Sabothal

Ond glŷn di wrth y pethau a ddysgaist, ac y cefaist dy argyhoeddi ganddynt. – 2 Timotheus 3:14


Dilyn Llinyn 1 Henry Richards

Mynwent Abney Park

Sylwais wrth ddarllen y Tyst – ffynhonnell pob math o wybodaeth fuddiol – fod yr Apostol Heddwch, Henry Richards wedi marw ar yr 20fed Awst 1888 yng nghartref ei ferch yn Nhreborth, ger Bangor, a bod ei weddillion wedi eu claddu ym mynwent Abney Park, Llundain. Fel un a aned ym Mangor yr oeddwn yn gyfarwydd iawn â phlasty Treborth, sydd rhwng y ddwy bont ar ochr Bangor, ond ni wyddwn ddim am Abney Park. Trwy gyd-ddigwyddiad roeddem wedi trefnu treulio deuddydd yn ninas ddifyr Llundain felly penderfynais y byddai ymweliad â Mynwent Abney Park yn cael ei osod ar yr amserlen. Y “Magnificent Seven” yw’r enw a roddir ar saith o hen fynwentydd Llundain ac os oes gennych ddiddordeb mewn hanes y mae’n werth ymweld â hwy oherwydd y mae llawer o enwogion wedi eu claddu ynddynt a nifer o Gymry yn eu plith. Gellir cael llawer o fanylion amdanynt a phwy sydd wedi eu claddu ynddynt trwy fynd ar wefan britainsbestguides.org.

Cofeb Urddasol

Gan ein bod yn aros yn ardal Earls Court roedd rhaid dal y District line, newid yng Ngorsaf Victoria a dal y Victoria Line i Seven Sisters ac oddi yno ar y London Overground i Stoke Newington. Nid nepell o’r orsaf i lawr stryd fawr Stoke Newington yr oedd y fynwent ar y dde. Ar wahan i’r llwybrau ac ambell i fedd enwogyn o fri y mae cyfeillion y fynwent wedi gadael iddi dyfu yn wyllt gan orchuddio’r mwyafrif o’r beddau gyda drain a mieri. Gofynnais o flaen llaw i Huw Edwards, un sy’n llawn gwybodaeth am hanes Cymry Llundain, ble yn union yr oedd bedd H. Richards. Oherwydd hynny canfyddais ef heb fawr o drafferth. I ddweud y gwir roedd y gofeb iddo mor fawr fel y byddai wedi bod yn anodd iawn i’w methu. Adeiladwyd y gofeb trwy danysgifiadau cyfeillion a chydnabod H. Richards yng Nghymru a thu hwnt. Ond pam fod cofeb mor eithriadol i’r gŵr hwn ym mherfeddion Llundain?

Hanes Henry Richard

Dyma beth o’i hanes, Ganwyd Henry Richard ar 3 Ebrill 1812 yn Prospect House,Tregaron, yn ail blentyn a mab hynaf Ebenezer Richard a Mary. Roedd ei dad yn ŵr diwylliedig ac yn fab i athro cylchynol yn ysgolion Gruffudd Jones. Bu’n athro ac yn diwtor preifat i deulu Bowen, Llwynygwair, ac yr oedd ymhlith gweinidogion cyntaf y Methodistiaid Calfinaidd a ordeiniwyd ym 1811. Etifeddodd ei fam ystâd ei brawd, a hyn a’i galluogodd i roi addysg dda i’w phlant. Cafodd Henry Richard yr addysg orau a gaed yng Ngheredigion ar y pryd, yn Ysgol Ramadeg Llangeitho ac yna yn Ysgol Mathemateg a Masnach John Evans yn Aberystwyth. Wedi gorffen yn yr ysgol bwriodd ei brentisiaeth fel dilledydd yng Nghaerfyrddin gan dreulio cyfnod yn gweithio yn Aberystwyth yn siop John Mathews y draper. Yna rhoddodd ei fryd ar y weinidogaeth ac aeth i Goleg Annibynnol Highbury yn Llundain. Yno cafodd addysg yn y clasuron, athroniaeth, diwinyddiaeth ac ieithoedd modern, ac yn y cyfnod hwn yr heuwyd hadau ei ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth. Ym 1835 ordeiniwyd ef yn weinidog ar eglwys yr Annibynwyr Saesneg, Marlborough Street ar yr Old Kent Road, Llundain, a bu yno hyd ei ymddeoliad ym 1850. Ym 1847 cyhoeddwyd yr Adroddiadau ar Gyflwr Addysg yng Nghymru (Brad y Llyfrau Gleision) ac ymatebodd Henry Richard yn egnïol iddynt trwy amddiffyn y Cymry a’u hiaith yn erbyn ymosodiadau enllibus yr adroddiadau.

Heddychwr

Penodwyd ef ym 1848 yn ysgrifennydd y Gymdeithas Heddwch ac fe ysgrifennodd, “Y mae’r Gymdeithas Heddwch yn croesawu unrhyw un sy’n caru Heddwch i ymaelodi, p’un ai ydynt yn derbyn y gred haniaethol ynglŷn â dyletswydd Gristnogol ar y pwnc ai peidio. Crëwyd y Gymdeithas i ysgogi barn gyhoeddus yn erbyn y

Gyfundrefn Ryfel ac i annog mabwysiadu dulliau Cristnogol a theg i ddatrys anghytundebau rhyngwladol.” Roedd ef hefyd yn gyfrifol am barhad a datblygiad cyfres o gymanfaoedd heddwch pwysig a gynhaliwyd ym Mrwsel (1848), Paris (1849), Frankfurt (1850) a Llundain adeg yr Arddangosfa Fawr ym 1851. Bu hefyd yn gofalu am rai o gyhoeddiadau’r Gymdeithas. Ym 1866 cyhoeddodd y gyfrol Letters a Essays on Wales, a oedd, yn ôl Ieuan Gwynedd Jones, yn un o’r llyfrau pwysicaf am Gymru a gyhoeddwyd yn y 19eg ganrif. Ei fwriad oedd goleuo’r Saeson ynglŷn â’r Cymry, eu cyflwr cymdeithasol a’u gwleidyddiaeth, gan eu haddysgu am y math arbennig o genedlaetholdeb a fodolai mor agos atynt.

Aelod Seneddol

Etholwyd ef yn aelod seneddol Rhyddfrydol dros Ferthyr Tudful ym 1868. Safodd yn gadarn dros fuddiannau Cymreig ac Anghydffurfiol yn ystod ei dymor yn y Senedd ac yno hefyd, yng Ngorffennaf 1873, llwyddodd i gario mesur o blaid cyflafareddiad rhwng y gwledydd. Bu farw yn Treborth, Bangor, 20fed Awst, 1888, ac fe’i claddwyd ym mynwent Abney Park,

O wybod yr hanes, dim rhyfedd fod ei gyfeillion wedi mynd ati i godi gofeb urddasol iddo yn y fynwent. Wedi i mi  dalu gwrogaeth iddo, ar y ffordd allan trewais heibio i swyddfa ceidwad y fynwent sef Jake. Gofynnais iddo a wyddai am unrhyw Gymry eraill oedd wedi eu claddu yno? Atebodd, “Ydw, mae Betsi Cadwaladr wedi ei chladdu yma.” Wel, os y dywedodd o.  Ni allwn adael heb dwtsho nghap i Betsi, felly yn ôl a fi i chwilio am ei charreg fedd. Fe gewch yr hanes y tro nesaf.



Gadael sylw