Os ydych am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu yma gellir gwneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com
(Hoffwn nodi’r rheswm pam fy mod yn rhoi hanes yr addoliad mor fanwl pob wythnos. Wrth astudio ar gyfer fy noethuriaeth, edrychais yn fanwl ar addoliad Ymneilltuwyr Cymru yng nghanol y 19eg ganrif. Wrth ymchwilio sylweddolais fod bylchau yn y manylion a gyflwynid oherwydd bod y pethau mor gyffredin, e.e., dim ond chydig o ffeithiau a roddwyd am y gorfoleddu oedd yn digwydd, oherwydd cymerwyd yn ganiataol fod pawb yn gwybod beth oedd gorfoleddu. Erbyn hyn nid ydym yn gwybod yn union beth oedd natur y gorfoleddu hwn am nad oedd pobl yn ei ddisgrifio yn fanwl. Nid oes fawr o neb chwaith wedi ysgrifennu am gyfarfodydd diflas a difflach a gynhaliwyd. Felly, mae’n bwysig ysgrifennu am bethau cyffredin oherwydd efallai na fyddant yn gyffredin mewn can mlynedd.)

Addoli
Ar ddydd Sul 01 Hydref fe es yn y pnawn am 4.00 draw i Donypandy i addoli gydag eglwys Hope. (Cynhaliwyd yr oedfa trwy gyfrwng y Saesneg) Nid oeddwn erioed wedi bod yn y dref hon sydd yng nghwm Rhondda er nad yw ond 22 milltir o Gaerdydd. Mae’n drawiadol pa mor agos yw’r cymoedd yn ddaearyddol i Gaerdydd a pha mor bell yn ein hymwybyddiaeth!
Mae’r eglwys hon – a blannwyd ychydig flynyddoedd yn ôl – yn addoli mewn hen siop drydan, sy wedi ei haddasu, ar y brif ffordd trwy’r dref. (Fe soniaf fwy am hyn isod yn y sgwrs a gefais gyd Ben Franks un o’r sylfaenwyr.) Mae’r siop yn union dros ffordd i hen gapel Annibynnol llwm sy yn ôl yr olwg arno wedi cau ers blynyddoedd. Roedd baneri glas yn cyhwfan y tu allan i’r siop yn tynnu sylw at y lleoliad. Fe es i mewn i’r gofod sy’n dal oddeutu 90 – 100 o bobl ac roedd yn gyffyrddus lawn gyda rhyw 60 wedi ymgynnull. Eisteddais i lawr yn un o’r cadeiriau – dwi’n dechrau teimlo fel rhyw fath o addolwr cudd (Mystery worshipper) – ac yn syth bin daeth person ataf i’m croesawu, i ysgwyd llaw ac i gynnig paned oedd yn cael ei weini yn y gornel dde. Mor bwysig yw croesawu a chyfarch dieithriaid i’n hoedfaon ac nid eu hanwybyddu tan y cyhoeddiadau. Roedd awyrgylch braf, cartrefol a chyfoes yno.

