Cofiaf ymweld rai blynyddoedd yn ôl gydag Amgueddfa y Louvre ym Mharis sy’n llawn o drysorau amhrisiadwy. Yn eu plith y mae un o ddarluniau enwog yr athrylith Leonardo da Vinci sef y Mona Lisa. Am ryw reswm mae’r darlun hwn – sydd ychydig mwy na stamp ail ddosbarth! – yn creu cyfaredd torfol ymhlith yr ymwelwyr. Pan euthum i yno roedd cannoedd o bobl wedi tyrru o flaen y darlun olew wedi gwirioni ar y gwrthrych ac yn tynnu lluniau di-rifedi.
Onid ydym fel dynoliaeth yn reddfol yn hoffi edrych ar bethau hardd a chain ac yn barod i dreulio amser yn myfyrio arnynt a’u dadansoddi. Dyma pam fod y National Gallery yn Llundain mor boblogaidd. Yn 2019 fe ymwelodd 6 miliwn o bobl â’r oriel hon. Gostyngodd y cyfanswm hwn i 3.3 miliwn yn 2022 o ganlyniad i effeithiau Covid-19. Ond mae hynny fel petai holl boblogaeth Cymru yn mynd i mewn i’r oriel.
Mae Salm 96 yn fynegiant o addoliad sy’n myfyrio ar harddwch yr Arglwydd. Ynddi mae brawddegau cofiadwy fel “Gogoniant a harddwch sydd o’i flaen ef; nerth a hyfrydwch sydd yn ei gysegr,” ac “Addolwch yr Arglwydd mewn prydferthwch sancteiddrwydd:”
Mae Duw yn brydferth a hardd ac y mae hyn yn gyfareddol i ni ac wrth agor ein meddyliau i’w harddwch cawn ein hysgogi i wneud 3 pheth, sef ei addoli, bod yn debyg iddo ac i’w wasanaethu.
Nid yw hyn yn dod yn fwy i’r amlwg yn unman nac yn yr Efengylau sy’n disgrifio yn ddigon syml hanes yr Iesu. Mae’r Iesu yn berson hardd. Darllenwch y tri hanes yn Efengyl Marc pennod 6 adnodau 30 – 56 sy’n adrodd am borthi’r pum mil, cerdded ar y dŵr ac iachau’r cleifion yn Genesaret. Myfyriwch ar y geiriau hyn yn bwyllog gan ganolbwyntio ar Iesu, ei ymddygiad, ei natur a’i ymateb i’r bobl a ddaw i gysylltiad â hwy.
Yma gwelwn harddwch rhyfeddol ei berson – nid yn ei bryd a’i wedd – ond ei natur unigryw. Yn y tri hanes gwelwn ei ofal tros ei ddisgyblion, ei drugaredd tuag at bobl oedd yn ei ddilyn a’i gariad tuag at y cleifion. Gwelwn ei ddwyfoldeb yn dod i’r amlwg yn ei wyrthiau o amlhau y bara a’r pysgod, trwy dawelu’r môr brochiog a thrwy iachau cleifion. Ynddo Ef y mae prydferthwch dynol yn llewyrch. Iesu yw’r unig berson cyflawn sydd wedi troedio’r ddaer, yr unig berson sydd yn ymddwyn fel y bwriadodd Duw i bawb ohonom ymddwyn. Yr unig berson perffaith.
Ac wrth fyfyrio ar ei harddwch mae addoliad yn cyniwair yn ein calon ac awydd i fod yn debyg iddo ac awydd i’w wasanaethu. Myfyriwch ar harddwch yr Arglwydd.
Mae’r Iesu’n fwy na’i roddion,
mae ef yn fwy na’i ras,
yn fwy na’i holl weithredoedd
o fewn ac o’r tu faes;
pob ffydd a dawn a phurdeb,
mi lefa’ amdanynt hwy,
ond arno’i hun yn wastad
edrycha’ i’n llawer mwy.
Gweld wyneb fy Anwylyd
wna i’m henaid lawenhau
drwy’r cwbwl ges i eto
neu fyth gaf ei fwynhau;
pan elont hwy yn eisiau,
pan byddaf fi yn drist
tra caffwyf weled
wyneb siriolaf Iesu Grist?
WILLIAM WILLIAMS, 1717-91

Gadael sylw