Mwynheais ddarllen y llyfr hwn. Mae’n llyfr cyffrous sy’n llifo’n rhwydd gan olrhain peth o hanes Alan Scott a’i eglwys Causeway Coast Vineyard Church a’r ffordd y newidiodd Duw eu gweledigaeth a’u dulliau o fod yn dystion effeithiol i’r newyddion da.

(Dyma’r broliant ar glawr cefn y llyfr: Sefydlodd Alan Scott eglwys Causeway Coast Vineyard Church yn Iwerddon yn 1999 gan wasanaethu yno fel y prif fugail am yn agos i 20 mlynedd. Mae’n arweinydd sy’n llawn gweledigaeth ac yn gyfathrebwr rhagorol. Y mae yn treulio llawer o’i amser yn siarad mewn cynadleddau ar hyd a lled y Deyrnas Gyfunol a’r Unol Daleithiau ar bynciau fel efengylu a dod a bywyd i’r ddinas. Y mae ef a’i wraig Kathryn bellach yn fugeiliaid ar eglwys Vineyard yn Anheim , CA.)
Mae’r llyfr hwn yn rhoi gweledigaeth newydd i fywyd a gweithgarwch eglwysi yn y ddinas neu yn ardal lle mae Duw yn eu galw i dystio ynddi. I mi sy’n gweinidogaethu yn y Gymry Gymraeg ers 37 o flynyddoedd mae yma syniadau fyddai’n chwyldroadol i’n cynulleidfaoedd o’u mabwysiadu. A dwi’n gwybod hyn cystal â neb, ein bod angen ysgytwad ysbrydol enfawr gan Dduw i newid ein sefyllfa. Felly, rhaid bod yn agored i arweiniad yr Ysbryd Glân heddiw er mwyn symud ymlaen yn hyderus i’r dyfodol. Fe ddywed bethau ysgubol, fel y dyfyniad canlynol,
“It’s more important to empower people to bring life to culture than to enslist people who support church structures. It’s more important to call out the dreamer-over-the-city than recruit people to serve our ministry. When our dreams center upon the church, we confine the dreamers in the church. Instead of catalyzing kingdom dreamers, we neutralize them. Our problem isn’t that people are falling asleep at church, but that people have fallen asleep as church. And who can blame them? We ar mind-numbingly bored of religionus services that have little impact on cities. We were made to be dreamers and visionaires.” (Tud.230)
Bobol bach! Dweud mawr. Cnocia fi drosodd gydag adain gwybedyn! : )
Sut wyt ti yn ymateb i’r geiriau uchod? Beth sy’n dod i dy feddwl? Beth mae hyn yn ei ddweud am dy eglwys di a’i gweledigaeth?
Hoffwn osod fy sylwadau am y llyfr hwn mewn dwy ran sef, 1. Y prif bethau wnaeth argraff arnaf. 2. Yr heriau gododd wrth ddarllen.

