Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Neges Fawr y Proffwyd Bach

Fel meidrolion rydym yn rhwym o fynd trwy gyfnodau anodd. Cyfnodau o dristwch a cholled, salwch ac iselder, rhwystredigaeth a siomedigaeth. Fel Cristnogion gallwn deimlo fel methiant yn ein bywydau personol ac ysbrydol gan ein bod yn syrthio yn aml i demtasiynau ac yn methu a bod yn debyg i Iesu. Dro arall mae gwendidau mawr yr eglwys a chyflwr dychrynllyd dynoliaeth yn ein digalonni ac mae’n anodd dyfalbarhau.

Neges Galonogol

Er mwyn dy annog i ddal ati’n hyderus, hoffwn dynnu dy sylw at baragraff clo llyfr y Proffwyd Habacuc. Yma mae geiriau bendigedig a neges bwysig inni fel Cristnogion yn y cyfnod arbennig hwn.

17Er nad yw’r ffigysbren yn blodeuo,

ac er nad yw’r gwinwydd yn dwyn ffrwyth;

er i’r cynhaeaf olew ballu,

ac er nad yw’r meysydd yn rhoi bwyd;

er i’r praidd ddarfod o’r gorlan,

ac er nad oes gwartheg yn y beudai;

18eto llawenychaf yn yr ARGLWYDD,

a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth.

19Yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth;

gwna fy nhraed yn ysgafn fel ewig,

a phâr imi rodio uchelfannau. Habacuc 3 BCND

Yma, mae’r proffwyd yn disgrifio cyfnod anodd lle nad yw’r cnydau yn dwyn ffrwyth ac y mae’r rhagolygon yn dywyll. Y mae aflwyddiant i’w weld yn glir ym mhob man. Ond yna yn adnod 18 fe ddywed “eto llawenychaf yn yr ARGLWYDD, a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth.”

Eto

Er y methiant a’r aflwyddiant y mae yn parhau i lawenhau yn yr Arglwydd. Gair bach trawiadol yw’r gair eto yn adnod 18 sy’n newid naws y neges ac yn ei throi i fod yn gadarnhaol. Er y tryblith oedd yn ei fywyd, eto roedd llawenhau yn Nuw. Ceir yr un ergyd gan Job lle dywedir, “Pe lladdai Efe fi, eto mi a obeithiaf ynddo Ef.” Job 13: 15

Ar un modd yn hanes y tri gŵr a daflwyd i’r ffwrnais dân yn Llyfr Daniel, wrth gyfarch y brenin.

“Os ydyʼr Duw dyn niʼn ei addoli yn bodoli, bydd eʼn galluʼn hachub ni oʼr ffwrnais dân ac oʼch gafael chi, o frenin. 18Ond hyd yn oed os ydy e ddim yn gwneud hynny, sdim gwahaniaeth. Does gynnon ni ddim bwriad addoli eich duwiau chi, naʼr ddelw aur dych chi wediʼi chodi.” Daniel 3: 17 beibl.net

Ydwyf yr hyn Ydwyf

Roedd Habacuc yn addoli Duw nid oherwydd unrhyw fanteision neu fendithion yr oedd yn eu derbyn ond oherwydd mai Duw ydoedd. A dyna beth mae Duw yn ei haeddu. Haedda ein mawl, ein teyrngarwch doed a ddelo. Nid ydym yn addoli Duw er mwyn inni gael bywyd rhwydd, bwyd ar ein byrddau neu iechyd. Rydym yn addoli Duw oherwydd mai ef yw’r Tad nefol sydd wedi ein creu, sydd yn ein cynnal ac yn ein hachub trwy wyrth a rhyfeddod gwaith Iesu trwy ei fywyd perffaith ei farwolaeth aberthol ar y groes a’i atgyfodiad. Dyma yw ffydd, ymddiried yn Nuw beth bynnag sy’n digwydd. Fel y dangosodd Iesu yng ngardd Gethsemane, pan ddywedodd wrth ei Dad nefol, “Boed i’r cwpan hwn fynd heibio. Onid nid fel y mynnaf fi ond fel y mynni di.”

Roedd yr Iesu’n berffaith ac fe gyflawnodd ewyllys Duw yn llwyr, eto ni chafodd fywyd rhwydd, a bu farw ar groes. Eto cadwodd yn driw i’w Dad. Dyma’r hyn a welwn yn Habacuc, mae’n caru Duw am ei fod yn Dduw llawn cariad gan ymddiried mewn ffydd yn ei sofraniaeth. Ei addewid yw Ei fod gyda ni bob amser beth bynnag da ni’n ei wynebu. Mae’r Ysbryd Glân gyda ni ac mae addewidion Duw yn sicr.  (Math. 28:20)

Gallwn yn rhwydd aralleirio’r geiriau hyn yn Habacuc gan ddweud,

Pan mae salwch yn dod ac iechyd yn brin

Pan mae anwyliaid yn marw a’r galar yn chwyrn

Pan mae rhyfel yn agos a heddwch yn bell

Pan mae’r economi’n simsan a’r biliau’n ddrud

Pan mae bywyd yn galed am ysbryd yn glaf

Pan gollaf fy swydd a dim bwyd ar y bwrdd

Pan mae’r eglwysi yn wan a ffydd ar drai

Eto, 

bydda iʼn addoliʼr ARGLWYDD

ac yn dathluʼr Duw sydd yn fy achub i!

Maeʼr ARGLWYDD, fy meistr, yn rhoi nerth i mi,

ac yn gwneud fy nhraed mor saff âʼr carw

syʼn crwydroʼr ucheldir garw.

Os wyt ti’n teimlo yn isel heddiw myfyria ar adnodau hyn a neges fawr yr Arglwydd i ti trwy Habacuc. Nid yw caledi bywyd yn arwydd o ddiffyg cariad a gofal Duw tuag atat ti.

“Mae’n fy ngharu, rwyf yn gwybod
Mae ei eiddo byth wyf fi
Mae’n fy ngharu, diolch iddo
Prynodd fi ar Galfari.”