Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Neb Arall

Pan oeddwn yn fyfyriwr yng Ngholeg Bala Bangor, cofiaf fynd i bregethu i eglwys nid anenwog yng Ngwalia Wen (Cymru) ar daith gasglu. Pan oedd myfyriwr yn mynd ar “daith gasglu” roedd yr eglwys lle’r oedd yn pregethu yn gwneud casgliad arbennig tuag at waith y Coleg, ar ôl y bregeth! Teimlai rhywun gyfrifoldeb mawr i wneud argraff dda. Yn yr oedfa hon, yn ystod y bregeth roeddwn wedi gwneud y gosodiad fod Iesu’n gyfan gwbl unigryw ac nad oedd Gwaredwr arall gan Dduw ar ein cyfer fel dynoliaeth, gan atseinio geiriau Pedr ar ddydd y Pentecost.

“Fe ydyʼr unig un syʼn achub! Does neb arall yn unman syʼn gallu achub pobl.”(beibl.net) – Actau 4:12 (“Ac nid oes iachawdwriaeth yn neb arall, oblegid nid oes enw arall dan y nef, wedi ei roi i’r ddynolryw, y mae’n rhaid i ni gael ein hachub drwyddo.” BCN)

Wel os dywedais i! Wedi’r oedfa, y tu allan i’r capel, daeth gwraig nid ansylweddol o ran huotledd (eloquence) ataf wedi ei chynddeiriogi gan y gosodiad hwn a wneuthum. “Pwy oeddwn i,” meddai, gan ddal ei hymbarél fel cleddyf, “pwy oeddwn i ond rhyw gyw pregethwr dwy a dima’ cwbl ddibrofiad, i ddweud y fath beth? Onid oedd arweinyddion crefyddol eraill wedi bod yn y byd allai sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda’r Iesu? Pobl fel Bwda, Mohamed a Ghandi? Beth oedd y gwahaniaeth rhyngddynt hwy ac Iesu? Onid oeddent oll yn meddu ar wirioneddau oedd yn tywys pobl at adnabyddiaeth o’r dwyfol?”

Llun gan Craig Whitehead ar Unsplash

Tynnais fy ngwynt ataf ac am ennyd sefais yno’n gwbl stond yn rhyw deimlo efallai fy mod mewn drama gan Harri Parri. Ceisiais ymateb iddi, er bod fy nhafod bellach yn gwlwm. O’r diwedd trawodd ateb i’w chwestiwn fi fel morthwyl lwmp (sledge hammer) ar fy arlais (temple), “Mae Iesu Grist yn fyw,” meddwn. A chydag ochenaid o ddirmyg trodd y wraig ar ei sawdl yn ddramatig a diflannu i wyll y cyfnos (twilight).

Go brin iddi gyfrannu’n hael tuag at y coleg cyn mynd!

Un Iesu Croeshoeliedig……

Y mae’r Beibl a’r Iesu ei hun yn ein dysgu ei fod Ef yn gyfan gwbl unigryw yn hanes y greadigaeth faith. Nid un Gwaredwr i ddynoliaeth ydyw ymhlith llawer o rai eraill, nid un ffordd mewn nifer o ffyrdd ydyw, ond yr unig Waredwr sy’n ein cymodi gyda Duw gan ddod ag achubiaeth. Nid oes neb sy’n gallu dal cannwyll i’r Iesu oherwydd mai Ef yw unig Fab Duw. Y Duw ddyn perffaith a ddaeth i’n plith er mwyn mynegi a gweithredu cariad Duw tuag atom gan ddod ac iachawdwriaeth (salvation) i bawb sy’n credu ynddo ynghyd â theyrnas Dduw.

Pan wadwn mai Iesu yw yr unig un, yr ydym yn gwneud Duw a chynnwys y Beibl yn gelwyddog. Hefyd rydym yn diraddio’r Iesu ac yn colli golwg ar y rhyfeddodau y mae Duw yn ei wneud trwyddo yn ei ras. Teflir amheuaeth ar yr hyn a gyflawnodd ar y ddaear, ei wyrthiau a’i ddysgeidiaeth, ystyr ei farwolaeth aberthol ar y groes ac arwyddocâd ei atgyfodiad.

Mewn oes eclectig a chymysglyd fel hon fe roddir pwysau arnom i gyfaddawdu gan ddweud fod gan pawb ei wirionedd. Ond ni allwn gyfaddawdu gyda’r gwirioneddau am Iesu.