Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Y Chweched Wythnos 8 – 14 Hydref

Os ydych am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu yma  gellir gwneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com

Bu’r chweched wythnos yn un anodd oherwydd amgylchiadau teuluol. Gan fod fy mam yng nghyfraith – sydd yn 94 oed – yn ddifrifol wael, mae wedi golygu ymweliadau dyddiol â’r Ysbyty. O ganlyniad bu rhaid gohirio rhai sgyrsiau a threfniadau, ond gobeithiaf allu eu hail drefnu yn ystod y pythefnos nesaf.

Yn ogystal â hynny mae dau angladd wedi bod ar y gweill. Cydymdeimlaf eto gyda’r teuluoedd yn eu galar. Pan oeddwn yn dechrau fel gweinidog yn Wrecsam ym 1986 dim ond 3 – 4 diwrnod oedd rhwng marwolaeth a chladdu neu amlosgi. Roedd hyn yn galluogi teuluoedd i ffarwelio gyda’r ymadawedig a dechrau ar heriau pennod newydd yn eu hanes mewn cyfnod byr. Bellach mae’r oedi sydd yn andwyol i’r rhaid sy’n galaru. Mae’r cyfnod aros i’r teuluoedd rhwng marwolaeth ac angladd yn annerbyniol o hir. Mae hwn rhwng tair a phedair wythnos erbyn hyn yng Nghaerdydd os am ddefnyddio’r amlosgfa. Tybiaf y byddai yn fyrrach pe bai claddedigaeth. Ond ychydig o gladdu sydd yn digwydd bellach

Felly, es i ddim i oedfa o fawl  y Sul diwethaf. Mi oeddwn ni wedi bwriadu mynd i eglwys Potters House Church ar Stacey Road, Caerdydd, i weld beth oedd yn digwydd yno. Rwy’n ceisio mynd i amrywiaeth mawr o eglwysi newydd ac yma yng nghyffiniau Caerdydd mae llwyth ohonynt. I ddweud y gwir mae rhai eglwysi “pop up” yn ymddangos fel madarch dros nos a nifer ohonynt yn diflannu yr un mor sydyn. Mae’n rhaid bod rhai mudiadau Cristnogol yn profi’r dyfroedd yma yng Nghaerdydd er mwyn gweld sut mae gwynt yr Ysbryd yn chwythu. Ond mae Ef yn chwythu lle y mynn ac nid fel y mynnwn ni!

Rwyf wedi bod yn gwneud peth ysgrifennu. Mae erthygl gennyf ar agweddau atheistiaidd neu secwlar yr oes hon tuag at farwolaeth a thragwyddoldeb. Hefyd rwy’n parhau i weithio ar erthygl sy’n edrych ar nodweddion addoliad yn y 19eg ganrif. Bydd 2 fersiwn o hon. Crynodeb ar gyfer y blog hwn ac yna fersiwn hirach mwy ysgolheigaidd ei naws. Felly, gobeithiaf erbyn diwedd yr wythnos hon y bydd dau ohonynt  yn ymddangos.

Llyfrau

Dim wedi cael cyfle i ddarllen llawer yr wythnos hon

Mae mudiad Wycliffe – sy’n cyfieithu’r Beibl i amrywiol ieithoedd yn darparu gwybodaeth yn y Gymraeg am eu prosiect Fflam.

Fideos a blogiau

Cyfieithwyr y Beibl Wycliffe

Wycliffe.org.uk

Prynais yr albwm hwn, gyfansoddwyd gan Barry McGuire o’r “Word Record Club” yn yr 1980au a hynny ar dâp. Gwisgodd y tâp gan fy mod wedi gwrando cymaint arno a bu rhaid ei daflu. Llynedd darganfyddais y copi digidol hwn ar Youtube. Mae’r caneuon yn parhau yn berthnasol wrth drafod ffydd yn Iesu Grist. Rhan o gerddoriaeth cefndir fy llwybr i ffydd yn Iesu.

Tyfu eglwys yn Llundain

https://www.londonseminary.org/growing-a-church-in-a-london-suburb/?utm_source=substack&utm_medium=email

Erthygl am fagu plant yn y ffydd Gristnogol

Eisiau gwybod mwy am yr Ysbryd Glân? Nifer o awgrymiadau yn yr erthygl hon am lyfrau addas.

https://fredfredfred.com/2023/10/recommended-reading-on-the-holy-spirit/?utm_source=substack&utm_medium=email


Gadael sylw