Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Dyfyniadau

John Penri

“Yr ydwyf yn gadael llwyddiant fy llafur i’r cyfryw o’m cyd-genedl a’m cyd-wladwyr a gyfyd yr Arglwydd ar fy ôl, i gwblhau y gwaith a ddechreuais, o alw fy nghyd-genedl a’m cyd-wladwyr i adnabyddiaeth o fendigedig efengyl Iesu Grist.”

Geiriau olaf John Penri cyn iddo gael ei ddienyddio yn 34 oed yn Llundain am 5.00 y.p., 29ain Mai, 1593.

Perthnasol

Yr Ysbryd Glân sy’n gwneud Iesu Grist yn berthnasol. Crea gyswllt rhwng dynion ac Iesu Grist.

R Tudur Jones 

Yr Arglwydd Iesu

Yr Arglwydd Iesu yn marw i brynu.

Yr Arglwydd Iesu yn prynu i buro.

Yr Arglwydd Iesu yn puro i gadw.

Yr Arglwydd Iesu yn cadw i ddefnyddio.

(Pennau un o bregethau D.J. Lewis, “Lewis Tymbl”.)

Tröedigaeth

“In the evening I went very unwillingly to a society in Aldersgate Street, where one was reading Luther’s preface to the Epistle to the Romans. About a quarter before nine, while he was describing the change which God works in the heart through faith in Christ, I felt my heart strangely warmed. I felt I did trust in Christ, Christ alone, for salvation; and an assurance was given me that He had taken away my sins, even mine, and saved me from the law of sin and death.”

John Wesley

Hen Ddihenydd

“Un o enwau y Duwdod mawr yw yr “Hen ddihenydd,” (Dan. vii. 9,13), yr hyn a arwydda sefydlog, parhaus, arhosol &c. Y mae yr enw yn addas i breswylydd tragwyddoldeb. Ni bu erioed yn ieuanc, ac nid a byth yn hên. Y mae efe y fynyd hon yr hyn oedd erioed, a’r hyn fydd byth. Nid yw ei ddyddiau ef fel dyddiau dyn, na’i flynyddau fel dyddiau gŵr. (Job x. 5) Am ei fod yn sefydlog ddigyfnewid yn ei hanfod, y mae felly hefyd yn ei holl briodoliaethau, yn ei gynghor, yn ei arfaeth, yn ei orsedd-fainc, ei awdurdod, a’i lywodraeth.”

Thomas Charles, Bala.

Bedd John Calvin

“They did not realize what a simple life Calvin habitually lived. Humility and self-denial were his daily disciplines. He lived modestly, in a small, borrowed apartment, with only the most rudimentary furnishings. He persistently refused salary increases. His writings showed a heart overwhelmed with God’s grace in saving such a sinner as he. When he died, by his will he was buried at night in an unmarked tomb, so that his monument might not become a shrine for idolatrous pilgrims to venerate. Calvin lived out Paul’s example, “If we have food and clothing, with these we will be content” (1 Tim. 6:8).”

The Power of Christian Contentment gan Andrew Davis, tud. 105.

Caru

“To love at all is to be vulnerable. Love anything and your heart will be wrung and possibly broken. If you want to be sure of keeping it intact, you must give your heart to no one, not even to an animal. Wrap it carefully round with hobbies and little luxuries; avoid all entanglements; lock it up safe in the casket or coffin of your selfishness. But in that casket – safe, dark, motionless, airless – it will change. It will not be broken; it will become unbreakable, impenetrable, irredeemable.”

C.S. Lewis, The Four Loves, 121

Cyfaill

“Y mae genyf gyfaill a lŷn yn well na brawd. Crist yw fy oll yn oll. Yn undeb anwyl Iesu, yr wyf yn medru llawenhau â llawenydd annhraethadwy a gogoneddus. Er fy mod yn y byd, yr wyf wedi dysgu byw uwchlaw y byd. Yn y byd yr wyf yn aros hyd yma, ond yn y nefoedd yr wyf yn byw. Nid wyf yn sicrach o ddim, na fy mod yn byw yn Nghrist, – yn byw ar Grist, – yn byw dros Grist, – yn byw gyda Christ, – yn byw i Grist, – ac yn etifedd tragywyddol bwys gogoniant.”

Lewis Rees (1710 – 1800), Cofiant Lewis Rees, tud. 33.

Adnewyddiad

“It is entirely His prerogative how He chooses to lead people to Himself. The task of scattered servants is not to question how God moves but to move with Him as He moves. The way we think God should move must not interfere with the way He is actually moving. Our role is to pursue Him in what He is already doing, not convince Him of the merits of what we have been doing.”

Alan Scott

Y Drindod

“Dyletswydd plant Duw yw rhoddi i’r Tad, y Mab, a’r Ysbryd Glân eu priodol ogoniant. I’r Tad….am ei gariad yn ethol; i’r Mab am gymryd arno y natur ddynol a rhoi ei fywyd yn bridwerth dros laweroedd; ac i’r Ysbryd Glân am ddychwelyd, sancteiddio, diddanu, a nerthu eu heneidiau.”

Dr. George Lewis

A dderbyniasoch?

“Nid yw’n amhriodol gofyn cwestiwn yr Apostol i Gristnogion yr ugeinfed ganrif, “A dderbyniasoch chwi yr Ysbryd Glân er pan gredasoch?” Yng Nghymru bu tuedd amlwg i anghofio pwysigrwydd gwaith yr Ysbryd. Ambell dro cymerwn yn ganiataol fod popeth a wneir yn unol â rheolau sefydlog ein henwad neu ein heglwys yn gyfan gwbl ac yn ddi-os o dan fendith yr Ysbryd Glân. Dro arall, cymerir yn ganiataol fod rhyw gynnwrf teimladol crefyddol neu naws bach hyfryd mewn oedfa yn brofion diymwad fod yr Ysbryd Glân yn bresennol.

