Mynwent Abney Park.
Wrth adael y fynwent, gofynnais i’r rheolwr os oedd pobl eraill, ar wahân i Henry Richards, wedi eu claddu yno oedd gyda chysylltiadau Cymreig. Dywedodd wrthyf fod Betsi Cadwaladr wedi ei chladdu yno. Ni allwn ar unrhyw gyfrif adael heb dalu gwrogaeth i cymeriad arbennig hwnnw. Fell yn ôl a fi i chwilio am ei beddrod. Wrth gerdded llwybrau’r fynwent am yr eildro, wedi gweld cof golofn Henry Richards, sylweddolais eu bod wedi clirio’r mieri oddi ar nifer o feddau eraill, gan gynnwys bedd William a Catherine Booth, sylfaenwyr Byddin yr Iachawdwriaeth. Wrth chwilio am fedd Betsi Cadwaladr cerddais heibio i glamp o gerflun o’r emynydd Isaac Watts. Gofynnais i mi fy hun, pam fod hwnnw yno? Oherwydd gwyddwn yn iawn fod ei weddillion ef wedi eu claddu ym Mynwent Bunhill Fields.. Mae’r hanes pan fod y cerflun yno yn un diddorol ac fe gaf gyfle i rannu gyda chi am hynny yn yr erthygl nesaf.
Or diwedd deuthum ar draws fedd a chofeb i’r nyrs enwog Betsi Cadwaladr y wraig sydd a’i henw ar Awdurdod Iechyd Gogledd Cymru. Ond pam fod ei bedd mewn rhyw gilfach o ogledd Dwyrain Llundain? Dyma beth o hanes y wraig hynod hon.
Elisabeth Cadwaladr, ‘Balaclava’
Yr oedd Betsi Cadwaladr yn dipyn o aderyn brith a wrthododd gydymffurfio â’r hyn a ddisgwylid ganddi. Daw’r cwbl a wyddom am ei gyrfa o’r Autobiography of Elizabeth Davis (dwy gyfrol, 1857), sef nodiadau o sgyrsiau rhyngddi hi a Jane Williams, Ysgafell. (Gwraig hynod arall a anwyd yn Chelsea ond a ddysgodd Gymraeg pan oedd yn byw am gyfnod yn ardal Talgarth. Cyhoeddodd lyfr ar hanes Cymru ym 1869, sef A History of Wales.)
Y Bala
Merch i Dafydd Cadwaladr oedd Betsi, ac yn un o naw o blant. Yr oedd ei thad yn gyfaill mawr i Thomas Charles o’r Bala, yn bregethwr gyda’r Methodistiaid ac yn dipyn o gymeriad. Ganwyd hi ar 24 Mai 1789 ac fe’i bedyddiwyd yn Llanycil ar 26 Mai. Bu farw ei mam tua 1795 ac fe’i magwyd gan ei chwaer hŷn. Derbyniwyd hi am gyfnod ar aelwyd Simon Lloyd, Plas-yn-dre, y Bala, lle y profodd garedigrwydd mawr. Yr oedd Simon Lloyd yn ŵr cefnog; ef oedd perchennog tyddyn ei thad a bu’n gurad eglwys Llanycil am gyfnod. Ond pan oedd Elisabeth Cadwaladr yn bedair ar ddeg daeth tro ar fyd pan ffodd i Lerpwl. Yno bu’n gweini gyda theulu da eu byd a chafodd gyfleoedd i deithio i amryw o wledydd y cyfandir, ond glynodd wrth yr achos Methodistaidd yn y dref. Dychwelodd i’r Bala, ond er mwyn osgoi priodi ffodd eto, y tro hwn i Gaer ac yna i Lundain. Arhosodd i ddechrau dan gronglwyd John Jones, ‘Jac Glany-gors’, awdur Seren Tan Gwmwl, a cheidwad tafarn y Canterbury Arms, Southwark, cyn cael gwaith yn forwyn yng nghartref teiliwr ffasiynol. Yn y fan honno gallai gyfuno’i diddordeb yn y theatr â’i ffyddlondeb i’r capel. Ym 1820 aeth yn forwyn gyda theulu capten llong a chrwydrodd y byd am flynyddoedd gan gyfarfod pobl fel William Carey ac actio dramâu Shakespeare ar fwrdd y llong. Pan ddychwelodd i Loegr bu’n gwasanaethu gyda theulu ac yna fe’i cyflogwyd fel gweinyddes yn Guy’s Hospital.
Nyrsio
Arweiniodd hynny hi i gynnig mynd i weithio gyda’r milwyr clwyfedig yn rhyfel y Crimea ym 1854, ac felly y gwnaeth. Y mae’r Crimea yn ardal sydd yn ne-ddwyrain Wcráin bellach, ond rhwng 1853 a 1856 yr oedd rhyfel gwaedlyd yno. Bu gwrthdaro ffyrnig rhwng Rwsia a chlymblaid a gynhwysai Brydain, Ffrainc, Brenhiniaeth Sardinia a’r Ymerodraeth Otomanaidd, a bu’n drobwynt pwysig yn hanes gwleidyddol Ewrop. Yn filitaraidd yr oedd yn anhrefn llwyr gyda bywydau dynion yn cael eu haberthu’n ynfyd gan arweinyddion cibddall, fel yn hanes y Charge of the Light Brigade ym mrwydr Balaclava. Hefyd yr oedd y gofal a roddid i’r sâl a’r clwyfedig yn waradwyddus. Bu farw mwy o ddynion o salwch nag a wnaeth ar faes y gad. Yma y daeth Florence Nightingale (1820–1910) i enwogrwydd wrth iddi fynnu safonau glendid uwch a threfn gofal gwell ar gyfer y cleifion. Ac yma yng nghanol y dioddefaint y gweithiodd Betsi Cadwaladr, yn gofalu am yr anghenus. Dywedir bod pethau wedi mynd yn ddrwg rhyngddi hi a Florence Nightingale ond ni wyddys y rheswm pam.
N’ôl Gartref
Anfonwyd hi adref yn wael a threuliodd ei blynyddoedd olaf yn byw mewn tlodi gyda’i chwaer Bridget a fu’n gweini gyda’r Arglwyddes Llanofer, yn Llundain. Glynodd wrth Gristnogaeth drwy gydol ei hoes, a chydymaith cyson iddi ar ei theithiau oedd y Beibl bychan a roddwyd iddi gan Thomas Charles pan oedd yn eneth ifanc. Bu farw yn Llundain ar 17 Gorffennaf 1860. Fe’i claddwyd ym Mynwent Abney Park yn yr adran a neilltuwyd ar gyfer y tlodion. Gosodwyd carreg fedd newydd ar ei bedd ym mis Awst 2012.
O y byddwch byth ar ymweliad â Llundain y mae’n werth i chi fynd ar ymweliad â mynwent Hanesyddol Abney Park. Y tro nesaf wrth Ddilyn Llinyn fe ystyriwn pam fod cerflun Isaac Watts ym mynwent Abney Park.



Gadael sylw