Os ydych am ymateb, anghytuno yn adeiladol neu ychwanegu at unrhyw beth sy’n cael ei ysgrifennu yma gellir gwneud hynny trwy sabothyddiaeth@gmail.com
Mae’n dda fy mod yn fy llencyndod wedi bod yn mynychu nosweithiau roc ym Mhlas Coch, Ynys Môn. Pendoncio o flaen y spîcrs wrth wrando ar Geraint Jarman yn telynegu am Ethiopia Newydd a riffts unigryw Tich Gwilym yn llifo allan o’i guitar fel bod yr ymennydd yn orlawn o’r sain. Oherwydd yn yr oedfa y bûm ynddi ar fore Sul 17 Medi roedd y sain wedi ei godi i 11 yn Citizen Church.
Plannwyd yr eglwys hon ar Woodville Road, Cathays, Caerdydd yn 2019 gan Holy Trinity Brompton, Llundain. Ma nhw ar hyn o bryd yn hynod weithgar yn cychwyn eglwysi newydd ar hyn a lled y Deyrnas Unedig mewn hen adeiladau sydd wedi cau. Comisiynwyd y gwaith gan esgob Portsmouth, sef Y Gwir Barchedig Christopher Foster mewn cydsyniad ag esgob Llandaf, Y Gwir Barchedig June Osborne. Ar y dechrau cychwyn roedd 10 o bobl leol, symudodd rhai yma o Lundain ac 17 o Harbour Church, Portsmouth. Cyfrannodd yr Eglwys yng Nghymru 1.9 miliwn o bunnoedd i’w rannu rhwng Citizen Church a Chanolfan Hope Street, Wrecsam. Gellir gweld rhagor am hanes sefydlu’r eglwys hon drwy glicio yma. Yn gwbl syfrdanol i mi y mae 16 o o bobl yn y tîm arwain. A ydynt yn gyflogedig? Ni wn.

Hon oedd yr oedfa fwyaf egnïol y bûm ynddi erioed. Ni fyddai’r arlwy at ddant pawb ond rhaid i mi gyfaddef i mi fwynhau arddull yr addoliad a naws y digwyddiad. Roedd y gweithgareddau yn parhau o 11.00 – 1.00. Wrth inni gyrraedd cynigwyd paned, da da, croissants, danish pastries neu ffrwyth i bawb o gaffi oedd y tu allan i’r fynedfa a chaffi arall yng nghorff yr eglwys. Wedi cymdeithasu am 30 munud cychwynnodd yr oedfa ar ei ben am 11.30 gyda 25 munud o ganu o dan arweiniad y band. Roedd ansawdd y sain a’r cerddorion o’r radd flaenaf ar mawlweinydd yn rhagorol wrth iddi ein harwain i ganu nifer o ganeuon. Mae’r oedfaon yn cael ei darlledu yn fyw ar eu gwefan. Gallech feddwl eich bod mewn gig roc. Roedd y sain yn eithriadol o uchel ond i mi nid oedd yn tarfu ar yr addoliad oherwydd mai dyna oedd y bwriad. Nid oeddwn yn gwybod yr un o’r caneuon mawl, eto, y maent yn ddigon rhwydd i’w dysgu. Cafwyd cyfweliad gyda gwraig ifanc sy’n aelod o’r tîm sy’n cychwyn gwaith newydd yn Senghennydd. (Maent hefyd yn plannu cynulleidfa arall ym Mhontypridd.)
Roedd yr holl gyhoeddiadau ar fideo ac aeth y plant i’w gweithgareddau.

Pregethodd y ficer Ryan Forey am rhyw 25 munud gan gychwyn cyfres o bregethau o dan y pennawd “We are Citizen.” Cychwynnodd gyda’r darn bendigedig, Colosiaid 1: 15-20 gan bwysleisio mai “Jesus is our cause”. Brawddeg a ddefnyddiodd droeon oedd eu bod am chwalu “the stereoptype of what it is to be church.” Roedd yn ddifyr, egnïol, dealladwy a chyda’r Iesu yn y canol. (Testun difyrrwch cwbl ddibwys i mi yw sylwi ar wisg pregethwyr. Y tro hwn gwisgid het pêl fasged (brand), crys t, trowsus cwta (shorts) a fflip fflops. Mae’n siwr fod yr sgidiau hyn yn fwy Beiblaidd na be dwi’n ei wisgo.)

