Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Sabothal

Reit. Dwi wedi cael fy rhyddhau am 3 mis gan aelodau hael Ebeneser, Caerdydd, o’m holl gyfrifoldebau ar wahân i angladdau. Diolch i Ebeneser am eu caredigrwydd tuag ataf ac am  feddylgarwch y criw arbennig o ddiaconiaid sydd gennym yn yr eglwys. Gwerthfawrogaf hefyd nawdd Undeb yr Annibynnwr Cymraeg ac am iddyn fy rhyddhau o’r gwaith wythnosol o fod yn Brif Olygydd y Tyst.

Ond, dwi ddim am wag swmera a threulio’r ddeufis cyntaf yn gwneud dim ond gwylio Cwpan Rygbi’r Byd gydag IPA. Yn hytrach dwi am fynd ar ôl rhywbeth dwi’n gredu sy angen ei wneud, sef meddwl am ddyfodol y dystiolaeth Gristnogol yng Nghymru.

Felly, yr hyn dwi’n fwriadu ei wneud yw treulio amser yn myfyrio ac ymchwilio i ddau faes penodol, sy wedi bod yn chwilen yn fy mhen ers blynyddoedd, sef tyfiant eglwysig a phlannu cynulleidfaoedd Cymraeg newydd. Roedd y ddeubeth, mewn cyd-destun cwbl wahanol, yn rhan o fy nhraethawd Doethuriaeth, sy’n dwyn y teitl “O’r Sect i’r Enwad – Datblygiad Enwadau Ymneilltuol Cymru 1840 – 70.” Yn y traethawd hwnnw roeddwn yn astudio llwyddiant a thwf yr eglwysi Ymneilltuol Cymraeg yn ystod y 19eg ganrif mewn cyd-destun hanesyddol, Beiblaidd, cymdeithasegol ac ysbrydol. Plannwyd toreth o gynulleidfaoedd newydd, adeiladwyd gormodedd o gapeli ac am gyfnod o dros 100 mlynedd bu’r twf yn rhyfeddol. Cysyllta os y bysa ti’n hoffi cael copi PDF o’r traethawd.

Pennod Arall

Rŵan, dwi’n gweinidogaethu’n bell ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw o dwf ac yn dyst, fel pawb ohonom, i’r dirywiad ysbrydol mawr. Ond sut yda ni fel Cristnogion am ymateb i’r hyn sy’n digwydd? Sut mae’r Ysbryd yn arwain? Bedi’r cynllun? Bedi’r syniadau a’r weledigaeth? Hanes rhai yw rhoi’r ffidil ddiarhebol yn y galeri gan ddweud nid yn unig “fod Duw ar drai ar orwel pell”, ond ei fod wedi peidio â bod. Ar ben hynny Ei fod yn gwbl amherthnasol i Gymru fydd. Rhydd i bawb ei farn, yn sicr. Ond, nid yw’r Arglwydd wedi gorffen gyda Chymru na Chymry. Daeth diwedd pennod yn hanes Ymneilltuaeth Gymraeg, ond nid hon yw’r bennod olaf yng nghyfrol ysbrydol ein cenedl. Mae’r gwaith yn parhau o gyhoeddi’r newyddion da am Iesu fel Gwaredwr ac Arglwydd. Mae’r bennod nesaf eisoes yn cael ei hysgrifennu. Daliwch yn dynn yn eich hetiau a’ch gwallt dodi oherwydd  mae Duw ar waith yn ein plith.

Cwestiynau

Byddaf yn gofyn cwestiynau fel, beth yw’r ffordd orau i ymateb i’n sefyllfa fel Cristnogion Cymraeg yng Nghymru heddiw? Beth yw arweiniad y Beibl? Pa gamau sy angen eu cymryd ar fyrder? I ba gyfeiriad y mae’r Ysbryd Glân yn ein harwain? Ble mae’r teuluoedd a’r bobl ifanc? Pam fod rhai eglwysi Saesneg yn tyfu? A oes angen bellach plannu cynulleidfaoedd newydd?  Mae rhai o’r atebion yn amlwg , fel ploryn ar dalcen, ond mae gwir angen myfyrio a meddwl am ein tystiolaeth Gristnogol nawr a gweithredu ar yr arweiniad gawn cyn gynted â phosibl.

Yn yr arfaeth

Bwriadaf wneud o leiaf 3 pheth sef; 1. Cyfweld ac arweinyddion mewn eglwysi newydd sy’n tyfu. 2. Siarad gyda rhai sydd wedi plannu cynulleidfaoedd newydd yn ddiweddar. 3. Darllen llenyddiaeth addas. Ar ddiwedd y cyfnod, os Duw a’i mynn, byddaf yn cyhoeddi fy argraffiadau fel y gall eraill elwa o haelioni Eglwys Ebeneser.

Os bydd fy sylwadau yn y blog hwn ennyn chwilfrydedd ynoch a’ch bod am rannu gweledigaeth, sylwadau, llyfryddiaeth, rhwystredigaethau, strategaethau, gyda mi, gallwch wneud hynny trwy e-bost sabothyddiaeth@gmail.com. Byddwn yn eithriadol o ddiolchgar.

Alun Tudur



Gadael sylw