Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Tragwyddoldeb yn ein calonnau – cyfleu tragwyddoldeb trwy’r materol

Gwnaeth bopeth yn hyfryd yn ei amser, a hefyd rhoddodd dragwyddoldeb yng nghalonnau pobl; eto ni all neb ddirnad yr hyn a wnaeth Duw o’r dechrau i’r diwedd.  – Y Pregethwr 3:11

Yn yr adnod hon yn Llyfr y Pregethwyr fe gyflwynir y gwirionedd fod pob person gyda thragwyddoldeb yn rhan o’u gwneuthuriad.  Mae pawb ohonom wedi ein creu gan Dduw ar gyfer bywyd tragwyddol gydag Ef, dyma oedd y cynllun dwyfol o’r dechrau. Wrth gwrs mae diwylliant secwlar gyfoes yn gwrthod hyn yn llwyr ac yn gyfan gwbl ac yn credu mai difodiant yw hanes pob person yn dilyn marwolaeth gan mai canlyniad prosesau cemegol ac esblygiadol ydym.

Ond y gwir yw bod yr ymdeimlad yma o dragwyddoldeb yn amlygu ei hun ym mywydau pobl sydd ddim yn malio’r un botwm corn am Dduw. Digwydd hyn oherwydd bod ymwybyddiaeth o’r tragwyddol wedi ei raglennu yn ein calonnau. Gwelir hyn yn gyson trwy gyfrwng, caneuon, llenyddiaeth a chelfyddyd. Golyga hyn fod gennym anghenion neu syched na all dim o fewn i fywyd materol ei ddiwallu, neb ond Duw. Wyt ti fel hyn? Byth yn teimlo’n wirioneddol gyflawn? Byth yn teimlo’n werthfawr? Byth yn teimlo’n ddedwydd? Mae rhywbeth mawr ar goll!

Mae llawer o bobl Cymru heddiw’n byw bywyd dyddiol gyda’r twll tywyll hwn yn eu bywydau. Mae’r dyhead am rhywbeth mwy yn parhau ym mhrofiadau pobl er fod ganddynt ddigon o bethau materol iddynt fyw a mwy na digon o adloniant i’w difyrru.

Gwelant ogoniant y cread ond ni allant fynegi diolch i neb amdano. Rhyfeddant at luniau o’r galaethau maith ond rhaid iddynt atgoffa eu hunain ei fod yn ddiystyr. Brwydrant am gyfiawnder yn eu cymunedau ond ni allant esbonio yn union pam fod pethau’n ymddangos yn anghyfiawn iddynt. Teimlant gyfrifoldeb dros y cread, a’r rheswm am hynny yw er mwyn i ddynoliaeth oroesi, ac nid er mwyn dwyn gogoniant i’r crëwr sydd wedi ei roi yn eu gofal.  Mae ein profiad mewnol yn dangos ein bod angen Duw, angen y tragwyddol, ond mae safbwynt y byd seciwlar modern yn gwadu hyn a bod rhaid chwilio am atebion i’n anfodlonrwydd mewn mannau eraill.

Gwelir y dyhead dwfn hwn am dragwyddoldeb yn amlwg wrth ymwneud â chariad a marwolaeth. Ac weithiau ceisir mynegi’r tragwyddol trwy ddulliau materol. Mewn priodas y bûm ynddi rhoddwyd y dyfyniad hwn ar y daflen,

The Amber Spyglass – gan Phillip Pullman.

I will love you forever; whatever happens.
Till I die and after I die, and when I find my way out of the land of the dead,
I’ll drift about forever, all my atoms, till I find you again.

I’ll be looking for you, every moment, every single moment.
And when we do find each other again, we’ll cling together so tight that nothing and no one’ll ever tear us apart.

Every atom of me and every atom of you. We’ll live in birds and flowers and dragonflies and pine trees and in clouds and in those little specks of light you see floating in sunbeams. 

And when they use our atoms to make new lives, they won’t just be able to take one, they’ll have to take two, one of you and one of me.

Syniad neis iawn, ond ffantasi llwyr yw’r gerdd sy’n ceisio mynegi cariad tragwyddoldeb trwy’r materol. Dwi ddim eisiau bod yn ddifrïol o unrhyw un sy wedi defnyddio’r dyfyniad – rhydd i bawb ei farn a ballu – ond o safbwynt Cristnogol rhaid anghytuno yn llwyr gyda’r fath sentimentaliaeth twyllodrus a disylwedd.

Enghraifft arall o’r un math o beth yw y gerdd hon fu’n eithaf poblogaidd mewn angladdau gan Henry Scott-Holland. (Roedd H. S.H. (1847 – 1918), yn offeiriad yn eglwys Gadeiriol  Sant Paul’s Llundain.  Nid cerdd oedd hi yn wreiddiol ond rhan o bregeth a draddododd ym 1910 yn dwyn y teitl  “Death the King of Terrors”)

Death is nothing at all.
It does not count.
I have only slipped away into the next room.
Nothing has happened.