Roedd patrwm yr oedfa ychydig yn wahanol. Cafwyd gair o groeso gan Simon y gweinidog, yna cyfnod o addoliad a chanu o dan arweiniad menyw ar y guitar, gŵr ar yr allweddell a merch yn canu llais cefndir. Digwydd bod, roeddwn yn gyfarwydd â’r caneuon – diolch i oedfa foreol Ebeneser. Wedi’r mawl ar gân rhoddodd Simon wahoddiad agored i unrhyw un yn y gynulleidfa oedd am rannu gair neu weddïo. Daeth 3 o bobl i rannu. Efallai bod hyn yn anghyfarwydd i ti. Yr hyn sy’n digwydd yw fod person yn rhannu gyda’r gynulleidfa rhywbeth y mae Duw wedi ei ddangos iddo yn ddiweddar, trwy weledigaeth, darlun neu adnod o’r Beibl. Rhywbeth sy wedi eu cyffwrdd mewn ffordd arbennig. Pwrpas hyn yw adeiladu’r eglwys wrth iddi sylweddoli fod Duw ar waith nawr ym mywydau ei bobl. (I Corinthiaid 14:4)
Yna, neilltuwyd 6 pherson – yn ddynion a merched – i wasanaethu fel diaconiaid yn yr eglwys. Gwnaed hynny trwy ofyn cwestiynau cyffredinol iddynt ac adrodd Credo’r Apostolion. Pleidleisiodd pawb oedd yn y gynulleidfa. Cafwyd gair o dystiolaeth gan fachgen ifanc 12 oed oedd wedi ei iachau yn ystod gwyliau’r haf o anhwylder ar ei droed mewn gŵyl Gristnogol. Offrymodd ef air o weddi dros eglwys Hope. Darllenwyd o Efengyl Marc pennod 12 adnodau 18 – 32 a chafwyd pregethu 25 munud gan ŵr dienw. Roedd y bregeth braidd yn gymhleth i mi ac efallai y gellid cyflwyno’r deunydd yn fwy syml a dealladwy! Ond, dyna ni, efallai bod hynny’n adlewyrchu fy nghrebwyll diwinyddol a’m deallusrwydd i.
Swper yr Arglwydd
Yna, heb unrhyw rwysg cafwyd cymun. Y cymun mwyaf anffurfiol a ffwr-bwt y bûm yn rhan ohono erioed. Roedd y bara a’r gwin wedi eu gosod ar y bar coffi ac wedi ychydig eiriau o esboniad gan y gweinidog gwahoddwyd unrhyw un oedd am gymuno i helpu eu hunain yn ystod cân a ganwyd.
Gwaetha’r modd bu rhaid i mi ruthro oddi yno gyda’m gwynt yn fy nwrn oherwydd bod gennyf drefniant arall. Un oedfa a gynhelir
ar y Sul a honno yn awr a hanner i ddwy awr o hyd. Erbyn hyn, hyd y gwelaf fi, ychydig o eglwysi sy’n cynnal dwy oedfa bregethu ar y Sul. Mwynheais yr oedfa a’r croeso cynnes a chefais fendith yng nghwmni saint Hope, Tonypandy. Dyma batrwm da y gellid ei efelychu yn rhwydd.

Sgwrs
Cefais sgwrs galonogol iawn gyda Ben Franks yn y Gatto Lounge, Pontypridd, wrth ymyl yr hen bont. Lle da am baned. Ben a’i wraig Lois oedd yn bennaf gyfrifol am sefydlu Eglwys, Hope Tonypandy. Roedd yr hyn a rannodd gyda mi yn ysbrydoliaeth fawr. Pan yn eu arddegau hwyr yr oedd y ddau ohonynt mewn oedfa yng nghapel y Bedyddwyr, Rhiwbeina, Caerdydd. Roedd pregethwr gwadd yn yr oedfa honno a ddaeth o Ferthyr Tydfil. Yn ystod ei bregeth cyfeiriodd at y dirywiad ysbrydol mawr oedd wedi digwydd yn y cymoedd a bod yn dystiolaeth Gristnogol yn prinhau. Yn Merthyr a’r cyffiniau roedd 80 mil o bobl yn byw a dim ond canran fechan iawn yn mynychu eglwys. Cyffyrddodd hyn Ben a Lois yn ddwfn a’u hargyhoeddi o’r angen i blannu eglwysi newydd yn y cymoedd.

Wedi cyfnod i ffwrdd yn y coleg daethant yn ôl yr un mor argyhoeddedig o alwad Duw ac aethant ati i gychwyn yr achos yn Nhonypandy. (Poblogaeth 17 mil.) Cychwynnwyd y gwaith trwy gynnal cwrdd gweddi ac addoliad yn eu cartref. Yn raddol iawn cynyddodd y niferoedd i 12 ac fe benderfynwyd y byddai rhaid cael lleoliad mwy. Am gyfnod cawsant ganiatâd i ddefnyddio hen gapel Bedyddwyr yn y dref. Roedd yr achos gwreiddiol wedi dirwyn i ben. Wedi cyfnod byr yno nid oeddent yn teimlo fod y capel yn addas ar gyfer eu gweithgareddau. Yn fuan sylweddolwyd fod gan rai o’r bobl leol ragfarnau mawr tuag at yr hen gapeli gan eu bod yn cyfleu iddynt ymdeimlad o feirniadaeth a moesoli.