Ar ôl ei bregeth roedd galwad ganddo i weddi. Roedd hwn yn wahanol i’r arfer gan ei fod am gyfnod o funudau yn gofyn i bobl yn y gynulleidfa i ystyried eu cyflwr a’u hangen. E.e. Oes rhywun yn teimlo yn isel? Oes rhywun eisiau gwedd0239o dros rhywun sy’n sâl a.y.b. Os oeddent am i aelod o’r tîm gweddi i ddod atynt roeddent i godi eu llaw. Rhaid i mi ddweud fod hwn yn rhywbeth trawiadol a hyfryd.
Dau beth
- Rhaid i mi ddweud i mi gael bendith. Pe bawn yn berson ifanc yng Nghaerdydd, byddai’r arddull hwn yn ddeniadol i mi wrth ystyried Cristnogaeth ac addoli’r Arglwydd.
- Rhaid inni fel eglwysi Cymraeg feithrin arweinyddion ifanc nawr a’u rhyddhau i fod yn geffylau blaen yn ein cynulleidfaoedd.
Sgyrsiau
Ar ddydd Mawrth fe gefais sgwrs ddifyr gyda Gwynedd yn y Bont-faen. Nid oeddwn erioed wedi ei gyfarfod o’r blaen ond roeddwn wedi clywed amdano gan Arfon Jones a bu yn pregethu’n Ebeneser yn ddiweddar. Anogodd Petra Bennett i mi gysylltu hefo fo.
Yn ystod ein trafodaeth buom i nifer o gyfeiriadau gwahanol. Mae Gwynedd wedi bod ynglŷn â chefnogi gwaith Cristnogol yng Nghymru a thu hwnt ers blynyddoedd. Mae wedi bod yn annog a chefnogi gweinidogaethau a gweinidogion a hefyd yn helpu i sefydlu cynulleidfaoedd newydd. Y mae ynghlwm wrth eglwys Beacon yn Llaneirwg, Caerdydd ac yn ddiweddar y maent wedi plannu eglwys yn y Bont-faen, Bro Morgannwg. Cychwynnodd y gwaith yn nhafarn y Duke rhyw flwyddyn yn ôl (2022) yng nghanol y dref ond nawr maent yn cynnal eu gweithgareddau yn neuadd y dref. Y mae’r gwaith hwn yn gysylltiedig ag eglwysi Elim. (Mudiad Pentecostalaidd a gychwynnwyd gan Gymro o Faesteg yn Belfast.)
Mae Gwynedd wedi sefydlu sianel ar Youtube er mwyn hyrwyddo Cristnogaeth a gwaith efengylu sef “What is God doing in Wales?” Y mae’n bwriadu rhoi recordiadau yn gyson o gyfweliadau gyda phobl sy’n rhannu’r newyddion da Cristnogol ac yn arloesi yn y gwaith o blannu eglwysi.
Un o bwysleisiau amlwg Gwynedd oedd ei bod yn angenrheidiol i ni fod yn agored fel eglwysi i lais ac arweiniad yr Ysbryd Glân. Ac o deimlo yr arweiniad hwnnw ein bod yn gweithredu ar fyrder. Cyfeiriodd at enghreifftiau o hyn yn digwydd yn Llyfr yr Actau gyda’r Apostolion.
Diolch Gwynedd
Braf oedd cael sgwrs hefyd gyda Rhodri Darcey sy’n Swyddog Hyrwyddo a Chyfathrebu Undeb yr Annibynwyr Cymraeg. Mae Rhodri tros y blynyddoedd wedi gwneud gwaith arloesol trwy baratoi fideos a chyflwyniadau sain uchel eu safon er mwyn hyrwyddo gwaith y Deyrnas trwy gyfrwng y Gymraeg. Ef oedd yn gyfrifol am gynhyrch cyfres ardderchog Y Ffordd sydd ar gael ar wefan Undeb yr Annibynwyr.
Yn ystod ein trafodaeth fe aethom i gymaint o gyfeiriadau, yn cynnwys:
- Y Traddodiad Ymneilltuol
- Pam fod y traddodiad Ymneilltuol Cymraeg wedi datblygu yn unffurf trwy yr holl enwadau. Mae’r dull o addoli wedi bod yn union yr un fath yn y rhan fwyaf o gapeli ers canrif. Pam nad oedd ac nac oes rhagor o amrywiaeth? Buom yn siarad am y fideo ymddangosodd dros yr haf gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru oedd yn rhoi hanes adnewyddiad ysbrydol ddigwyddodd ymhlith pobl ifanc ym Mhen Llŷn hanner can mlynedd yn ôl.
