Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Ar y Dydd Hwn Tachwedd

2 Bu farw James Hughes, ‘Iago Trichrug’, (1779-1844), roedd yn wreiddiol o ardal Aberaeron, gweinidog cyntaf Eglwys Jewin Llundain (MC), esboniwr Beiblaidd ac emynydd. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Bunhill Fields, Llundain.

Cofeb James Hughes ym mynwent Bunhill, Llundain

3 Gŵyl marw Santes Gwenffrewi, c. 6ed ganrif.

3 Glaniodd John Eliot (1604–1690), Apostol i frodorion America, gweinidog a chenhadwr, yn Boston, Unol Daleithiau ym 1631.

4 Bu farw Esther Lewis 1887–1958, cenhades, yn ysbyty Caerfyrddin a chladdwyd ei gweddillion ym mynwent Cymer.

5 Ordeiniwyd T. Glyn Thomas, (1905–73) gweinidog a phregethwr poblogaidd gan eglwys Gymraeg Barret’s Grove, Stoke Newington,  gogledd Llundain, ym 1936.

5 1813, bu farw Thomas Jones o Gaer, (1737–1813), Cristion a chymwynaswr claddwyd ym mynwent capel Queen Street, Caer.

6 Bu farw George Williams (1821–1905), sylfaenydd yr YMCA (Young Men’s Christian Association).

8 Ganed a bu farw William Rees, ‘Gwilym Hiraethog’, (1802–83) ar y dyddiad hwn.  Gweinidog (A), llenor, golygydd ac arweinydd cymdeithasol. Claddwyd ei weddillion ym mynwent  Smithdown Road, Lerpwl.

Williams Rees, “Gwilym Hiraethog.

8 Bu farw John Duns Scotus (c.1265–1308) Mynach Ffransisgaidd, meddyliwr a diwinydd Catholig.

10 John Roberts, ‘J.R. Conwy’, (1804–84), gweinidog (A), golygydd ac awdur.

10 Ganwyd Granville Sharp (1735–1813), awdur ac ymgyrchydd i ddiddymu caethwasiaeth

12 Ganwyd Sarah (Sally) Charles, (1753–1814) Cristion a gwraig fusnes.

12 Ganed William Thomas Davies, ‘Pennar’, (1911-96), prifathro, ysgolhaig, bardd a chyfrinydd yn Aberpennar.

12 Ganwyd Edward Chad Varah 1911–2007, offeiriad a sefydlydd y Samariaid yn Barton-upon-Humber, Swydd Lincoln. Bu farw mewn ysbyty yn Basingstoke ar 8 Tachwedd.

14 Ganwyd David Rees, ‘Y Cynhyrfwr’, yn Gelli-lwyd, plwyf Tre-lech, Caerfyrddin (1801-69), gweinidog (A) a golygydd.

14 Ganwyd John Curwen (1816–1880), addysgwr cerddorol a hyrwyddwr Sol-ffa, yn Heckmondwike, Swydd Efrog.

15 Ganwyd y bardd a’r emynydd William Cowper, (1731–1800.)  Bardd, emynydd a llythyrwr

22 Ganwyd Thomas Cook (1808–1892) sefydlydd cwmni teithio, yn Melbourne, Swydd Derby. Cefnogwr brwd i’r mudiad dirwestol.

Thomas Cook

23 Bu farw Thomas William, Bethesda’r Fro, (1761–1844), gweinidog (A) ac emynydd. Rhoddwyd ei gorff i orffwys wrth fur capel Bethesda’r Fro, Bro Morgannwg.

24 Bu farw John Knox c.1514–1572, diwygiwr Cristnogol.

25 Hwyliodd Thomas Jones, (1810–49) ar long y Jamaica i Calcutta ym 1840. Ef oedd cenhadwr cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd yn India.

25 Bu farw’r emynydd Isaac Watts (1674–1748) a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Bunhill Fields, Llundain.



Gadael sylw