Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Adolygiad o Hen Gapel Llanbrynmair – Iorwerth C. Peate.

Cyhoeddwyd y gyfrol hon ym 1939 fel rhan o ddathliadau daucanmlwyddiant yr achos. Golygwyd gan Iorwerth Cyfeiliog Peate, curadur cyntaf Amgueddfa Werin Sain Ffagan, ac un a hanai o Lanbrynmair.

Prynais y gyfrol yn benodol er mwyn dysgu sut oedd eglwys annibynnol Llanbrynmair yn gweithredu gan ei bod yn ystyried ei hun yn un gynulleidfa gyda  chapel mawr canolog a rhyw 4 cangen yn y cyffiniau oedd yn cyfarfod mewn ysgoldai llai. Sut oedd y cwbl yn gweithio fel un eglwys oedd â phum cynulleidfa? Pa weithgareddau a gynhelid yn y canghennau? Pa mor aml oedd cynulleidfaoedd y canghennau yn mynd i’r Hen Gapel yn Llanbrynmair? Sut oeddent yn pleidleisio mewn cyfarfodydd eglwysi? A oedd cymuno a bedyddio yn digwydd yn ganolog? A oedd henuriaid a diaconiaid penodol yn cael eu neilltuo i arolygu gwaith y canghennau? Gwaetha’r modd nid oes dim gwybodaeth o unrhyw werth yn y gyfrol am hyn. Tybed os oes gan unrhyw un fydd yn darllen hwn wybodaeth am y canghennau o ffynonellau eraill?

Casgliad o erthyglau yw’r llyfryn hwn a ysgrifennwyd gan amrywiaeth o awduron. Rhed y penodau fel a ganlyn;

Pennod 1. Eglwys Maldwyn gan J. Morgan Jones;

Pennod 2. Deucanmlwyddiant Lewis Rees gan R. T Jenkins.

Pennod 3. Ychydig o Hanes yr Eglwys gan Samuel Roberts.

Pennod 4. Y Tri Brawd gan J. Dyfnallt Owen.

Pennod 5 1861 – 1930 gan George H. Peate (Tad Iorwerth C. Peate)

Pennod 6. Heddiw ac Yfory gan Robert Evans. (Ai hwn oedd Tad R. Alun Evans?)

Y mae’r penodau i gyd yn ddiddorol yn eu ffyrdd, er fod rhai yn fwy sylweddol na’i gilydd. Dyma bigion,

Mae’r bennod gyntaf gan J. Morgan Jones yn adrodd cefndir Piwritanaidd Cristnogaeth ym Maldwyn. Cyfnod cythryblus yn grefyddol ac yn wleidyddol a’r ddwy elfen wedi eu gweu yn dynn yn ei gilydd. Cymeriadau pwysig oedd ar llwyfan y ddrama yn y cyfnod hwnnw oedd William, Wroth, William Erbury, Walter Caradog, Vavasor Powell, Morgan Llwyd,Richard Davies o’r Cloddiau Cochion, Ambrose Mostyn, ymhlith eraill.

Bu J. Morgan Jones 1873 – 1946  yn brifathro Coleg Bala-Bangor o 1926 ar farwolaeth Thomas Rees, hyd ei farwolaeth ef ei hun yn 1946.

Pennod 2. Y bennod hon oedd yr un fwyaf difyr a darllenadwy i mi, a ysgrifennwyd wrth gwrs, gan y dihafal R. T. Jenkins. Ynddi mae’n olrhain hanes yr efengylydd Lewis Rees a’i egni mawr dros efengyl Iesu Grist. Plannodd eglwysi yng ngogledd Cymru a daeth tyfiant mawr yn hanes eglwys annibynnol Llanbrynmair oherwydd ei waith. Ysgrifenna R. T. Jenkins yn ddoniol,

“Ni chyfyngodd Lewis Rees ef ei hun i wlad Cyfeiliog. Mynnodd fod yn genhadwr yn nhair sir Gwynedd. Disgynnodd fel melleten ar yr hen gynulleidfaoedd tawel, ar yr hen weinidogion llonydd da; ysgydwodd Annibyniaeth y Gogledd i ymdeinlad o bosiblirwydd newydd. Mynd i’r Bala, lle’r oedd Kenrick, mab yng nghyfraith Hugh Owen o Fron Clydwr, yn “gwneud ei orau” (Rees a Thomas sy’n dweud hynny yn Hanes Eglwysi Annibynnol) – ond yn anffodus nid yw priodi merch gŵr mawr yn gyfystyr â phriodi ei athrylith. Gwahanol iawn oedd gweinidogaeth Lewis Rees a Jenkin Morgan yn yr hen dref. Ac yn y Bala y bu Meurig Dafydd o’r Weirglodd Gilfach yn gwranod ar Lewis Rees yn 17837. Canlyniad hynny, fel y gŵyr pawb, fu gwahodd y pregethwr i blwyf Llanuwchllyn, a’r oedfa hynod honno yn y “cymorth gwau”; a dyna fu dechrau eglwys Annibynnol Llanuwchllyn, nid y lleiaf ym mhlith dinasoedd Annibyniaeth yn y blynyddoedd ar ôl hyn.”  

Darllen difyr iawn. Bydd rhaid i mi edrych rhagor ar hanes Lewis Rees.

Yn y bedwaredd bennod ceir hanes y Tri Brawd o Lanbrynmair gan J. Dyfnallt Owen sef Samuel Roberts, (S.R.), John Roberts (J.R),  a Gruffydd Roberts, (G.R.),  tri a ddaeth yn eu cyfnod rywfodd yn arwyr gwlad. Mae hanes y tri yn amrywiol a digon difyr ond fwy na thebyg mai S.R., 1800 – 1885 oedd yr un mwyaf dylanwadol oherwydd y bu mor gynhyrchiol.  Roedd ganddo ddiddordeb mawr mewn materion cymdeithasol a gwleidyddol ei oes. Fe gychwynnodd Y Cronicl Bach ym 1943, misolyn oedd yn llawn gwybodaeth am ddatblygiadau a syniadau newydd. Ynddo ysgrifennodd am orthrwm tirfeddianwyr (dywedir fod ei erthyglau am Cilhaul Uchaf yn rhan o dyfiant y nofel Gymraeg), amaethyddiaeth, y rheilffordd, y “penny stamp”,  Deddf Ŷd, caethwasiaeth, heddychiaeth, yr egwyddor wirfoddol ym myd addysg, barddoniaeth a hylltod o faterion eraill.

(Gellir darllen rhagor amdanynt yn E. Pan Jones, David Onllwyn Brace, Cofiant y Tri Brawd o Lanbrynmair a Conwy (Bala 1892) <http://hdl.handle.net/10107/5729093&gt;, Glanmor Williams, Samuel Roberts, Llanbrynmair (Cardiff 1950), D. Ben Rees, Samuel Roberts (Gwasg Prifysgol Cymru 1987))

Mae’r cymeriadau hyn yn rhan o’n gwehelyth fel Cristnogion a Chymry ac mae’n bwysig cofio ac atgoffa ein gilydd amdanynt. Fel arall byddwn yn cael ein boddi gan ddealltwriaeth Eingl-Americanaidd o Gristnogaeth, hanes a diwylliant. Dinistriol yw hynny i genedl a dynolryw.  



Gadael sylw