Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Dilyn Llinyn 4

London Missionary Society a’r Brodyr Wesley

Wrth baratoi gwasanaeth arbennig ar hanes y cenhadon Cymreig aeth i Fadagascar ym 1818 darllenais hanes sefydlu’r London Missionary Society ym 1795. Mudiad cenhadol rhyngenwadol ac arloesol oedd hwn a roddai flaenoriaeth i gyhoeddi Efengyl Iesu Grist gan ymwrthod â chyflwyno ffurf ar Eglwysyddiaeth yn y gwledydd lle roeddent ar waith. (Esblygodd yr LMS yn ddiweddarach i fod yn Gyngor y Genhadaeth Fyd-eang (CWM)) Fel rhan o Egwyddor Sylfaenol Cymdeithas Genhadol Llundain dywedir hyn,

“Na byddai iddynt anfon Henaduriaeth, Anymddibyniaeth, Esgobyddiaeth, nac un dull arall o drefn neu lywodraeth eglwysig, ond anfon Efengyl ogoneddus y bendigedig Dduw; gan ei adael i farn y sawl y rhyngai bodd i Dduw i alw i gymdeithas ei fab ef, y i ddewis iddynt eu hunain y cyfryw drefn a llywodraeth eglwysig a ymddengys iddynt yn fwyaf cytunol â Gair Duw.”

Mae dwy ffynhonnell yn adrodd hanes ychydig yn wahanol am gyfarfyddiad cyntaf yr LMS. Dywed un ffynhonnell y cyfarfu criw o arweinyddion yng Ngwesty’r Castle and Falcon yn Aldergate Street, Llundain. Dywed ffynhonnell arall eu bod wedi cyfarfod yn Nhŷ Coffi Barkers yn Change Lane, yn y City, Llundain.

Edward Williams

Un o hyrwyddwyr blaenaf cychwyniad y genhadaeth dramor oedd y Cymro a’r Annibynnwr, Edward Williams, Rotheram, (1750  – 1813). Hanai’r gŵr hynod hwn o Glanclwyd rhwng Dinbych a Bodfari. Bu’n brifathro Academi’r Annibynwyr yng Nghroesoswallt o 1782 hyd 1791 pryd y derbyniodd alwad i weinidogaethu yn eglwys Carr’s Lane Birmingham. Symudodd ym 1795 i gymryd gofal Academi’r Annibynwyr yn Rotheram.  Ef hefyd oedd golygydd cyntaf yr Evangelical Magazine ac yn y cyd-destun hwn y cafodd gyfle i fod â rhan yn sefydlu Cymdeithas Genhadol Llundain (LMS). Anfonodd lythyr at eglwysi yn Lloegr yn eu gwahodd i ystyried cenhadaeth dramor ac fe gafodd ymateb cadarnhaol a rhai cyfraniadau ariannol hael. O ganlyniad, cynhaliwyd y cyfarfod cyntaf, gyda chriw bychan yn ymgynnull, yn y Castle and Falcon, Aldersgate Road, Llundain. Dewiswyd Edward Williams fel un o’r cyfarwyddwyr cyntaf i’r mudiad newydd.

John a Charles

Roeddwn yn digwydd bod ar ymweliad â Llundain yn ddiweddar ac euthum i’r Museum of London, sydd ar Aldersgate Street, yn gweld arddangosfa am y Suffragetts a’u hymgyrch dros ennill pleidlais i fenywod. Yn yr amgueddfa hon y mae cofeb i John Wesley yn dyfynnu’r geiriau a ysgrifennodd yn sgil ei dröedigaeth pan gredodd yn Iesu fel Gwaredwr. Ar y pryd roedd mewn cyfarfod ar Aldersgate Road yn gwrando ar rywun yn darllen rhagarweiniad Martin Luther i’w Esboniad ar y Llythyr at y Rhufeiniaid. Fel hyn y disgrifiodd J. Wesley’r profiad,

“while he was describing the change which God works in the heart through faith in Christ, I felt my heart strangely warmed. I felt I did trust in Christ, Christ alone for salvation; and an assurance was given me that He had taken away my sins, even mine, and saved me from the law of sin and death.”

Castle and Falcon

Y drws nesaf i’r amgueddfa mae eglwys St Bodolph’s-without-Alders a thros y ffordd i honno y safai gwesty’r Castle and Falcon – sydd bellach wedi ei ddymchwel – lle y cynhaliwyd cyfarfod cyntaf yr LMS. (Yno hefyd y byddai’r Arglwyddes Huntington yn cynnull nifer o arweinyddion Methodistaidd at ei gilydd.) Yn gyfochrog a St. Budolph mae stryd fechan o’r enw Little Britain. (Ie, nid oes dim newydd dan haul wrth feddwl y bu cyfres deledu o’r un enw.) Ar un o’r adeiladau yn Little Britain y mae plac glas yn dynodi man tröedigaeth Charles Wesley. Yno y safai cartref John Bray lle y dywedir fod Charles wedi dod trwy fwlch yr argyhoeddiad a rhoi ei fywyd i’r Iesu ar Fai 21 Mai 1738. Ysgrifennodd ef nifer o emynau Saesneg ardderchog gan gynnwys hwn,

And can it be that I should gain
An int’rest in the Savior’s blood?
Died He for me, who caused His pain?
For me, who Him to death pursued?
Amazing love! how can it be
That Thou, my God, should die for me?  

Mae gwefr i’w gael wrth droedio, ganrifoedd yn ddiweddarach, yr un tir ac y rhodiodd rhai o arwyr ein ffydd. Yno ar Aldersgate Road, Llundain, un tro cerddodd, Edward Williams, Rotherham, yr Arglwyddes Huntington, John a Charles Wesley. Ac yno yr oeddwn innau yn cerdded yr un llwybrau.  Mewn lleoliadau o fewn canllath i’w gilydd fe weithiodd yr Ysbryd Glân yn rymus gan gychwyn Cymdeithas Genhadol Llundain – a wnaeth waith mawr ar hyd a lled y byd – ac argyhoeddi dau frawd o wirionedd Cristnogaeth, dau a gafodd ddylanwad trwm ar hanes Cristnogaeth yn enwedig yn Lloegr. Peth difyr iawn yw dilyn llinyn i’w ben. Y tro nesaf fe ddilynwn linyn arall fydd yn ein harwain i fynwent yn Llundain.



Un ymateb i “Dilyn Llinyn 4”

  1. Difyr dros ben!

    Hoffi

Gadael sylw