Everything remains exactly as it was.
I am I, and you are you,
and the old life that we lived so fondly together is untouched, unchanged.
Whatever we were to each other, that we are still.

Call me by the old familiar name.
Speak of me in the easy way which you always used.
Put no difference into your tone.
Wear no forced air of solemnity or sorrow……….

Laugh as we always laughed at the little jokes that we enjoyed together.
Play, smile, think of me, pray for me.

All is well.
Nothing is hurt; nothing is lost.
One brief moment and all will be as it was before.
How we shall laugh at the trouble of parting when we meet again!

(Henry Scott-Holland. “Death Is Nothing At All.” Family Friend Poems, https://www.familyfriendpoems.com/poem/death-is-nothing-at-all-by-henry-scott-holland)

Unwaith eto yn y gerdd hon ceisir delio gyda marwolaeth a cholled trwy ddychymyg yn unig. Mae’r sentiment yn un hyfryd ond a ydyw yn cyflwyno unrhyw wirionedd? Yntau ai cysur gwag yn unig sydd yma i bobl mewn penbleth wrth wynebu profedigaeth?  O fod yn fwy llym onid yw’r gerdd yn awgrymu cysylltu gyda’r meirw, rhywbeth sy’n waharddiedig  o fewn i gyd-destun Cristnogol?

Yn ystod y mis diwethaf rwyf wedi cael y fraint o arwain pedwar angladd Cristnogol er cof am bobl oedd yn Gristnogion gan eu cyflwyno i Dduw a diolch am eu bywydau. Wrth wneud hyn dwi’n naturiol yn ymdrin â marwolaeth ac egwyddorion y Beibl am fywyd tragwyddol.

Wrth wneud hyn sylweddolaf fod y ddealltwriaeth Gristnogol am fywyd yn mynd yn ddieithr iawn i bobl a bod agweddau seciwlar a syniadau’r oes newydd yn rheoli meddylfryd y mwyafrif. Mae’r cyfryngau yn chwydu anffyddiaeth. Weithiau mae rhai yn rhagdybio eu bod yn gwybod beth ddywed Cristnogaeth ar bob math o faterion a hynny  heb unrhyw wybodaeth Feiblaidd na chefndirol. Ynfyd yw hyn gan fod Cristnogaeth yn ffydd sy’n cael ei datguddio inni gan Dduw ac nid yn rhywbeth yr ydym yn ei ganfod trwy ein deallusrwydd neu ein ysgolheictod ein hunain. Mae Duw yn esbonio hyn yn  y Beibl ac yn bennaf trwy Iesu Grist.

Yn y gorffennol pell roedd Duw wedi siarad gyda’n hynafiaid ni drwy’r proffwydi. Gwnaeth hyn bob yn dipyn ac mewn gwahanol ffyrdd. Ond bellach, yn y cyfnod olaf hwn, mae wedi siarad â ni drwy ei Fab.   – Hebreaid 1: 1, 2

Felly yn Iesu fe gawn arweiniad a chanllaw ynglŷn â bywyd yn ei gyfarwydd. Beth felly am fywyd tragwyddol? Fel y gwelwyd ar ddechrau erthygl hon y mae pob unigolyn wedi ei greu gan Dduw ar gyfer tragwyddoldeb. Gwaetha’r modd daeth gwrthryfel mawr dynolryw – yn ffurf pechod – gan dorri ein cysylltiad gyda Duw a thragwyddoldeb. Ond yn ei gariad tuag atom anfonodd Duw Iesu i’r byd i ddelio gyda’r broblem. Fel y dywedir yn Y Llythyr at y Rhufeiniaid,

“Marwolaeth ydy’r cyflog mae pechod yn ei dalu, ond mae Duw yn rhoi bywyd tragwyddol yn rhad ac am ddim i chi, o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu’r Meseia.  – Rhufeiniaid 6:23

Trwy gredu yn Iesu Grist rydym yn cael bywyd ar y ddaear nawr fel y dylai a fod a bywyd tragwyddol ar ôl i’r bywyd hwn ddarfod. Dywedodd Iesu wrth wraig o’r enw Martha un tro,

“Fi ydy’r atgyfodiad a’r bywyd. Bydd pawb sy’n credu ynof fi yn dod yn fyw, er iddyn nhw farw; 26a bydd y rhai sy’n fyw ac yn credu ynof fi ddim yn marw go iawn. Wyt ti’n credu hyn?” Ioan 11.

Nid oes rhaid dychmygu am y peth neu greu llenyddiaeth i gyfleu tragwyddoldeb – er nad yw yn bodoli – trwy’r materol. Y cyfan sydd rhaid ei wneud yw credu yn Iesu ac fe’i cawn yn rhodd. Mae hyn yn llenwi’r twll tywyll du yn ein heneidiau, yn ein cymodi gyda Duw, yn dileu ofn ac ansicrwydd y bywyd hwn ac yn addo bywyd newydd tragwyddol ar ôl marwolaeth.

A wyt ti yn credu?



Gadael sylw