Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Dilyn Llinyn 5 – Mynwent Bunhill, Llundain

Mynwent yr Esgyrn

Roedd Azariah Shadrach (1774 – 1844) oedd yn wreiddiol o Garndeifo-fach, Llanfair Nant y Gof, Sir Benfro yn dipyn o gymeriad. Gŵr ydoedd a garai ei Waredwr ac a oedd yn llawn brwdfrydedd i rannu’r newyddion da gyda’i gyd-ddyn. Efengylydd oedd, wrth reddf, ymhlith nifer o rai eraill yn ei gyfnod a bregethai yn aml yn yr awyr agored, a wynebai erledigaeth yn gyson ac a blannodd eglwysi. (Effesiaid 4: 11) Roedd rhywbeth amrwd enillgar, gwerinol ac agos at y pridd yn nodweddion ohono. Caf yr argraff nad oedd cwrteisi a lledneisrwydd yn flaenoriaeth i’r criw yma ar ddechrau’r 19eg ganrif, cyn cyfnod y parchuso Fictorianaidd yn ddiweddarach. Plannwyd eglwysi gan Azariah yn Nyffryn Conwy, Talybont ac Aberystwyth gan gynnwys Seion, Stryd y Popty. Heddiw rydym angen i’r Arglwydd ddarparu merched a dynion tebyg i A. Shadrach, Cristnogion gwydn, blaengar ac enillgar sy’n gallu Efengylu’n effeithiol ymhlith y di-gred a’r di-hid.

Bedd John Bunyan
Roeddwn yn darllen y cofiant bychan am Azariah a ysgrifennwyd gan Josiah Jones (1830 – 1915). Bu Josiah am gyfnod yn weinidog ar eglwys Y Graig, Machynlleth. Roedd ei wraig yn or-wyres i Williams, Pantycelyn, ac ef oedd Ysgrifennydd cyntaf Undeb yr Annibynwyr ym 1872. Yn y cofiant fe adroddir hanes od am Azariah yn ymweld â mynwent Bun Hill (Bone Hill oedd yr enw gwreiddiol) yn Llundain pan ar daith bregethu i godi arian tuag at ddyled adeiladu capel yn Aberystwyth. Fe aeth i eistedd yn y fynwent ar yr un pryd ac yr oedd gŵr yn cael ei ordeinio yn weinidog ar eglwys rhywle yng Nghymru. Roedd Azariah yn anghymeradwyo’n fawr fod y gŵr ifanc yn mynd yn fugail ar yr eglwys. Gadawaf i Josiah Jones adrodd ymhellach,

“ond erbyn deg o’r gloch, amser yr oedfa urddiadol, yr oedd wedi ymdynnu at hen gladdfa glodfawr Bunhillfields. Aeth i mewn, ac eisteddodd ar feddfaen ei hen frawd a’i ragflaenor urddasol, John Bunyan. Tra yn eistedd yma, bwytaodd ei damaid, ac arosod yno hyd nes oedd yn barnu fod oedfa yr urddiad yng Nghymru drosodd. Ac wedi eistedd ar feddfaen arch-freuddwydiwr y byd am gymaint o amser, nid rhyfedd iddo yntau ddechrau breuddwydio.” Tud. 76

Felly, pan ar ymweliad â Llundain yn ddiweddar penderfynais y byddwn yn mynd i weld mynwent Bunhill gyda’m llygaid fy hun. Yr union leoliad lle y bu Azariah yn eistedd yn ddigon diridano ar fedd John Bunyan yn bwyta bara a chaws. Mae mynwent Bunhill yn enwog fel mynwent yr Anghydffurfwyr yn Llundain. Daliais y tanddaearol o orsaf Earl’s Court, lle roeddem yn aros, gan deithio ar gledrau’r Piccadilly las i King’s Cross. Yno, dal y Northern ddu gan ddod i ffwrdd yng ngorsaf Old Street. Mae Bunhill rhyw chwarter milltir o’r orsaf hon.  Wrth ddynesu at y fynwent roedd capel a thŷ urddasol ar y llaw chwith. Oedais a darllen bwrdd gwybodaeth oedd wrth law. Hwn oedd cartref y diwygiwr Methodistaidd, John Wesley pan oedd yn Llundain ac yma bellach y mae Amgueddfa Methodistiaeth. Gellir cael rhagor o fanylion ar eu gwefan   www.wesleysheritage.org.uk.

Ymlaen wedyn i Fynwent Bunhill. Teimlwn angenrheidrwydd fel pererin i fynd yn syth at fedd John Bunyan, sy’n lled ganolog yn y fynwent. Roeddwn am dalu gwrogaeth i John Bunyan ei hun. Ac wrth gwrs, cofio fod Azariah Shadrach wedi bwyta ei ginio yno. (Ymataliais rhag y demtasiwn i orwedd ar y bedyddfaen fel y gwnaeth yr hen frawd i fwyta byrbryd.) Ond roedd llawer eto i’w weld yn y fynwent arbennig hon. Fe ddeuwn yn ôl, maes o law, i edrych ar ragor o feddau yn yr erthygl nesaf.

Bedd John Bunyan



2 ymateb i “Dilyn Llinyn 5 – Mynwent Bunhill, Llundain”

  1. Difyr dros ben! Picnic amdani, felly, ar fedd John Bunyan pan gawn ni gyfle! Am ba reswm yr oedd AS yn anghymeradwyo’r urddo tybed? Ydio’n dweud?

    Hoffi

    1. Yn sicr. Ni wn pam ei fod yn anghymeradwyo urddo’r brawd yn ôl yng Nghymru

      Hoffi

Gadael sylw