Ond y peth gwaelodol yw nid fod yr Ysbryd Glân yn enw arall ar ein gweithredoedd neu’n teimladau ni ond ei fod yn hytrach yn Dduw gyda ni.”

R Tudur Jones

Yr Ysbryd yn sancteiddio

“Ei waith Ef yw aileni’r pechadur, a’i sancteiddio; ei arwain trwy’r anialwch nes cyrraedd ei ogoniant yn berffaith ar ddelw Duw. Dyma’r gwaith mawr a phenodol a briodolir i’r Ysbryd Glân yn yr Ysgrythura.”

David Jones, Treborth

Yr Ysbryd Glân

Ar ôl esgyniad Iesu, gorchmynnwyd y disgyblion i aros yn Jerwsalem a “disgwyl yr hyn a addawodd y Tad.” ….Yn Actau 1 disgwyl gobeithiol ydyw. …Mae disgwyl gobeithiol yn beth creadigol ac yn beth angenrheidiol yn y byd ysbrydol. Ein perygl ni yw llithro i’r serthedd ysbryd a droes yn siniciaeth nad yw’n disgwyl dim. Ceir pobl yn mynd i’r oedfa yng ngrym arfer heb ddisgwyl unrhyw gynnwrf na gwefr. Gŵyr pobl, mewn ffordd annelwig, fod yr Ysbryd Glân wedi peri cynyrfiadau enfawr yng Nghymru yn y gorffennol, ond nid ydynt yn disgwyl gweld dim byd tebyg yn digwydd yn ein hoes ni.

R. Tudur Jones

Mynd i gwrdd â gofidiau?

“When Lincoln was on his way to Washington to be inaugurated, he spent some time in New York with Horace Greeley and told him and anecdote which was meant to be ân answer to the question which everybody was asking him: Ar we really to have Civil War? In his circuit-riding days Lincoln and his companions, riding to the next session of court, had crossed many swollen rivers. But Fox River was still ahead of them; and they said one to another,” If these streams give us so much trouble, how shall we get over the Fox River?”

When darkness fell, they stopped for the night at a log tavern, where they fell in with the Methodist presiding elder of the district who rode through the conuntry in all kinds of weather and knew all about the Fox River. They gathered about him and asked him about the present state of the river. “Oh yes,” replied the circuit rider, “I know all about the Fox River. I have crossed it often and understand it well. But I have one fixed rule with regard to the Fox River – I never cross it till I reach it.”

Clarence Macartney, McCartney’s Illustrations, (Nashville: Abingdon, 19145) t.415.

Aberth Iesu – Mae’n bersonol

“Cofia, fy enaid, mai dy bechod di fu, mewn ystyriaeth, yn ei werthu a’i fradychu. Cofia mai dy bechod di fu yn fflangellu ei gefn sanctaidd: dy bechod di ddarfu gymysgu y cwpan chwerw iddo; dy bechod di berodd iddo chwysu megys dafnau o waed, a bod yn drist ei enaid hyd angau; dy bechod di fu yn gyrru y goron ddrain yn ei ben santaidd; dy bechod di ddarfu guddio gwedd wyneb ei Dad oddiwrtho; dy bechod di a’i gwawdiodd, ac a boerodd yn ei wyneb hardd; dy bechod di fu’n gyrru yr hoelion yn ei draed a’i ddwylaw ar Galfaria; ie, dy bechod di fu’n gyrru’r hoelion yn ei draed a’i ddwylaw ar Galfaria; ie, dy bechod di drywanodd ei ystlys â gwaywffon, hyd nes daeth allan ddwfr a gwaed. O, fy enaid, a geri di bechod, a chofio am y driniaeth a gafodd Crist, dy briod, tua Golgotha?”

Allan o bregeth gan Azariah Shadrach, Cangen o Rawn Camphir (Caerfyrddin, 1832, t.38-39)

Cyfamod Dafydd Cadwaladr (1752 – 1834)

Myfi, Dafydd Cadwaladr, wyf y dydd hwn yn rhoddi fy hun i fod yn eiddo i’r Arglwydd dros byth. Yr wyf yn rhoddi fy enaid iddo i’w gadw a’i lywodraethu, fy nghorff yn aberth iddo, fy nghalon i’w garu, fy nhafod i’w glodfori, fy amser i’w wasanaethu, fy aelodau yn arfau cyfiawnder iddo.

Yn ei berson mi gredaf, yn ei waed mi ymolchaf, yn ei ras mi ymnerthaf, yn ei Air mi fyfyriaf, ar ei ogoniant mi edrychaf, ar ei fynwes mi bwysaf, ar ei orchymynion mi rodiaf, yn erbyn pechod mi ryfelaf, dan y groes mi weddïaf.

Fel yn yr wyf yn bwriadu byw i Dduw ac ymddiried yn ei ddaioni Ef, yn unig am nerth a gras i gadw fy addunedau, a rhag i mi byth alw fy ngeiriau yn ôl. Duw Tad Mab ac Ysbryd angylion y nef a Chythreuliaid uffern a nghydwybod fy hun gaiff fod yn dystion ar fy nghyfamod.

Cadw fi o Dduw rhag pob math o ryfyg a chyfeiliornad a chadw fi bob amser yn agos atat.

BENDITH ARNAF

O.N. Dafydd Cadwaladr oedd tad yr enwog Betsi Cadwaladr (Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru), cyfaill mawr i Thomas Charles o’r Bala a chynghorwr gyda’r Methodistiaid Calfinaidd.



2 ymateb i “Dyfyniadau”

Gadael sylw