Fe ymddengys fod canran uchel o eglwysi wedi methu addasu i’r adnewyddiad hwn gan ei fabwysiadu a’i ddatblygu gan aros yn hytrach yn eu rhigolau. Camgymeriad dybryd. Dechreuodd Arfon Wyn (efallai bod eraill hefyd) ganu caneuon Cristnogol gyda’i guitar a sefydlwyd y band Cristnogol Yr Atgyfodiad. Ond arhosodd yr arddull yn yr eglwysi yr un fath. Mae’n rhaid inni gydnabod bellach nad yw ein diwylliant Ymneilltuol yn berthnasol i’r rhan fwyaf o Gymry cyfoes.
- Deunydd digidol
- Trafodwyd hefyd y defnydd o’r cyfryngau digidol yn ein tystiolaeth Gristnogol – fel y mae Undeb yr Annibynwyr yn ei wneud. Meddyliwyd beth oedd yw yr angen nawr. Ystyriwyd y posibilrwydd i gynnwys tystiolaeth bersonol ar ffurf fideo a hefyd y Prosiect cerddorol sydd gan yr Undeb fydd yn dechrau yn fuan.
- Sut mae tyfu eglwys?
- Her anferthol inni ar hyn o bryd yw tyfu ein heglwysi. Maent ar y cyfan yn crebachu. Sut mae gwneud iddynt dyfu? Mae elfennau sydd yn gwbl amlwg fel gweddi gyson, astudio’r Beibl, aeddfedu yn ysbrydol a cenhadu trwy rannu’r newyddion da gyda phobl y tu allan i gylchoedd Cristnogol. Ond rhaid gwneud hyn yn ogystal â phontio yn ymarferol gyda’n cymunedau trwy wasanaethu a dangos cariad Duw trwy waith dyngarol. Hefyd mae angen defnyddio cynlluniau fel Alffa sy’n rhoi cyfle i bobl drafod sylfeini Cristnogaeth.
Diolch Rhodri.
Hen Gapel Llanuwchllyn
Diolch o galon i Ifan Alun Puw am ddanfon gwybodaeth i mi am drefniadaeth eglwysig yr Hen Gapel. Roedd ac y mae yn drefn gwahanol i fyrdd o eglwysi eraill gan ei fod yn cynnwys un capel mawr canolog a nifer o ysgoldai/ canghennau. Eto fe’i hystyrir yn un eglwys.
Cwestiwn yr wythnos (gen i)
Pam fod y pregethwyr yn y 3 eglwys dwi wedi bod ynddy nhw yn dal y meic yn eu llaw trwy gydol y bregeth? : )
Darllen
Darllenais y Llythyr at y Galatiaid trwyddo mewn un eisteddiad. Mae’n werth gwneud hyn yn gyson gyda’r Beibl yn hytrach nag adnod neu baragraff ar y tro, er mwyn cael y rhediad meddwl.
God has a dream. A vision of Hope For Our Time, (Clays Limited, 2005), Desmond Tutu.
Pridd, (Gwasg y Bwthyn, 2022), Llŷr Titus.
Y Cristion, Medi/Hydref 2023
Darllen pytiau o
Grace, Grit and Gumption, The Exploits of Evangelists John Pugh, Frank and Seth Joshua, (Christian Focus, 2000), Geraint Fielder.
Gwefannau a Fideos. Cadw’r gwenith a chwalu’r us.
Erthygl am y Canon Gareth Iwan sy’n gynhyrchydd ar Radio Cymru
https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/erthyglau/c97nw2j2y27o
Hon yn wefan yn llawn gwybodaeth a sylwadau am ddiwylliannau a mwy yn fyd-eang. https://www.yoair.com/blog/
Gwefan Holy Trinity Brompton
Gwefan Citizen
https://www.citizenchurch.org.uk/
Paganeiddio – erthygl heriol iawn am gyflwr cymdeithas
Ai dydd yr Arglwydd yw’r Saboth Cristnogol?

Gadael sylw