Os ydych am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu yma gellir gwneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com. Hefyd gellir gadael sylwadau cyhoeddus ar ddiwedd pob erthygl.
Gellir hefyd cael hysbys awtomatig o bob diweddariad ar Sabothal.blog trwy wasgu’r botwm cofrestru ar yr hafan a rhoi eich e-bost.

Llun gan reza shayestehpour ar Unsplash
Bu’r nawfed wythnos o’r cyfnod Sabothol hefyd yn un anodd yn dilyn marwolaeth fy mam-yng-nghyfraith. Yn naturiol mae cyfnod o alaru a hefyd bu’n rhaid trefnu’r angladd. Un o’n gwendidau fel cymdeithas ar hyn o bryd yw bod cymaint o fwlch rhwng marwolaeth perthynas a’r gwasanaeth angladdol ei hun. Mae’n gyfnod anodd i’r teulu. Yma yng Nghaerdydd mae’r bwlch hwn – os am amlosgi – erbyn hyn rhwng 3 a 4 wythnos. Annerbyniol. Pan roeddwn yn dechrau ar fy ngweinidogaeth yn Wrecsam ym 1986 roedd yn 4 diwrnod.
Diolch i bawb ohonoch sy wedi ymweld â Sabothal.blog. Mae’n fy rhyfeddu i fod cymaint wedi taro heibio. Yr erthygl fwyaf poblogaidd o bell ffordd yr wythnos diwethaf oedd, “Wylo, neidio a gorfoleddu. Y mwynhad crefyddol 1.” Bydd yr ail ran yn ymddangos yr wythnos hon.
Ni oedd modd i mi drefnu unrhyw gyfarfyddiadau yn ystod yr wythnos ond cefais beth amser i ddarllen, ysgrifennu a meddwl. (Cofiaf i gyfaill i mi, oedd yn gweithio mewn Prifysgol, ddweud bod y coleg wedi cael cwmni ergonomeg i mewn i asesu effeithiolrwydd yn y gweithle. Roedd rhai o’r darlithwyr wedi rhoi ar yr holiadur, gan y cwmni, eu bod yn treulio hyn a hyn o amser pob wythnos yn meddwl a myfyrio. Yn yr adroddiad gyda chanlyniadau’r asesiad yr oedd y cwmni wedi nodi bod llawer o’r darlithwyr yn gwastraffu gormod o amser gwaith yn meddwl a myfyrio ac y dylent wneud rhywbeth o sylwedd!)
Rwyf wedi trefnu cyfarfod â rhai pobl ddiddorol yn ystod y ddegfed wythnos ac edrychaf ymlaen at sgwrsio gyda hwy a rhannu peth o’r drafodaeth gyda chi.
Darllen
Wedi darllen Cofiant y Parch. Lewis Rees (Abertawy, 1852), J. Roberts gydag ychwanegiadau gan John Davies, Mynyddbach. Bydd adolygiad byr yn ymddangos yma ar Sabothal.blog yr wythnos hon.
Wedi dechrau darllen
The Power of Christian Contentment, (Crossway, 2010), Andrew M. Davis.
Wedi dechrau defnyddio Exploring What Jesus Says About Discipleship, (Streetlamp Publishers, 2019), Gwynedd Jones, yn fy nyletswydd ddyddiol. Mae 30 sesiwn ar fod yn ddisgybl i Iesu.
Wedi dechrau darllen traethawd Doethuriaeth y Parch. Dr. Emyr Gwyn Evans, sef,
“Datblygiad yr eglwysi Annibynnol yn ne-orllewin Cymru, c.1790-1837, gyda sylw arbennig i gyfraniad David Davies, Abertawe (1763-1816), Morgan Jones, Tre-lech (1768-1835) a David Peter, Caerfyrddin (1765-1837).”
Mae’n argoeli’n dda ac mae ôl gwaith ymchwil manwl ynddo i gyfnod cyffrous yn hanes Cristnogaeth yn ein gwlad. Rwy’n siŵr y caf gyfle i rannu ychydig o’i gynnwys mewn rhyw bythefnos. Os oes gennych ddiddordeb gellir lawrlwytho copi ohono yma.
Wedi Archebu.
Stepping Into the Impossible: The story of healing on the streets, Mark Marx.

The Least, The Last and The Lost: Understanding Poverty in the UK and the Responsibility of the Local Church, Mez McConnell

Fideos a Blogs – Chwalu’r us a chadw’r gwenith
Oes gen ti fideos neu blog yr hoffet argymell i mi eu gwylio? Anfon unrhyw awgrymiadau trwy sabathyddiaeth@gmail.com.
- Os oes wyt ti am ymchwilio i mewn i gychwyn cynulleidfaoedd newydd mae’r podlediad hwn yn ddigon difyr? Er ei fod yn gwbl Americanaidd mae trafodaethau deallus a gwerthfawr arno.
https://podcasts.apple.com/gb/podcast/church-planter-podcast/id662422951
2. Yma mae rhestr ddoeth i arweinyddion eglwysi. Darllenaf a dysgaf.
4. Mae’r blog BEMA gan Marty Solomon yn un digon diddorol gan ei fod yn mynd ar ôl y cefndir Iddewig sydd i’r Beibl ac i’r ffydd Gristnogol. Tueddwn i ddadansoddi’r Beibl o gyfeiriad ein diwylliant Ewropeaidd gorllewinol ni a thrwy hynny fe gollwn lawer iawn o wirioneddau sydd yn y Gair. Roedd yn agoriad llygaid gwirioneddol i mi i wrando ar y sesiynau oedd yn edrych ar Lyfr y Datguddiad.
https://www.bemadiscipleship.com/articles
https://podcasts.apple.com/gb/podcast/the-bema-podcast/id1148115183
