Wrth greu’r blog hwn dwi’n gorfod brwydro yn erbyn y teimlad yn fy nghalon mai rhywbeth eithriadol o hunandybus yw gwneud hyn. Nid fy mwriad yw rhoi’r argraff fy mod i neu fy marn yn bwysig, yn well neu yn fwy sylweddol nac unrhyw un arall. Ond credaf mai rhan o’n braint fel Cristnogion yw annog a herio ein gilydd yn y ffydd gan ennyn tân yn ein calonnau dros waith Iesu Grist yn g Nghymru.
Pan gychwynnais ar fy ngwaith ymchwil yng Ngholeg Bala-Bangor ym 1983 o dan diwtoriaeth fy nhad y Parch. Dr. R Tudur Jones, dywedodd ddau beth ymarferol wrthyf sef; “Ysgrifenna grynodeb o beth rwyt yn bwriadu ei wneud yn y traethawd ymchwil mewn 80 gair!” (Yn y diwedd roedd yr ymchwil yn cynnwys 100 mil o eiriau testun a 60 mil o eiriau troed y ddalen.) Yn ail, “ysgrifenna rhywbeth pob dydd. Diom bwys beth. Ond sgwenna yn ddyddiol.” Bwriad y cyngor ganddo oedd creu hunanddisgyblaeth a chreadigrwydd. Tros y blynyddoedd dwi wedi sgwennu “doman” (ys dywed Dyl Mei) ac ychydig iawn sydd wedi gweld golau dydd. Byddaf yn rhoi peth o gynnyrch y blynyddoedd yn Sabothal.blog
Wythnosol
Os Duw a’i mynn, yn ystod y tri mis nesaf dwi am sgwennu crynodeb brysiog wythnosol o’r prif bethau sy wedi digwydd yng nghyd-destun y cyfnod Sabothol. Y cyfan a wnaf yw lluchio’r prif bethau at ei gilydd yn frysiog. Yna yn y trydydd mis, gobeithiaf allu rhannu’r us oddi wrth y gwenith gan greu erthygl fer fydd yn ffrwyth yr ymchwil.
Felly dyma ni’r hyn sydd wedi digwydd yn ystod yr wythnos hon 3 – 8 Medi.
Sul 3 Medi
Nesh i ymweld ag eglwys Redeemer yn Sblot, Caerdydd, er mwyn addoli’r Arglwydd a gweld beth oedd yn digwydd yno. Cynulleidfa Annibynnol Fedyddiedig yw hon a blannwyd oddeutu 2017 gan Dai Hankey. Mae o yn symud ymlaen i blannu cynulleidfa arall dros y cledrau yn Waun Adda (Adamsdown) (Gellir darllen blog diddorol gan D. Hankey, mae’r ddolen isod.) Saesneg oedd cyfrwng yr addoliad gyda gŵr ifanc yn arwain y canu gyda’i guitar. Pregethwyd yn glir ac effeithiol gan Nash, un o henuriaid yr eglwys o’r drydedd bennod o Lyfr y Diarhebion. Roedd 26 o addolwyr yno o amrywiol genhedloedd.
Sgyrsiau
Sgwrs fuddiol gydag Arfon Jones er mwyn rhwydweithio, gweddïo a thrafod syniadau.
Sgwrs gyda Gwilym ac Alice Jeffs, rhai o arweinwyr Angor Grangetown er mwyn rhwydweithio, trafod datblygiadau a’u holi am bobl eraill y gallwn gysylltu gyda hwy. Mae Ebeneser yn noddi’r ddau ohonynt i fynd ar gyrsiau Derwen. Wedi cael llawer o enwau a chysylltiadau newydd. Mor falch fod Gwilym yn cryfhau ar ôl y salwch difrifol a gafodd yn ystod mis Awst. Diolch Arglwydd.