Felly, penderfynwyd chwilio am ganolfan arall. Dewiswyd yr hen siop drydan ac aethpwyd ati i godi arian ac yna i addasu’r adeilad. Roedd hynny yn golygu codi dros £100,000. Erbyn iddynt gychwyn ar eu gweithgareddau yno roedd y ddyled wedi ei thalu yn llwyr. Mae Ben yn teimlo fod Duw wedi ei fendithio gyda’r ddawn i gychwyn eglwysi ac nid eu tyfu. Dyna pam fod Simon a Lucy erbyn hyn yn arwain Hope, Tonypandy. Mae Ben a Lois yn symud ymlaen i gychwyn cynulleidfa newydd yn Nhreorci.

Nid ydynt yn gwneud hyn trwy eu pen a’u pastwn eu hunain maent yn cael cefnogaeth gan fudiadau fel Derwen ac Advance ac y mae nifer o eglwysi ac unigolion yn gweddïo drostynt.
I mi mae’n hyfryd gweld Cristnogion ifanc yng Nghymru yn mentro mewn ffydd i hyrwyddo teyrnas Dduw ac i dystio i Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr gan ennill pobl newydd. Mae’n rhaid inni ofyn y cwestiwn a’i trwy weithgareddau fel hyn y mae’r dyfodol. Rhaid inni fel eglwysi Cymraeg feddwl am hyn o ddifrif gan ystyried cychwyn cynulleidfaoedd newydd.
Diolch i Ben am roi ei amser i mi ac am rannu ei brofiad
Rhannodd Ben hefyd daflenni sydd wedi eu paratoi gan 100 Cymru. Cynllun newydd anenwadol sydd ar y gweill i blannu eglwysi yng Nghymru.



Ail sgwrs
Cefais hefyd sgwrs zoom gyda’r Parch. Carwyn Siddall, Llanuwchllyn, (Cydlynydd Hyrwyddo Gweinidogaethau Undeb yr Annibynwyr) er mwyn rhannu’r hyn roeddwn wedi ei wneud a holi sut oedd ei waith gyda chynllun hyfforddi newydd yr Annibynwyr yn mynd yn ei flaen.

