Adolygiad o Cofiant Lewis Rees, (Abertawy, 1852), John Davies, Mynyddbach
Bu Lewis Rees (1710 – 1800) yn weinidog i Iesu Grist mewn eglwysi annibynnol yn Llanbrynmair, Maes-yr-onnen a Mynydd-bach, Abertawe yn ystod ei oes faith.
Llyfryn bach yw hwn 56 tudalen a brynais gan Dafydd Timothy, Siop y Morfa, Y Rhyl am bris rhesymol. (Os wyt ti yn chwilio am hen lyfrau Cymraeg cysyllta gyda Dafydd dafydd@siopymorfa.cymru)
Fe’i prynais oherwydd bod gennyf ddiddordeb yn y genhedlaeth o weinidogion ac efengylwyr oedd yn gweithio yng Nghymru ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif. Roedd y rhain yn arloeswyr tros y ffydd Gristnogol, yn bobl ddewr a wynebodd erledigaeth a chaledi ond a barhaodd gyda’r weledigaeth o rannu Iesu Grist gyda gwerin ein cenedl. Rhain fraenarodd y tir ar gyfer twf aruthrol Cristnogaeth Ymneilltuol yn ddiweddarach. Cychwynnwyd llu o achosion newydd ganddynt o Fôn i Fynwy ac yr oedd eu hegni yn ddiflino. Roedd Lewis Rees yn un o’r cyfryw rai. Gwaetha’r modd – hyd y gwn i – nid oes cofiant teilwng wedi ei ysgrifennu amdano ac erbyn hyn y cyfan y gellir ei wneud yw cywain ychydig ffeithiau o amrywiol gyfeiriadau. Y llyfryn hwn yw un o’r ffynonellau hynny. Ysgrifennwyd llyfryn cynharach am Lewis Rees ym 1812 gan John Roberts, yr hynaf, Llanbrynmair sydd yn 26 tudalen. Dywed J Davies golygydd y llyfryn hwn ei fod yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd yn honno. (Nid oes cyfeiriad at lyfryn John Roberts yn y pwt am L Rees yn y Bywgraffiadur Cymreig.)

Hen Gapel, Llanbrynmair
Gwreiddiau
Ganwyd L. Rees 2 Mawrth 1710 mewn tŷ o’r enw Glynrhywdre (neu Glynllwydrew), plwyf Glyncorrwg yn agos at Flaengwrach, Cwmnedd. Roedd ei daid yn offeiriad plwyf Penderyn, ond trodd ei dad Rees Edward Lewis at yr Ymneilltuwyr. Roedd ei fam, yn ôl y sôn, o linach John Penri. Derbyniodd L Rees addysg gynnar gyda Mr Henry Davies gweinidog Blaengwrach cyn astudio wrth draed Thomas Perrott yn Athrofa Caerfyrddin. Maes o law dechreuodd bregethu a than ddylanwad Edmwnd Jones, Pont-y-pŵl aeth i Lanbrynmair ym 1734 a bu ei ddylanwad yn fawr fel gweinidog yno a thrwy ogledd Cymru yn gyffredinol.
Troeon yr yrfa
Bu yn weinidog yn Llanbrynmair o 1834 – 38. Symudodd i Faes-yr-onnen, Brycheiniog, ym 1745; ond dychwelodd i Lanbrynmair ym 1748 yn llawn brwdfrydedd newydd. Ym 1759, symudodd i Tirdoncyn, Llangyfelach, Morgannwg lle y parhaodd i bregethu gydag afiaith. O dan ei arweiniad datblygodd cynulleidfa Tirdoncyn i fod yn eglwys Mynydd-bach a bu L. Rees yn weithgar yn yr ardal gydag achosion yn Nhreforys, Sgeti, Pentre-chwyth, Wig-uchaf ac Abertawe ac yr oedd bendith Duw ar ei ymdrechion.