Dydd Mercher cefais goffi gyda dau o henuriaid eglwys Redeemer er mwyn holi eu perfedd am yr hyn sy’n digwydd yno. Maent yn bobl hoffus gyda ffydd gadarn, gweledigaeth ac egni heintus i gyflawni’r gwaith o ddod a theyrnas Dduw i ardal Sblot. Wrth siarad deuthum yn ymwybodol iawn – unwaith eto – mai ychydig a ŵyr llawer o Gristnogion Saesneg eu hiaith am y Gymru Gymraeg heb sôn am eglwysi cyfrwng Cymraeg. Gwyddant ychydig am y diwygiadau Cristnogol fu yma dros y canrifoedd ond maent yn byw mewn dimensiwn bur wahanol i mi, ond gyda’r un Arglwydd yn Frenin arnynt.
Sgwrs ar y ffôn ddydd Iau gydag Ifan Alun Puw sy’n weithgar iawn gyda gwaith yr eglwysi yng nghyffiniau Llanuwchllyn. Roeddwn eisiau trafod gydag ef un peth yn benodol sef patrwm anarferol eglwys Yr Hen Gapel yn Llanuwchllyn. Un eglwys ydyw ond gyda nifer o ganghennau/ysgoldai yn y fro. (Roedd gan Hen Gapel Llanbrynmair drefniant tebyg a hefyd yn ôl Ifan Ebeneser Dinas Mawddwy.) Tybed a oedd eglwysi eraill gyda changhennau/ Ysgoldai? Rhowch wybod i mi. Caf gyfle i sôn mwy am hyn yn y dyfodol. Diolch o galon i Ifan am roi amser i mi ei holi.
06/09 Dathlu 37 mlynedd a fywyd priodasol
Cwestiwn yr Wythnos
Gofynnwyd i mi, yn ystod yr wythnos, yr hen gwestiwn oesol dwi wedi ei glywed cymaint o weithiau. “Why do you hold your meetings in Welsh, would’nt it be better to work in English the “lingua franka? More people would understand.”
Waaaaa! Fe ysgrifennaf bwt yr wythnos nesaf yn rhannu’r ateb grasol a roddais ynghyd ag ychwanegiadau buddiol! O leiaf wrth fynd yn hŷn gallaf ymateb yn fwy synhwyrol na phan oeddwn i’n iau.
Llyfrau
A Line to Kill – Anthony Horowitz. Gorffen darllen hwn. Darllen ysgafn digon difyr. Nofel dditectif ychydig yn wahanol gan fod yr awdur yn rhan o’r stori.
Darllen ychydig bytiau o:
Cofiant y Parch John Roberts, Llanbrynmair gan David Rees a John Thomas (Llanelli, 1837)
Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, Cyfrol 1, Rees a Thomas (Liverpool, 1871, Argraffwyd yn swyddfa y “Tyst Cymreig) Tudalennau 234 – 258 lle y cyfeirir at hanes sefydlu achos yr Annibynwyr yn Llanbrynmair.
J.R. Conwy gan R. Tudur Jones, (Darlith a gyhoeddwyd gan y Caernarvonshire Historical Society, 1960)
Hanes Annibynwyr Cymru, R. Tudur Jones, (Abertwe, 1966) Darllen y pennodau agoriadol sy’n cyfeirio at gychwyniadau yr eglwysi annibynnol yng Nghymru.
Yn gynt yn y flwyddyn cefais lungopi gan y diweddar Dr. R. Alun Evans, o gyfrol oedd yn cynnwys peth o hanes ysgoldai Hen Gapel, Llanbrynmair. Roeddwn yn darllen y rhain yn ystod wythnos ei angladd yng nghapel Bethlehem, Gwaelod-y-garth. Diolch i Dduw amdano a’i gyfraniad.
Blogiau a Fideos – Cadw’r gwenith, chwalu’r us.
https://20schemesequip.com/multi_author/dai-hankey/ Blog Dai Hankey
Caeth i’r cyfryngau? Gair i gall
https://www.desiringgod.org/articles/digital-resistance
Pob aelod yn weinidog!
https://founders.org/articles/is-ministry-in-the-church-only-the-duty-of-the-pastor/?utm_source=substack&utm_medium=email

Gadael sylw