Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


10 Y Ddegfed wythnos 5 – 11 Hydref

Llyfrau, Fideos a Blogiau

Fideos a Blogiau

Gwyliwch y cyfweliad hwn gydag Arfon Jones yn sôn am ei waith a’i weledigaeth.

Beth am wrando ar ganeuon mawl cyfoes gan griw Adlais? Maent yn eithriadol o dda.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf y mae nifer o bregethwyr gwadd wedi bod yn agor y gair yn Ebeneser, Caerdydd sef, Arfon Jones, Catrin Roberts, Simeon Baker, Nigel Davies, Siân Meinir, Carys Mair Jones, Rhodri Jones, Heulwen Davies, Ifan Roberts, Gwynedd Jones, Rosa Hunt, Andrew Sully.

Os am wrando arnynt, dos i’n cyfrif Soundcloud

Wyt ti’n defnyddio stori mewn pregeth? Ydy hi yn un addas? Dyma gyngor….

Faint o bobl sy’n dod i’r gwasanaeth? Mesur eglwys yn ôl niferoedd?

Llyfrau – Chwalu’r us a chadw’r gwenith

Newydd orffen ddarllen nofel dditectif The Killing Song gan Lesley McEvoy. Yma mae’r Seicolegydd Fforensig, Jo McCready, ar drywydd llofrudd ciaidd a brwnt. Ychydig yn amrwd mewn rhai mannau ond mae yn ein cadw ar bigau’r drain hyd y diwedd. Braidd yn hirwyntog. Nid llyfr Cristnogol mohono.

Wedi dechrau darllen nofel antur gan Scott Mariani yn dwyn y teitl Graveyard of Empires. Llyfr yn dilyn anturiaethau’r cyn filwr SAS Ben Hope yn Afghanistan. Nid llyfr Cristnogol mohono.

Rwy’n parhau i ddarllen traethawd Doethuriaeth y Parch. Dr. Emyr Gwyn Evans,  sef,

“Datblygiad yr eglwysi Annibynnol yn ne-orllewin Cymru, c.1790-1837, gyda sylw arbennig i gyfraniad David Davies, Abertawe (1763-1816), Morgan Jones, Tre-lech (1768-1835) a David Peter, Caerfyrddin (1765-1837).”

Hefyd dwi dal i ddarllen,

The Power of Christian Contentment, (Crossway, 2010), Andrew M. Davis.