2 Hydref bu farw William Rhys Nicholas, 1914–96, gweinidog (Annibynwyr), emynydd a bardd ym Mhorthcawl. “Mae’r Haleliwia yn fy enaid i…….”
3 Hydref 1226 bu farw Ffransys o Asisi.
4 Hydref 1669 bu farw Rembrandt Harmenszoon van Rijn, yr arlunydd.
5 Hydref 1814 bu farw Thomas Charles o’r Bala. Claddwyd ei weddillion ym mynwent Llanycil. Y mae cerflun ohono y tu allan i Gapel Tegid, y Bala.

Llun: Thomas Charles o’r Bala
5 Hydref 1965 bu farw Gwilym Bowyer, Prifathro Coleg Bala-Bangor.
6 Hydref 1536 merthyrwyd William Tyndale c.1494–1536, cyfieithydd y Beibl i Saesneg.
‘Without Tyndale, no Shakespeare.’
8 Hydref 451 dechreuodd Cyngor Chalcedon yn Asia Leiaf.
9 Hydref bu farw Edward Tegla Davies, 1880–1967, gweinidog (Wesleaidd), llenor a heddychwr, a chladdwyd ef ym mynwent y Gelli, Tregarth, Bangor.
11 Hydref 1531 lladdwyd Huldrych Zwingli, diwygiwr Protestannaidd dinas Zurich, ym mrwydr Kappel.
11 Hydref ganed Humphrey Rowland Jones, 1832–95, gweinidog (Wesleaidd) a diwygiwr (1859) yn Gwarcwm Bach, Llancynfelyn.
12 Hydref 1871 sefydlwyd Undeb yr Annibynwyr yng nghapel Ebeneser, Abertawe.
12 Hydref ganed Thomas Levi, 1825–1916, gweinidog (MC), awdur, emynydd, golygydd a dirwestwr, ym Mhenrhos nid nepell o Ystradgynlais. Pan oedd yn olygydd Trysorfa’r Plant roedd 40,000 copi o bob rhifyn yn cael ei werthu!
13 Hydref ganwyd John Richard Jones, Ramoth, 1765–1822, Gweinidog (Bedyddwyr) a sylfaenydd y Bedyddwyr Albanaidd yng Nghymru, yn y Bryn Melyn, Llanuwchllyn, Meirionnydd.
13 Hydref bu farw Elizabeth Fry 1780–1845, Diwygiwr cymdeithasol yn Ramsgate ac fe’i claddwyd ym mynwent y Crynwyr, Barking.
14 Hydref bu farw Catherine Booth 1829–1890, efengylydd, awdur, sylfaenydd Byddin yr Iachawdwriaeth ac hyrwyddwr hawliau merched. Roedd dros 30,000 o bobl ar strydoedd Llundain yn gwylio’r orymdaith angladdol. Claddwyd ei gweddillion ym mynwent Abney Park, Llundain.

Llun: Carreg fedd Catherine a William Booth ym mynwent Abney Park, Llundain.
14 Hydref ganed Thomas Charles o’r Bala, 1755-1814, Ysgolhaig, athro ac esboniwr yn Longmoor, plwyf Llanfihangel Abercywyn, Caerfyrddin.
14 Hydref ganed William Penn 1644–1718, Crynwr a sylfaenydd Pennsylvania yn yr Unol Daleithiau gerllaw Tŵr Llundain.
15 Hydref ganed John Saunders Lewis, 1893–1985, ysgolhaig, awdur, dramodydd a bardd, yn Bolton-cum-Seacombe ar lannau’r Merswy.
16 Hydref fe losgwyd Hugh Latimer c.1485–1555, Esgob Caerwrangon a merthyr Protestannaidd yn Rhydychen oherwydd ei ddaliadau.
16 Hydref 1790 bu farw Daniel Rowland, 1713–90, clerigwr Methodistaidd, pregethwr grymus, awdur ac emynydd, a chladdwyd ei weddillion yn Llangeitho ar 20 Hydref.
Bryd caf fi, anwylaf Iesu,
Gennyt le
Yn y ne’,
Hyfryd gartre’r teulu.
Iesu agor i mi’n rasol
Ddrws y nen
Led y pen –
Gwna fi’n un â’th bobl!
Daniel Rowland
18 Hydref ganed Matthew Henry 1662–1714, gweinidog Presbyteraidd ac esboniwr Beiblaidd yn Broadoak, plwyf Malpas, Sir y Fflint.
19 Hydref bu farw Jacob Arminius, diwinydd.
20 Hydref ganed Daniel Owen, 1836–95, gweinidog (M.C) a nofelydd, ym 53 Maes y Dref, yr Wyddgrug, sir y Fflint. Bu farw 22 Hydref 1895 yn 59 flwydd oed ac fe’i claddwyd ym mynwent gyhoeddus yr Wyddgrug.
“Nid i’r doeth a’r deallus yr ysgrifennais, ond i’r dyn cyffredin.”
Daniel Owen
23 Hydref 1897 bu farw John Evans, Eglwys-bach, Dyffryn Conwy, 1840–97, gweinidog (Wesleaidd) a phregethwr. Adeiladwyd capel coffa iddo ger y bont ym Mhont-tŷ-pridd.
24 Hydref bu farw Sarah (Sally) Charles, 1753–1814, Cristion a gwraig fusnes a rhoddwyd ei gweddillion i orffwys ym mynwent eglwys Llanycil, y Bala.
27 Hydref 1670 bu farw Vavasor Powell, 1617–70, pregethwr, diwinydd Piwritanaidd ac Awdur, a chladdwyd ei weddillion yng nghladdfa Bunhill Fields, Llundain. (Nid oes olion o’i fedd yno erbyn hyn.)
24 Hydref bu farw George Cadbury 1839–1922, cynhyrchydd siocled a diwygiwr cymdeithasol yn ei gartref, Manor House, Birmingham.
26 Hydref bu farw Philip Doddridge 1702–1751, gweinidog Annibynnol, awdur ac emynydd ac fe’i claddwyd ym mynwent y Ffactri Brydeinig, Lisbon.
26 Hydref 1944 bu farw yr Archesgob William Temple.
27 Hydref 1853 bu farw Michael Jones, 1787–1853, gweinidog (A) ac athro cyntaf Coleg Annibynnol y Bala. chladdwyd ef yn Rhosyfedwen, mynwent yr Hen Gapel. Ef oedd tad Michael D. Jones.
27 Hydref ganed Lewis Edwards, 1809–87, sefydlydd a phrifathro cyntaf Coleg y Bala (MC), athro a diwinydd ym Mhwllcenawon, Pen-llwyn, Ceredigion, rhyw bum milltir o Aberystwyth.
27 Hydref 1883 bu farw Dafydd Morgan, 1814–83, gweinidog (MC) a diwygiwr a chladdwyd ei weddillion yn Ysbyty Ystwyth. Ef oedd un o geffylau blaen Diwygiad 1859.
30 Hydref ganed Caradog Roberts, 1878–1935, cerddor, cyfansoddwr ac organydd yn Mount View, Rhosllannerchrugog, sir Ddinbych.
31 Hydref 1517 yr hoeliodd Martin Luther ei 95 pwnc ar ddrws yr Eglwys yr holl Saint yn Wittenberg, Yr Almaen.

Gadael sylw