Alan Scott
Y Prif bethau wnaeth argraff arnaf
Prif bwyslais y gyfrol, fel yr awgryma’r teitl, yw bod Duw yn gwasgaru Cristnogion yn eu cymuned i fod yn dystion i Iesu yn eu bywydau o ddydd i ddydd. Nid bwriad yr Arglwydd yw bod ei bobl yn eistedd yn eu capeli yn cynnal cyfarfodydd ac yn gwahodd pobl iddynt er mwyn cynyddu’r nifer o bobl sy’n mynychu. Bwriad Duw yw ein bod allan yn gweddnewid ein cymunedau a thrwy hynny bod pobl yn dod i ffydd yn Iesu.
“It is entirely His prerogative how He chooses to lead people to Himself. The task of scattered servants is not to question how God moves but to move with Him as He moves. The way we think God should move must not interfere with the way He is actually moving. Our role is to pursue Him in what He is already doing, not convince Him of the merits of what we have been doing.” (Tudalen 30)
Mae pwyslais felly ar ddilyn Duw ac nid ceisio arwain Duw i ddilyn ein dymuniad a’n cynlluniau ni. A ydym ni fel eglwysi wedi bod yn euog am gyfnod hir o geisio gwasgu bwriadau Duw hollalluog i bot chwart ein heglwysyddiaeth neu ein gweledigaeth gul? Sylweddolodd eglwys Causeway fod Duw yn ei galw allan o’i hadeilad i fod ymhlith y bobl yn y gymdeithas leol. (Cafodd un o’r arweinyddion weledigaeth glir. (Tudalen 35 a 36)) Mae teyrnas Dduw yn cynyddu pan rydym ni ymhlith pobl heb ffydd yn ein cymuned. Fel burum yn y toes.
“We have spent so long praying for revival in the church that we have missed what God is doing in the world. We wait for God to fill us, oblivious to His invitation to show up among the people. In essence, God is saying. “If you give what I have already given you to the lost, the lowest, and the least, I will give you more. If you take what is in your hands and share, I will ensure you never go empty.” (Tud. 42, 59)
Mae cymaint o sylwedd yn y gyfrol hon i gnoi cil arno fel ei bod yn berygl i’r adolygiad fynd yn hirach na’r llyfr. Felly dyma roi pwyntiau bwled:
- Mae arweinyddion yn aml eisiau newid sefyllfa eu heglwysi ond ddim yn gwybod sut i fynd ati. Heb os rhaid troi’r drol weithiau er mwyn symud ymlaen. (Tud.72.) Rhaid caru’n ardal/ tref/ ddinas yr ydym yn byw ynddi gan fynd allan i’w gwasanaethu. “Believers dont do evangelizm, they bring life.” (Tud. 58, 73)
- Rhaid buddsoddi mewn pobl gan ryddhau unigolion i ddilyn y weledigaeth mae Duw yn ei roi iddynt. E.e., Cychwyn prosiectau sy’n deillio o ddoniau a diddordeb aelodau ac ni ceisio creu gweithgarwch ac yna chwilio am rhywun rhywun i’w arwain. Symud o’r egwyddor o blanu eglwysi i blanu pobl.
- Sylweddoli bod Duw’n gweithio mewn ffordd arbennig trwy’r tlodion a’r difreintiedig. (tud.177)
- Daw’r Ysbryd Glân i adnewyddu dinasoedd nid i adnewyddu’r Eglwys. (tud.118, 244)
- Mae teyrnas Dduw yn newid sefydliadau a dinasoedd. (tud. 213)
- Rhaid cofleidio diwylliant nid ei osgoi. (252)
- Os yw prosiect newydd yn methu yn ei fwriad o fewn amser penodol, dylid ei ddirwyn i ben gan gydnabod nad hyn oedd bwriad Duw ar hyn o bryd.
2. Pethau heriol
Mae’r gyfrol hon yn benodol yn trafod y ffordd y mae Duw wedi gweithio yn eu plith yn Causeway a’r fendith y maent yn ei brofi. Rhoddi’r pwyslais trwm ar fynd allan i’r gymuned. O ganlyniad, gwendid yn y llyfr yw nad oes fawr o sôn am bwysigrwydd y gynulleidfa leol, i wneud disgyblion gan gadarnhau ffydd pobl ddaw i gredu. (Ond nid dyna y bwriad wrth ysgrifennu’r llyfr)
Dywed A. Scott eu bod wedi cael eu harwain gan Dduw i ddefnyddio dwy ddawn ysbrydol, yn arbennig, wrth fynd allan i gyfarfod â phobl newydd ar y strydoedd. (Gw. Rhufeiniad 12: 3-8)
Y cyntaf yw iachau a’r ail yw gair o wybodaeth trwy’r Ysbryd. Rhoddir llawer o enghreifftiau o bobl yn cael eu hiachau o salwch, anableddau a chyflyrau wrth i Gristnogion weddïo drostynt ar y stryd. (tud. 42 – 44; 1 Cor 12: 28) Canlyniad hyn yw bod nifer yn dod i ffydd yn Iesu.
Yr ail ddawn oedd bod Cristion yn cael gair o wybodaeth gan yr Ysbryd yn datguddio rhywbeth am gyflwr y person yr oeddent yn ei gyfarfod. E.e., dyledion ariannol, profedigaeth, tor-priodas. (Cyfeirir at Iesu yn cael gair o wybodaeth fod gan y wraig wrth ffynnon Jacob bum gŵr cyn iddi gyfarfod ei phartner presennol.) (Tudalen 65 – 66) Y mae hyn yn agor y drws i fywydau pobl ac yn galluogi Cristnogion i gynnig cymorth iddynt.
Y mae heriau yma i mi oherwydd fy nghefndir Cristnogol ac nad wyf wedi gweld yr Ysbryd Glân yn gweithio’n uniongyrchol fel hyn. O ganlyniad mae pedair ffordd yr wyf yn ymateb i hyn; 1. Efallai nad ydwyf wedi profi dylanwad yr Ysbryd Glân cymaint ac eraill, ac felly bod fy mywyd ysbrydol yn ddiffygiol. 2. Y mae Duw yn dewis rhoddi’r doniau hyn i Gristnogion mewn sefyllfaoedd penodedig ond nid i bob Cristion. 3. Nid wyf yn amau bod Duw yn ôl ei hollalluogrwydd yn parhau i gyflawni gwyrthiau yn ôl ei ewyllys sofran ei hun. 4. Mae gennyf ffrindiau Cristnogol sydd wedi cael eu hiachau yn wyrthiol.
Ni ddylem chwaith ystyried y doniau hyn fel pethau cwbl ddieithr inni oherwydd rydym yn gyson yn gweddïo am iachâd i gleifion a hefyd yn gofyn am arweiniad Duw wrth wynebu pobl a sefyllfaoedd. (Nid wyf am grybwyll yma’r drafodaeth a’r safbwynt ddiwinyddol sy’n credu bod doniau’r Ysbryd wedi darfod pan fu farw’r apostolion cyntaf ac nad ydynt bellach ar gael i Gristnogion.) Y gwahaniaeth amlwg yw bod A. Scott a’i gyfeillion yn camu allan mewn ffydd o gyfforddusrwydd eu cymuned Gristnogol gan geisio iachâd ac arweiniad yn y fan a’r lle. Rydym ni yn betrus iawn o wneud pethau fel hyn. Credaf ei bod yn amser inni fentro llawer mwy mewn ffydd fel eglwysi Cymraeg. Nid bygythiadau yw datblygiadau newydd – sy’n cydsynio a’r hyn ddywed y Beibl – ond cyfle i anturio i’r dyfodol gyda’r Arglwydd. Ein natur ni yw cynnal pwyllgor cyn gweithredu a bod yn swil i’r ffaith y gall Duw ein defnyddio ni i wneud gwahaniaeth ym mywydau unigolion a chymunedau. Mae cymaint o angen Iesu Grist ar Gymru. Mae cymaint o angen credu’r newyddion da ar Gymry heddiw ac mae Duw yn galw arnom i fentro.
Cyfrol gwerth ei darllen a digon o ddeunydd trafod.

Gadael sylw