Ysgrifennwyd marwnad i L Rees gan W. Dafydd. Gellir gweld copi yma.
Dan Wau Sanau
Mae hanes enwog amdano yn pregethu yng nghartref Meiric Dafydd, Weirglawdd-y-Gilfach, plwyf Llanuwchllyn. Gwahoddodd Meiric ei gymdogion draw i wrando ar “rhyw ŵr dieithr” yn darllen. Daeth nifer i’r cyfarfod a phawb ohonynt wedi dod a gwlân a gweill i wau sanau. (Roedd y diwydiant hwn yn bwysig yn sir Feirionnydd ar y pryd.) Tra roedd L. Rees wrth y tân yn rhannu neges yr Efengyl yr oedd pawb yn brysur gyda’u gweill a neb yn rhoi sylw iddo. Tybiai LR y byddai ei genadwri yn eu tewi ond parhau yr oedd y gwau. Tud. 15. (1837 neu 1838).
Erledigaeth
Yn aml roedd yn cael ei ryddhau gan y gynulleidfa i fynd ar deithiau pregethu fel efengylydd ac ar y teithiau hyn byddai’n wynebu erledigaeth.
“Pan oed Mr. Rees yn dechrau myned i bregethu i Llanuwchllyn, yr oedd llawer o ysbryd erlid yng nghymmydogaethau Dinas Mawddwy, a Llan y-Mawddwy; a mynydd y bu megis â’r fywyd yn ei law yn myned trwy y manau hynny….. Yn aml byddai yn gorfod myned ar hyd y nos, nos Sadwrn, o Lanbrynmair i Llanuwchllyn, am ei fod yn ofni myned liw dydd. Yr oedd gan Meiric Dafydd, frawd, a elwid Morgan Dafydd, yn wr o fwy o nerth corphorol nâ chyffredin, ac yn ymladdwr mawr. Er nad oedd dim arwyddion o sobrwydd yn Morgan, etto yr oedd ganddo feddyliau parchus iawn am Mr. Rees; a phan byddai yn dychweld adref ar ddydd, Llun, Morgan, a phastwn onen fawr yn ei law, a’i hebryngai trwy Fawddwy, i’w amddyffyn a’i gadw rhag yr erlidwyr. Os gwelai neb o honynt yn dechreu ymderfysgu, ysgwydai ei ddwrn arnynt, a dywedai, ar ol hebrwng y gwr da allan o’u cyrhaedd, y doi yn ol i siarad â hwy.” (tud 16 – 17)
Wynebai erledigaeth gan bobl gyffredin, gan offeiriad yn yr Eglwys Sefydledig a bu rhaid iddo fynd ger bron Ustusiaid Heddwch ym Mhen Llŷn. (Tud. 17 – 18) Dywedir mai L. Rees oedd y cyntaf, ar wahân i ficeriaid, i bregethu yn Sir Fôn ac yno hefyd fe wynebodd wrthwynebiad. Fe ychwanega John Roberts,
“Wrth alw i gof y pethau hyn, pa mor ddiolchgar y gweddai i ni fod am y rhyddid dymunol yr ydym wedi ei fwynhau er ys hir flynyddau. Nid yn unig mae y cyfreithiau o’n tu, ond mae ysbryd rhagfarn wedi ei ddarostwng i’r fath raddau dymunol, fel na raid i broffeswr, neu bregethwr, o un enw, ofni i fyned trwy un dref neu ardal yn Nghymru – ac nid oes ond ychydig o drefi, na chai pregethwr lonyddwch ynddynt, i draethu ei gennadwri, mewn amser cyfaddas, hyd y nod, ar ganol y strydoedd. O na byddai ein ffrwythau yn gyfatebol i’n breintiau.” (Tud. 20)
Ni ddylem anghofio yr erlid a wynebodd y genhedlaeth hon o Gristnogion yng Nghymru gan eu cydwladwyr wrth gyhoeddi’r Efengyl. Trwy eu haberth hwy y mae gennym ni heddiw ryddid crefyddol.
Claddwyd ef ym mynwent y Mynydd-bach, wrth dalcen gorllewinol y capel, yn yr un bedd a gweddillion ei wraig a’i fab Ebenezer. Y llinellau canlynol sydd ar ei garreg fedd.
‘Rwyf fi’ch hen fugail wedi’ch gadael,
A myn’d o’ch blaen i’r gorlan dawel;
Ysbryd addfwyn tirion Iesu,
Byth f’o yma yn teyrnasu.”

Pwt i gloi
Un cyfeiriad bach wrth gloi. Enw un o feibion L Rees oedd Abraham a aeth yn weinidog gyda’r Eglwys Bresbyteraidd yn Southwark, Llundain ym 1768 ac fe gymerodd ofal eglwys Old Jewry a ddaeth maes o law yn eglwys Jewin. Roedd hefyd yn wyddonydd ac yn fathemategydd. Daeth ef yn enwog fel golygydd y Chambers’s Encyclopaedia; a The New Cyclopaedia, a ymddangosodd mewn 45 o gyfrolau, cwarto, rhwng 1802 ac 1820. Claddwyd ef ym mynwent enwog Bunhill Fields ym 1825. Gellir darllen mwy am y gŵr hynod hwn, yma.
O.N. Yn y llyfryn hwn (Tud. 25) cyfeirir at lyfryn arall yn dwyn y teitl “Y Cyfammod Eglwysig”, 1700, gan L Davies. Os oes un ohonoch wedi dod ar draws copi ohono, a fyddwch chi mor garedig a rhoi gwybod i mi ogydda trwy sabothyddiaeth@gmail.com
