Adolygiad o “Tell me the Dream Again” gan Tasha Jun

Mae Tasha Jun yn Americanwr o dras Coreaidd. Roedd ei thad yn Americanwr gwyn oedd yn gweithio yn y llynges a’i mam o Gorea. Tyfodd i fyny felly gyda thyndra yn ei henaid o fod yn berson oedd a dwy hil yn rhan o’i chyfansoddiad. Mae’n ysgrifennu am ffydd, diwylliant ac ymwybyddiaeth ethnic, a chyda ing shalomsick yn ei chalon. Bu ysgrifennu yn gyfrwng ddefnyddiodd Duw i’w harwain trwy dryblith a dryswch tuag at obaith a shalom. (Mae Shalom yn air pwysig yn y gyfrol.) Mae Tasha Jun yn byw yng nghanolbarth gorllewinol America gyda’i gŵr a’i thri o blant.
Prynais y llyfr hwn oherwydd fod gennyf ddiddordeb mewn amlhiliaeth. Mae’r byd a Chymru yn datblygu i fod yn fwy a mwy cymysg o ran tras a hil. O ganlyniad y mae’n bwysi addysgu ein hunain a dysgu am yr amrywiaeth a sut y mae pobl yn ymdopi o fod yn rhan o fwy nac un diwylliant a thras. Yn ein teulu agos ni y mae gennym berthnasau o Rwmania, Lloegr a Chymru ac oblegid hynny yn naturiol y mae amrywiaeth safbwyntiau am bob math o bethau.
Tyner
Mae’r llyfr hwn wedi ei ysgrifennu yn addfwyn a thyner wrth i T. Jun rannu gyda ni y frwydr fu yn ei chalon ers yn blentyn ynglŷn â’i hunaniaeth. Ganwyd ei mam yng Nghorea yn fuan wedi i gyfnod o feddiannu gan Japan ddod i ben. Ym 1950 – 53 bu rhyfel rhwng Gogledd a De Korea a esgorodd ar ddioddefaint a newyn mawr. Ffodd degau o filoedd er mwyn osgoi’r greulondeb. Ar ôl hir a hwyr symudasant i fyw i’r Unol Daleithiau. Yno, priododd ei mam gyda dyn gwyn oedd yn gweithio i’r llynges. O ganlyniad roeddent yn symud yn aml o le i le. Yn ystod ei phlentyndod daeth Tasha Jun yn ymwybodol iawn ei bod yn wahanol i blant eraill yn enwedig pan mai hi oedd yr unig ferch o dras Asiaidd mewn ysgolion gwyn. Roedd y plant yn aml yn greulon yn tynnu sylw at ei llygaid cul ac yn gwneud hwyl am ben y bwyd Coreaidd yn ei bocs bwyd. Roedd cyfoedion o dras Asiaidd yn brin iawn a theimlai yn unig wrth gael ei thrin fel plentyn “gwahanol”.
Bu’n frwydr gyson iddi geisio hydoddi i’r diwylliant gwyn Americanaidd a chysoni hynny gyda’i chefndir Coreaidd. (Mae’r freuddwyd yn nheitl y llyfr yn cyfeirio at stori o freuddwyd am deigr a adroddai ei mam iddi pan y fychan.) O ganlyniad adweithiai yn negyddol i ymgais ei mam i rannu rhyw gymaint o’i hetifeddiaeth Asiaidd. Hefyd oherwydd ansicrwydd ni throsglwyddodd ei mam yr iaith Goreaidd iddi.

Tasha Jun
Anhapus
Maes o law fe ddaeth yn Gristion gan fynychu eglwys Gristnogol. Ond yn y fan honno hefyd fe deimlai bod yn rhaid iddi guddio ei hetifeddiaeth gan smalio fod popeth yn iawn. Ond nid oedd o bell ffordd. Ysgrifenna,
“Early on in my walk with Jesus, I was taught that being made new in Christ and having my identity rooted in him meant I could start fresh – I could be whoever I wanted to be. I could hide behind that explanation of identity and never worry about where I came from or the unmistakable scent of my Koreanness. I could roll my eyes when I had to check a race box I didn’t fit into anyway and pretended it didn’t matter anymore. I could be excused from having my ethnicity play any significant roll in my life and relationships. I could discard my heritage and assimilate and finally become comfortable enough to belong to the ranks of normal.
But even as I said those things and professed to believe them, I still hid. I still felt impossibly alone. The cultural Christianity I’d come to know said I could leave my cultural identity at home and sever my Koreanness in exchange for a new family that would welcome me – and it was all for the sake of the gospel somehow.” (Tud. 22)
Ansensitifrwydd
Yma gwelwn hi’n mynegi’r hyn yr wyf wedi ei gyffwrdd o’r blaen yn y blog hwn, mewn cyd-destun ieithyddol, yn yr erthygl ar “Cwestiwn Cyson 2”. Gall Cristnogion o ddiwylliant mwyafrifol ymddwyn yn ansensitif tuag at bobl o hil ac iaith wahanol sy’n eu plith gan ddisgwyl iddynt wadu eu tras yn llwyr. Oherwydd hyn roedd Tasha Jun yn cael anhawster i ymgartrefu mewn eglwys. Ymhelaetha yn bwerus iawn ar hyn gan ddweud,
“Color-blind theology has always been a sugarcoated death threat to everything Korean in me. It pretends to offer something sweet, but it does so at the expense of deep connection and community. At first glance, the claim of not seeing color sounds nice – like a promising answer to division and hatred. While it might stem from a desire for unity, it creates only a false unity that requires some to erase their colors while others have little at stake.
True unity requires whole people, full of their colors – and hard, holy, humbling work.” (Tud. 25)
Mae “color-blind Theology” yn tipyn o osodiad, ond gall ddigwydd yn ein calonnau a’n heglwysi lle nad ydym yn delio yn dda gyda sefyllfaoedd aml hil.
Yn nes ymlaen yn y gyfrol fe ddywed yr awdur sut y llwyddodd i ymdopi gyda’i sefyllfa gan gyrraedd cyflwr o ddedwyddwch. Yma, yn y gyfrol hon y mae gwersi pwysig i Gristnogion o bob lliw a llun wrth ymateb i’r byd aml hiliol yr ydym yn byw ynddo.
Blog Tasha Jun

Gadael sylw