Rhennais gydag ef ychydig o’r hyn yr oeddwn wedi bod yn ei wneud yn ystod y cyfnod Sabothol trwy ymweld ag eglwysi newydd a siarad gydag arweinyddion am eu gwaith a’u gweledigaeth. Y mae cymaint o gychwyn achosion newydd yn digwydd yng nghyd-destun Cristnogion Saesneg eu hiaith yma yng Nghymru. Ond beth yw perthnasedd hyn i ni sydd wedi ein galw gan yr Arglwydd i weithio ymhlith Cymry Cymraeg yn benodol? Cytunodd y ddau ohonom y bydd rhaid cychwyn cynulleidfaoedd newydd Cymraeg yn y dyfodol agos mewn rhai ardaloedd. (Wrth gwrs fel hyn cychwynnwyd ein heglwysi presennol ni yn ôl yn y 18fed a’r 19eg ganrif.) Mae’r weledigaeth hon yn un gynhyrfus sy’n cynnig ateb rhannol i’n gwewyr presennol fel eglwysi Cymraeg sy’n wynebu dirywiad enbyd. Datblygodd y sgwrs i ystyried sut gellid mynd ati i wneud hyn. Rhaid trafod mwy am hyn.
Dyma’r brif bwyntiau gododd. 1. Dylid cychwyn gwaith newydd gyda chefnogaeth eglwys arall. 2. Dylid geisio osgoi dyblygu gwaith o’r math hwn gan fod ein hadnoddau yn brin o ran pobl gymwys i wneud y gwaith a chyfalaf. (Mewn gwirionedd nid oes angen llawer o arian i wneud hyn dim ond gweddi a gweledigaeth). 3. Ond peth pwysig yw rhannu’r weledigaeth ac ysgogi Cristnogion i fod yn fentrus yn y ffydd. Gwaith Duw yw hwn nid ein gwaith ni.
Cawsom gyfle hefyd i drafod hen batrwm rhai o eglwysi Meirionydd lle roedd ganddynt – er eu bod yn un eglwys – ganghennau mewn ardaloedd gwledig, e.e., Hen Gapel Llanuwchllyn; Tabernacl, Dolgellau; Ebeneser, Dinas; Capel Tegid, y Bala ac wrth gwrs ym Maldwyn, Hen Gapel, Llanbrynmair. Mae hwn yn batrwm y gellid ei atgyfodi i’r dyfodol lle mae gan eglwys fwy nac un cynulleidfa. Ond beth mae hyn yn ei olygu yng nghyd-destun yr egwyddor annibynnol lle mae pob cynulleidfa yn atebol yn uniongyrchol i’r Arglwydd? Bydd rhaid ymchwilio yn ddyfnach i hun. Beth mae’r Arglwydd am i ni wneud nawr wrth baratoi i’r dyfodol?
Cyn gorffen cefais gyfle i holi Carwyn sut oedd ei waith yn dod yn ei flaen gyda chynllun hyfforddi newydd Undeb yr Annibynwyr. Rhannodd fod y cynllun wedi ei hollti yn ddwy ran, Allanol a Mewnol. Mae’r elfen Allanol yn gywaith gyda’r enwadau Ymneilltuol eraill sy’n darparu hyfforddiant mwy academaidd ar gyfer pobl fydd yn cael eu galw i weinidogaethau. Mae’r elfen Fewnol yn cynnwys hyfforddi aelodau’r eglwysi Annibynnol ar lawr gwlad ynglŷn ag arweinyddiaeth. Fe gynnwys hyn, fel y gallwch ddychmygu, nifer o elfennau amrywiol. Bydd rhai o’r sesiynau yn y cynllun hyfforddi hwn wyneb yn wyneb ac eraill yn cael eu darparu trwy gyfrwn fideo. Edrychaf ymlaen at weld sut y bydd hwn yn datblygu.
Diolch i Carwyn am roi amser i gael sgwrs.
Llyfrau
Darllenais Lythyr Paul at y Galatiaid o glawr i glawr mewn un sesiwn. Chwe phennod yn llawn cyngor, arweiniad, gwirioneddau a cherydd.
Wedi darllen, Tell me The Dream Again gan Tasha Jun. (Mae adolygiad ar y blog hwn)
Wedi darllen Hen Gapel Llanbrynmair, (1939, Gomer Llandysul) golygydd Iorweth C. Peate.
Wedi dechrau darllen Scattered Servants, Alan Scott.
Hoffwn ddarllen, “Cofiant y Parch Lewis Rees gynt gweinidog yr efengyl yn Llanbrynmair, wedi hynny yn y Mynydd-bach, ger Abertawy (Abertawe 1852).
Tybed os oes gan unrhyw un ohonoch gopi y gallaf ei fenthyg?
Fideos a Blogiau
Pregeth gan Timothy Keller yn dwyn y teitl “An Old Woman’s Laughter” sy’n ymwneud â chwerwedd a chwerthin yn seiliedig ar hanes Sarah ac Abraham.
Gellir gweld oedfaon Hope, Tonypandy ar eu sianel Youtube. https://www.youtube.com/c/HopeChurchRhondda
Operator of Information – Jessy Dixon. Hoff iawn o Jessy Dixon ac o’r gân ddoniol hon sy’n ein hannog i weddïo.
Equip 2023 – Gwasanaethu Duw yn ei dymor
Mae “Enduring Lessons from the Rise and Fall of Mars Hill” – yn rhoi cyngor sut i ddelio gydag elfennau niweidiol sy’n gallu datblygu o fewn i eglwysi.
The Porn Talk – mae pornograffiaeth yn broblem gynyddol yn ein cymdeithas a’n heglwysi ond yn “anweledig”. Nid yw’n rhywbeth yr ydym yn barod i’w drafod ond gyda thechnoleg y mae’n fwy amlwg ac yn haws cael mynediad ato nac erioed. Mae’r erthygl hon yn tynnu sylw at y broblem ac at y bygythiad yn enwedig i bobl ifanc.

Gadael sylw