Os wyt ti am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu yma gellir gwneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com
Yr wythnos hon eto wedi bod yn un anodd oherwydd gwaeledd difrifol fy mam yng nghyfraith. Rydym yn ymweld â hi yn ddyddiol yn yr ysbyty fwy nac unwaith.
Ar ddydd Sul 15fed Hydref fe es i addoli mewn awyrgylch ychydig yn wahanol yng nghapel eglwys Potters House, Stacey Road, Sblot, Caerdydd. Testun rhyfeddod i mi yw bod eglwysi yn gallu bodoli o fewn milltir a hanner i’m cartref a finnau yn gwybod dim amdani. Mewn dinas rydym yn byw mewn cylchoedd o fodolaeth, ac yn hanes llawer ohonom, nid yw’r cylchoedd hynny byth yn gorgyffwrdd â’i gilydd.

Cychwynnwyd “The Potter’s House Christian Centre” o dan yr enw Christian Fellowship Ministries (CFM) ym 1970 gan Pastor Wayman Mitchell, yn Prescott, Arizona. (Yn wreiddiol roeddent yn gysylltiedig â’r Foursquare Church – hyd 1985. Daeth y berthynas honno i ben oherwydd bod rhai yn gweld nodweddion cwltaidd i eglwysi Potters House a’u bod yn gaethiwus iawn yn eu rheolaeth dros fywyd eu haelodau.) Ar y pryd roedd y “Jesus Movement” yn ei anterth yn America a llawer o bobl ifanc yn dod i ffydd yn Iesu. Gwrthododd yr eglwysi traddodiadol ymwneud â phobl ifanc walltog hipïaidd yn eu lifrau denim ond croesawodd Wayman Mitchell hwy yn gynnes. Roedd gan W. Mitchell weledigaeth o fynd â’r efengyl i’r holl fyd ac o fewn ychydig flynyddoedd anfonwyd cyplau ifanc allan i ddinasoedd gerllaw i gychwyn eglwysi newydd. Ym 1978 aeth rhai aelodau i Perth, (Awstralia mi dybiaf) i blannu cynulleidfaoedd newydd ac ers hynny y mae 200 o eglwysi newydd ar hyd a lled y byd yn cynnwys 2 yng Nghymru. Un yma yng Nghaerdydd ac un yn Abertawe.
Roedd y mwyafrif o’r gynulleidfa o dras Affricanaidd – pawb mewn gwirionedd, ond fi – ac fe gefais groeso yn eu plith. Yn syth wedi i mi gyrraedd daeth gŵr o’r enw Diego draw i’m croesawu ac ysgwyd llaw. Cynhaliwyd yr oedfa trwy gyfrwng y Saesneg ac roedd iddi naws Bentecostalaidd. Daeth rhyw 50 o oedolion i’r addoliad a rhyw 10 o blant. Nid oedd cymaint o dechnoleg ganddynt ac mewn eglwysi eraill ond cyn yr oedfa fe chwaraewyd caneuon Cristnogol ar yr uchelseinydd. Pan gychwynnodd yr addoliad fe’n croesawyd gan Pastor Paul. (Nid bod unrhyw bwys yn hyn ond roedd wedi gwisgo yn gymen gyda crysbas (siaced) a thei ac nid oedd het pêl fâs, fflip-fflop na chroc ar gyfyl y lle!)

Pastor Paul
Cafwyd rhyw 30 munud o ganu mawl bywiog. Roedd digon o haleliwia, porthi a breichiau wedi eu dyrchafu. Ar y blaen roedd dyn ifanc yn ein hannog i foliannau’r Arglwydd gyda brawddegau fel “Let’s worship Church. “ Come on Church, praise the Lord.” Yn y band roedd allweddell, set o ddrymiau a merch yn canu llais cefndir. Cafwyd unawd rhagorol ganddi yn ystod yr oedfa gan ei bod yn meddu ar lais godidog. I ddweud y gwir fe ddylai hi fod wedi arwain yr addoliad. Nid oeddwn yn gyfarwydd ag unrhyw un o’r caneuon mawl. Er hynny, roeddent yn ddigon rhwydd i’w dysgu.
Wedi’r canu cafwyd cyhoeddiadau bywiog ond hirfaith gan Pastor Paul ac yna fe’n harweiniodd mewn gweddi. Y dull o wneud hynny oedd bod Pastor Paul yn tynnu ein sylw at destunau gweddi ac yna roedd pawb yn y gynulleidfa yn gweddïo ar lafar blith drafflith nes y cyhoeddwyd yr Amen. Wedi hynny roedd cyfnod o rannu tangnefedd gyda’r holl gynulleidfa yn cerdded o amgylch yn cyfarch ei gilydd yn serchus.

