Ysgrifennwyd y canlynol ar gyfer cyfarfodydd Cyngor Undeb yr Annibynwyr ym mis Mawrth 2018
Nid oes rhaid i neb ein hysbysu erbyn hyn o’r dirywiad enbyd mewn eglwysi Cymraeg eu hiaith ar hyd a lled Cymru a’r tebygolrwydd y bydd hyn yn parhau i’r dyfodol y mae’n bryd i ni ystyried sut y gall yr Undeb annog yr eglwysi i ymateb yn ymarferol weithredol i hyn. Nid ydym fel Cristnogion yn bobl sy’n troi ein hwynebau tua’r pared gan ddisgwyl difodiant, i’r gwrthwyneb rydym yn bobl Iesu Grist sydd a’n wynebau tuag at y wawr. Efallai fod ein hadnoddau dynol ac ariannol yn brin ond y mae’r Arglwydd bob amser yn ffyddlon i fenter ffydd ei bobl ac yn agor drysau bendith iddynt. Wrth gwrs y mae eglwysi unigol yn ystyried hyn ac y mae rhaglen ddatblygu’r Undeb a chynllun y Ffordd yn gwneud gwaith penigamp. Fel ychwanegiad i hyn hoffwn awgrymu’r syniadau canlynol i’w trafod:
- Gwneud arolwg bras o eglwysi Cymraeg Ymneilltuol gan geisio canfod ardaloedd sydd heb dystiolaeth Gristnogol Gymraeg.
- O gael y wybodaeth uchod gellid ystyried pa bentrefi neu drefi sydd fwyaf addas i gychwyn gwaith Cristnogol Cymraeg newydd.
- Gellid annog yr eglwysi byw agosaf at yr ardaloedd hynny i ystyried cychwyn gweithgaredd Cristnogol newydd e.e., astudiaeth Feiblaidd, clwb plant, clwb henoed, oedfa o fawl achlysurol. Y drefn a ddefnyddiwyd gan eglwysi annibynnol yn y gorffennol oedd cychwyn ysgol Sul/ cyfarfod Beiblaidd ac yna sefydlu eglwysi bychain trwy gyfamod.
- Yn Effesiaid 4:11 mae Paul yn cyfeirio at roddion Duw i’r Eglwys ac un ohonynt yw “efengylwyr”. Pobl yw’r rhain sydd â dawn arbennig i gyflwyno’r newyddion da am Iesu mewn ffordd heriol i anghredinwyr gan gychwyn achosion newydd. (Iesu a Paul yn enghreifftiau Beiblaidd) Enghreifftiau hanesyddol yn y traddodiad Annibynnol yw William Williams o’r Wern ac Azariah Shadrach ymhlith eraill. Y mae’n bryd i ni ystyried codi a noddi “Efengylwyr” i weithio mewn ardaloedd di-dystiolaeth.
- Peth arall y gellid ei wneud, gyda chydweithrediad cynulleidfa leol, yw cynnal ymgyrch dros gyfnod o rai dyddiau gyda gweithgareddau amrywiol i geisio cyrraedd pobl newydd. Un ai gallai eglwys leol wneud hyn drwy ei phen ei phastwn ei hun neu efallai yr hoffai wahodd pobl o eglwysi eraill sydd â doniau arbennig i gynorthwyo.
Os na wnawn ni hyn yn fuan, y tebygolrwydd yw y bydd Eglwysi Saesneg bywiog yn symud i mewn i ardaloedd Cymraeg neu bydd crefydd eraill yn camu i mewn i’r bwlch mawr ysbrydol sy’n cael ei greu gyda dirywiad enbyd Cristnogaeth yng Nghymru.

Gadael sylw