes o law yn ei gynorthwyo. Y maent hwy yn gyfarwydd â’r tirwedd, y tywydd a chyda rhwydwaith o gysylltiadau defnyddiol. Wrth i’r stori ddatblygu cyflwynir gwrthdaro rhwng cwmni mwynau rhyngwladol sy am agor gwaith ar dir sy’n gysegredig gan y Brodorion Cyntaf. Yn y darn hwn o dir y mae caneuon y cyndadau yn sôn am sarff arian oedd yn bodoli yno. Ond y mae’r Cwmni Rhyngwladol yn gweld y gallant wneud elw mawr trwy gloddio mwynau. (Yr un hen stori fythol mewn gwirionedd, lle mae gwrthdaro rhwng elw a diwylliannau lleiafrifol. Cyfoeth ac arian yw eilun mawr pob oes ac nid oes gan Famon gydwybod. Felly y mae yn ein cyfnod ni lle mae canran fechan o bobl yn anfoesol o gyfoethog a chanran fawr o’r boblogaeth yn fyd-eang ar eu cythlwng.) Wrth ddarllen y llyfr roeddwn yn meddwl bod hyn yn eithriadol o ddychmygus, ond ychydig a wyddwn i mewn gwirionedd.

Radio 4
Rhai wythnosau yn ddiweddarach roeddwn yn gyrru yn y car ac yn gwrando ar Radio 4 ac fe ddaeth eitem yn cyfeirio at y modd roedd cwmni Rio Tinto wedi dinistrio creiriau pwysig i bobl frodorol Awstralia oedd yn dyddio yn ôl 46 mil o flynyddoedd a hynny er mwyn cael gafael ar wraniwm. Yn y diwylliant brodorol nid yw pobl yn gallu perchnogi tir, y tir sy berchen y bobl. Mae hyn yn wahanol iawn i’r ddealltwriaeth Orllewinol, lle mae tir yn eiddo i bobl. Gellir ei brynu a’i werthu. Dyma un rheswm pam fod diwylliannau brodorol Awstralia ac America wedi bod mor rhwydd i’w concro. Nid oeddent yn credu mai hwy oedd perchnogion y tir yr oeddent yn byw arno. Felly, pan ddaeth yr Ewropeaid i’w concro roedd yn rhwydd iddynt hawlio tiroedd y brodorion. Yn Awstralia roedd ganddynt hefyd ganeuon traddodiadol roeddent yn eu canu wrth deithio o amgylch y cyfandir. Cyn dyfodiad yr Ewropeaid cymunedau nomadig oedd yr Aborijiniaid ac felly wrth ganu’r caneuon roeddent yn adrodd hanes creu y by, y tirluniau a’r nodweddion daearyddol o gyfnod “amser breuddwydion.” (Roedd y gerdd Gwreichion gan Iwan Llwyd – enillodd y goron yn Eisteddfod Cwm Rhymni 1990 – wedi ei hysbrydoli gan lyfr The Songlines a ysgrifennwyd gan Bruce Chatwin ym 1987. Gellir darllen mwy am hyn yn nhraethawd doethuriaeth, Davies, W.M., Nid yw diwedd y daith ond ei dechrau: Agweddau ar waith Iwan Llwyd, tud. 125 – 127)
Rhyfeddais at hyn i gyd wrth i mi sylweddoli faint o waith ymchwil manwl oedd y tu ôl i nofel antur fel The Silver Serpent.
Gellir gweld mwy am ddinistrio etifeddiaeth brodorion Awstralia trwy glicio ar y dolenni isod.
https://www.bbc.co.uk/sounds/play/w172x57t6c6f946