Pastor John Amponsah
Cafwyd pregeth 50 munud gan y pregethwr gwadd sef Pastor John Amponsah o Kenya yn dwyn y teitl “Un y cant” yn seiliedig ar Philipiaid 2: 12 – 13. (Do fe ddaliodd y pregethwr y meic yn ei law yr holl amser. Rhyfedd nad ydy nhw’n cael cwlwm chwithig (cramp). Mae hyn yn fy nhiclo i am ryw reswm!) Gyda llaw roedd y gynulleidfa yn curo dwylo ym frwdfrydig wrth i’r pregethwr gerdded o’i sedd i’r pwlpud fel arwydd o groeso. Arfer da! Roedd y neges yn llawn straeon cyfoes perthnasol a’r pwyslais ar wneud ychydig mwy er mwyn gwella eich hun yn ysbrydol ac yn faterol. Darllen y Beibl a gweddïo ychydig yn fwy, astudio ychydig mwy er mwyn addysgu eich hun. Yn yr un modd mae gwneud 1% yn fwy o bethau drwg yn gallu eich dinistrio. Cefnwch ar arferion drwg o bob math oherwydd y mae’r diafol am eich dal yn ei rwyd.
Gwaetha’r modd roedd yn rhaid i mi adael cyn y paned oedd ar y diwedd.
Mae mynd i’r holl oedfaon amrywiol hyn yn rhoi cyfle i mi brofi gwahanol arddulliau mawl gan ystyried ein dull o addoli fel eglwysi Cymraeg. Cof ysgrifennu rhagor am hyn yn yr wythnosau sy’n dod.
Llyfrau ac erthyglau
Gorffennais ddarllen “Scattered Servants,“ gan Alan Scott a byddaf yn sgwennu adolygiad yn fuan. Diolch Gwynedd.
Darllenais yr erthygl hon sy’n ymdrin â’r defnydd o’r iaith Saesneg wrth rannu’r Efengyl yn India ac Affrica a’r modd y gwneir i ieithoedd brodorol ymddangos yn israddol ac anwaraidd.
The Modern Mission: The language effects of Christianity gan Alastair Pennycook, Sydney a Sinfree Makoni, Pensylvania.
Llyfrau sy’n ymddangos yn ddiddorol i’w darllen –pe bai bywyd yn hirach!
Fanon, F. (1967). Black skin, white masks. New York: Grove.
Phillipson, R. (1992). Linguistic imperialism. Oxford, England: Oxford University Press
Snow, D. (2001). English teaching as Christian mission. Scottdale, PA: Herald Press
Stoll,D.(1982).Fishersofmenorfoundersofempire?TheWycliffebibletranslatorsinLatinAmerica. London: Zed Books.
Wedi dechrau darllen, Church Planter. The Man, The Message. The Mission. (Crossway, 2010), Darrin Patrick.
Blogiau a Fideos
Gwrandewch ar Elinor Wyn Reynolds yn cyfweld ag Arfon Jones.
Bu adnewyddiad ysbrydol ymhlith pobl ifanc yng Ngogledd Cymru yn ystod y 1970. Gwyliwch yr hanes yma
Pregeth gan Tim Keller yn esbonio peth o hanes Joseph
A oes cyfle arbennig i waith Duw lwyddo yn y cyfnod ar ôl y Pla Cofid?
Evangelism: The Cultural Context Post-COVID Is Ripe For Gospel Growth And Perhaps Revival
Podlediad. O fewn i’n diwylliant rydym yn dueddol o gymryd agweddau yn ganiataol fel rhai cwbl amlwg a rhesymol heb sylweddoli bod rhai agweddau yn gwbl wahanol mewn diwylliannau eraill. Dyma ran o’r drafodaeth sydd yma

Gadael sylw