Os ydych am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu neu yma gellir gwneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com
Gellir hefyd cael hysbys o bob diweddariad ar Sabothal.blog trwy wasgu’r botwm cofrestru ar y dudalen hafan.
Yr wythnos hon eto wedi bod yn un anodd oherwydd gwaeledd difrifol a marwolaeth fy mam yng nghyfraith ddydd Iau yn Ysbyty Dewi Sant, Caerdydd, yn 94 oed.
Heb ymhelaethu bu’n gyfnod o ofal mawr drosti yn ei gwendid. Diolch i Dduw amdani ac am obaith tragwyddol atgyfodiad Iesu Grist i’r sawl sy’n credu ynddo.
Llyfrau ac erthyglau
Wedi gorffen darllen,
Church Planter, The Man, The Message, The Mission, Darrin Patrick.
Bydd adolygiad gennyf o hwn yn ystod yr wythnos nesaf.
Wedi dechrau myfyrio ar Lythyr Paul at y Philipiaid gyda chymorth esboniad R. Kent Hughes, The Fellowship of The Gospel.
Prynais y llyfrau hyn i’w darllen:
The Power of Christian Contentment, (Crossway, 2010), Andrew M. Davis.
Exploring What Jesus Says About Discipleship, (Streetlamp Publishers, 2019), Gwynedd Jones. Edrych ymlaen at ddefnyddio hwn ar gyfer fy nyletswydd ddyddiol yn ystod y 30 niwrnod nesaf. Diolch Gwynedd.
Dau lyfryn byr. Diolch i Dafydd Timothy, Siop y Morfa, Y Rhyl, am ganfod a phostio’r rhain ataf. Os ydych yn chwilio am lyfrau Cymraeg cysylltwch gydag er trwy dafydd@siopymorfa.cymru <mailto:dafydd@siopymorfa.cymru>.
Ychydig o Hanes y diweddar Barchedig Lewis Rees, (Caerfyrddin, 1812),John Roberts.
Cofiant y Parch. Lewis Rees (Abertawy, 1952), J. Roberts gydag ychwanegiadau gan John Davies, Mynyddbach.
Roath, Splott and Adamsdown: One Thousand Years of History, (The History Press, 2012), Jeff Childs.
Fideos a blogiau – Chwalu’r us a chadw’r gwenith
Diddorol gwrando rhagor am fendith y 70au ymhlith myfyrwyr ar sianel Youtube Eglwys Bresbyteraidd Cymru.
Dyma beth o’r hanes gan y Parch. Catrin Roberts.
Dyma ragor gan y Parch. Dr. Denzil Morgan
Dyma ragor o’r hanes gan Arfon Jones
Y cwmni bach. Sgwrs rhwng y Parch. Dewi Myrddin ac Elinor Wyn Reynolds.
Beth am dipyn o gospel go iawn gyda’r Bishop Clarence. Molwch yr Arglwydd.
Ychydig sylwadau ar ddyletswydd bersonol (Amser tawel)

Gadael sylw