Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Dilyn Llinyn 3 -Isaac Watts

Mynwent Abney Park, Llundain

Wrth chwilio am fedd Betsi Cadwaladr deuthum ar draws gerflun mawr o’r emynydd Isaac Watts. Awdur degau o emynau Saesneg yn cynnwys,

When I survey the wondrous cross
on which the Prince of glory died,
my richest gain I count but loss,
and pour contempt on all my pride.

Meddyliais fod hynny’n beth rhyfedd, oherwydd fe wyddwn fod ei weddillion wedi eu claddu ym mynwent enwog Bone Hill, Old School,  Llundain. Pam ar wyneb  y ddaear fod cofeb iddo ym mynwent Abney Park? Sylwais ar y map a roddwyd i mi wrth y fynedfa, fod yna leoliad yn y fynwent yn dwyn yr enw “Dr Watts Mount”. Euthum draw yn ddiymdroi i gyfeiriad y bonc yn llawn cywreinrwydd. Wrth ddynesu clywais arogl chwerw, mwg drwg, sydd gwaetha’r modd wedi dod yn brofiad cyffredin erbyn hyn.   Yn eistedd ar bonc Isaac Watts roedd tri pherson, dwy wraig a dyn yn ysmygu reu (pot) yn ddi-hid. Ni throesant flewyn wrth i mi ddynesu atynt.   Gofynnais iddynt a oedd unrhyw wybodaeth wrth law am Isaac Watts. “Isaac who?, meddent yn lled ymwybodol. Cefais gyfle i ddweud wrthynt ei fod yn emynydd o fri ac yn Gristion o argyhoeddiad oedd wedi sgwennu nifer fawr o emynau Saesneg. Dangoswyd ychydig o ddiddordeb ganddynt cyn iddynt suddo yn ôl i lesmair y chwyn.

Dr Watts Mount

Yna gwelais ar ymyl y bonc gof-faen bychan a osodwyd yno, yn dweud “Dr Watts Mount,” Roedd hwn wedi ei guddio o dan ychydig eiddew ac wedi dirywio yn arw yn wyneb y tywydd a’r diffyg gofal. Cefais gyfle bach i ddiolch i’r Arglwydd am bobl fel Watts oedd wedi neilltuo eu doniau i glodfori ein Gwaredwr. Sylweddolais hefyd mai prif angen y drindod ar y bonc oedd nid cyffuriau llesmeiriol ond Iesu a’i iachawdwriaeth. Ond roedd y cwestiwn dal heb ei ateb sef, beth oedd y cysylltiad rhwng Isaac Watts â mynwent Abney Park? Mae’r hanes yn ddiddorol.

Stoke Newington

Adeiladwyd rhan o fynwent Abney Park ar dir Abney House, cartref Syr Thomas Abney. Aeth Isaac Watts i Academi Anghydffurfiol Stoke Newington. Yn y cyfnod hwn nid oedd Anghydffurfwyr yn cael mynychu Prifysgolion fel Rhydychen a Chaergrawnt ac felly sefydlwyd nifer o academïau Anghydffurfiol.  Wedi cyfnod byr i ffwrdd yn Llundain dychwelodd yn ôl i Stoke  lle y treuliodd weddill ei oes. Ymgartrefodd i ddechrau yng nghartref y teulu Hartopp lle y gweithiodd fel tiwtor ac yna yn ddiweddarach yn Abney House er mwyn bod yn gwmni i Lady Mary gweddw’r diweddar Sir Thomas a’i merch. Arhosodd yno am 36 o flynyddoedd.

Awdur

Roedd Watts yn hoff iawn o gerdded yng ngerddi’r plasdy lle roedd yn cael ysbrydoliaeth i ysgrifennu emynau a llyfrau. Roedd yn awdur toreithiog a ysgrifennodd lyfrau ar amrywiol bynciau. Un o’i lyfrau enwocaf oedd ei lyfr ar Resymeg (Logic) sef, The Right Use of Reason in the Enquiry After Truth With a Variety of Rules to Guard Against Error in the Affairs of Religion and Human Life, as well as in the Sciences. (1724)  Defnyddiwyd y gyfrol hon fel llawlyfr ym mhrifysgolion Rhydychen, Caergrawnt, Havarad a Yale.

Eisteddai Watts weithiau ar y bonc yn y gerddi am oriau i fyfyrio a meddwl. A dyma pam fod y bryncyn wedi ei enwi ar ei ôl a cherflun mawreddog ohono wedi ei osod yng nghanol y fynwent.



Gadael sylw